Gigs yr Hydref – Cered

MEDI 19 – Clwb Rygbi Llambed, 7.30yh
Al Lewis, gyda Rhiannon O’connor

HYDREF 10 – Y Cwps, Aberystwyth, 7.30yh
Ani Glass, gyda Tai Haf Heb Drigolyn

TACHWEDD 7 – Y Seler, Aberteifi, 7.30yh
The Gentle Good, gyda Rhiannon O’connor

Clwb Clonc Creadigol, Aberteifi

Melfed, 6 Arcêd, Stryd Fawr, Aberteifi
Dydd lau o 18ed Medi 2025, 11am – 1pm
5 x Sesiwn – Mynediad am ddim!

  • Ymarfer siarad Cymraeg
  • Dysgu Sgiliau
  • Paned, cwmni da a chymdeithasu
  • Atgywerio dillad, trwsio tyllau, byrhau trowsyr a mwy

Bwcio / manylion: 07966 776906

Melfed, 6 Arcade, High Street, Cardigan
Thursday from 18th September, 11am – 1pm
5 x Sessions – Free entry!

Practice your Welsh
Learn new skills
Cuppas, Community and Company
Fixing clothes, mending holes, shortening trousers and more

Booking / details: 07966 776906

Cymdeithas Ceredigion – Noson Trafod Buddugwyr Eisteddfod Wrecsam 

Screenshot

7pm nos Sadwrn 6ed mis Medi, yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes

Buddugwyr Eisteddfod Wrecsam 

Bydd croeso cynnes i bawb mewn noson i ddathlu buddugwyr cystadlaethau ysgrifennu Eisteddfod Wrecsam. Mae’r noson yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Ceredigion. Dyna noson gyntaf eu rhaglen amrywiol a difyr. Mae’r noson i drafod gwaith sy wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd bob blwyddyn, felly dewch yn gynnar i fachu’ch sedd, ac aros yn hwyr i gymdeithasu dros banad! 

Bydd y noson yn dechrau am 7pm nos Sadwrn 6ed mis Medi, yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes, gyda’r Prifardd Tudur Dylan yn cadeirio. Bydd rhai o’r llenorion buddugol yn bresennol i gyfrannu at y trafod, gan gynnwys Owain Rhys, a enillodd y Goron. 

Pris y tocyn (i’w brynu wrth y drws) yw £10, sy’n cynnwys aelodaeth am y flwyddyn er mwyn mynychu’r 8 cyfarfod rhwng mis Medi a mis Ebrill

Dyma gyfle i ddod i grŵp sy’n gwneud popeth yn Gymraeg. ac mae’n rhoi croeso arbennig i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae llawer o siaradwyr newydd, sef pobl sy wedi dysgu Cymraeg yn ail iaith, yn y grŵp. 

Yn ystod y flwyddyn, bydd digwyddiadau llenyddol, cerddorol a sgyrsiau am hanes – yn ogystal â bwyd da mewn sawl un o’r cyfarfodydd. Maen nhw fel arfer yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes ar nosweithiau Gwener, ond ddim bob tro. Eleni, bydd sesiwn ‘Sut i ddofi corryn… Holi’r bardd a’r llenor Mari George’ 3ydd mis Hydref, a’r hanesydd poblogaidd Hedd Ladd-Lewis yn siarad am Ryfel y Degwm 7fed mis Tachwedd. Cynhelir ein Cinio Nadolig gyda rhai o ddosbarth telyn Meinir Heulyn yn rhoi’r adloniant. 

Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, gwasanaeth Plygain yng Nghapel Blaenannerch yw noson arall i edrych ymlaen ati, gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn. Ym mis Chwefror, bydd noson o glywed straeon am bethau dwys a doniol yn hanes Cymdeithas Ceredigion, ac wedyn i ddathlu Gŵyl Dewi, cynhelir noson ‘Cawl a Cherddi’, gydag Eisteddfod y Gymdeithas, sy wastad yn noson hwyliog iawn. Mae’r cystadlaethau amrywiol (barddoniaeth a rhyddiaith, dwys a digri) yn agored i bawb ac mae cystadleuaeth arbennig i ddysgwyr. Castell Aberteifi yw lleoliad cyfarfod olaf y flwyddyn ym mis Ebrill, gyda sgwrs gan Non Davies am gysylltiad y Castell â’r Eisteddfod Genedlaethol, a chinio i ddilyn ym Mwyty 1176.

Mae croeso cynnes i bawb bob tro. Am ragor o fanylion cysylltwch â dbroberts@btinternet.com neu philippa.gibson@gmail.com  07787 197630

Cymdeithas Ceredigion – Rhaglen 2025 – 2026

Y cyfarfodydd i’w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes oni nodir yn wahanol.  Sylwch fod y rhan fwyaf ohonynt bellach ar nos Wener.

Nos Sadwrn, 6 Medi 2025 am 7:00
Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yng nghwmni sawl enillydd
Cadeirydd: Y Prifardd Tudur Dylan
Rhagor o fanylion fan hyn

3 Hydref 2025 am 7:30
Mari George – Sut i ddofi corryn… holi’r bardd a’r llenor

7 Tachwedd 2025 am 7:30
Hedd Ladd Lewis – Rhyfel y Degwm

5 Rhagfyr 2025 am 7:00
Cinio Nadolig
gyda Meinir Heulyn a’i dosbarth telyn

Nos Sul, 11 Ionawr 2026 am 7.00
Gwasanaeth y Plygain, Capel Blaenannerch

6 Chwefror 2026 am 7:30
Y difri a’r digri: atgofion am y Gymdeithas gan aelodau a chyfeillion

6 Mawrth 2026 am 7:00
Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi – gweler isod am fanylion
Beirniad: Emyr Davies 

10 Ebrill 2026 am 11:00 bore Gwener 
Ymweliad â Chastell Aberteifi:
11am Ystafell y Tŵr: Sgwrs gan Non Davies: Castell Aberteifi a’r Eisteddfod
tua 12:15 Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas
tua 1pm Bwyty 1176: cinio

YR EISTEDDFOD – TESTUNAU

Beirniad: Emyr Davies

Mae’r holl gystadlaethau yn agored i bawb

Gwobr Goffa Pat Neill: Cerdd gaeth neu rydd (heb fod dros 40 o linellau): i unrhyw dref neu bentref yng Ngheredigion

Gwobr: Cadair Fechan a £50

  1. Englyn: i Athro neu Athrawes
  2. Triban: beddargraff cymeriad cartŵn 
  3. Cywydd: Plygain (hyd at 18 o linellau)
  4. Parodi o unrhyw bennill telyn enwog
  5. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Peth anodd yw gweithio o gartre’ neu ‘Mae gweithio o gartre’n beth anodd’
  6. Llythyr doniol at unrhyw Aelod Seneddol / Aelod o Senedd Cymru
  7. Erthygl i bapur bro: portread o unrhyw Nyrs / Postmon / Ffermwr lleol
  8. Cystadleuaeth i ddysgwyr (unrhyw lefel): cerdd neu ddarn o ryddiaith i unrhyw anifail
  9. Cystadleuaeth i rai dan 25 oed: cerdd neu ddarn o ryddiaith ar y testun ‘Protest’

Gwobrau ar gyfer gystadlaethau 1-8: £20; Rhif 9: Tlws a £20

Gwobrau eraill i’w cadw am flwyddyn:

Cadair Her am y darn barddoniaeth gorau (ac eithrio cystadleuaeth Pat Neill)

Cwpan Her Ben Owens am y darn rhyddiaith gorau.

Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw’r ymgeisydd ar wahân.  Derbynnir cynigion drwy’r post arferol neu drwy e-bost. Y cyfansoddiadau i law Gwenda Evans, Awelfor, Sarnau, Llandysul, Ceredigion SA44 6QS  01239 654552 gwendaevans257@btinternet.com erbyn y dyddiad cau, dydd Llun 16 Chwefror 2026.

Cymdeithas Cymrodorion Llandysul

RHAGLEN TYMOR 2024-2025

Nos Fercher, Hydref 16eg 2024
Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
Y Prifardd Dr Aneirin Karadog
Testun: “Bachgen Bach o Bonty”
Llywydd: Mr Philip Ainsworth

Nos Fercher, Tachwedd 20fed 2024
Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
Mr Gerwyn Morgan
Testun: “Boneddigion Godre Dyffryn Teifi”
Llywydd: Mrs Anne Thorne

Nos Fercher, Ionawr 15fed 2025
Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
Yr Athro David Thorne
Testun: “Eglwys Waunifor”
Llywydd: Canon Aled Williams

Nos Fercher, Chwefror 19eg 2025
Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh
Noson yng nghwmni yr arlunwyr
Meirion a Joanna Jones
Llywydd: Mr David Lewis

Mawrth 9fed 2025 – Sul Cenedlaethol
Eglwys Sant Tysul, Llandysul, 10yb
Gwasanaeth o dan ofal Canon Gareth Reid

Cymdeithas y Gaeaf – Rhaglen 2024 – 2025

BOREAU COFFI: 10.30-12.30 yn Festri Capel Blaenannerch


13 Medi 2024
11 Hydref 2024
8 Tachwedd 2024
13 Rhagfyr 2024
10 lonawr 2025
14 Chwefror 2025
14 Mawrth 2025

SIARADWYR : 2.00pm yn Festri Capel Blaenannerch


7 Hydref 2024
Mrs Aeres James
Doliau Ŷd

4 Tachwedd 2024
Mr Emyr Phillips
Chwareli Cilgerran

9 Rhagfyr 2024
Mrs Sharon Harries
Caligraffi – sylwer, yr ail ddydd Llun

6 lonawr 2025
Mr Huw Morgan
Pennaeth yr Adran Arlwyo, Coleg Ceredigion


3 Chwefror 2025
Mr Hedd Ladd-Lewis
Brwydr y Degwm

3 Mawrth 2025
Dathlu Gwyl Ddewi

Cymdeithas Ceredigion – Rhaglen 2024 – 2025

Y cyfarfodydd i’w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes oni nodir yn wahanol. Sylwch fod y rhan fwyaf ohonynt bellach ar nos Wener.

Am y newyddion diweddaraf o’r Gymdeithas, gwiriwch eu tudalen Facebook.

Nos Sadwrn, 7 Medi 2024 am 7:00
Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yng nghwmni’r prif enillwyr
Cadeirydd: Y Prifardd Tudur Dylan

Nos Wener, 4 Hydref 2024 am 7:30
Jo Heyde – Cân y Croesi (Bardd y Mis Radio Cymru, Gorffennaf 2024)

Nos Wener, 1 Tachwedd am 7:30
Carwyn Graves – Tir: ein tirwedd diwylliannol

Nos Wener, 7 Rhagfyr am 7:00
Cinio Nadolig
Gydag adloniant

2025

Nos Sul, 12 Ionawr 2025 am 7.00
Gwasanaeth y Plygain, Capel Blaenannerch

Nos Wener, 7 Chwefror am 7:30
Emyr Llywelyn, Carol Davies ac Owenna Davies: Noson i ddathlu hiwmor Emyr Pen-rhiw a’r diweddar Dai Rees Davies

Nos Wener, 7 Mawrth am 7:00
Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi
Beirniad: y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan

Nos Wener, 4 Ebrill am 7:30
Alis Hawkins – Pechodau’r Gorffennol: ffuglen drosedd hanesyddol

Nos Wener, 2 Mai am 7:00
Cyfarfod Blynyddol a Swper y Gymdeithas

Mis Mehefin
Taith y Gymdeithas (y manylion i ddilyn)