Cwestiwn yr Wythnos – beth yw’r aderyn hwn?

Beth yw enw’r aderyn yn y llun, a ble fyddech chi’n debyg o’i gweld hi?

Os hoffech chi ymarfer enwau adar yn Gymraeg, dyma set o gardiau fflach ar Quizlet. A dyma set arall gyda lot mwy o adar, i’r adarwyr go iawn!

What’s the name of the bird in the picture (yn Gymraeg!), and where would you be likely to see it?

(The links are to flashcards to practice 22 common birds’ names, and a bigger set of 100 British birds – for serious birders only!)

 

[Llun gan Ron Knight, dan drwydded Comins Creadigol.]

3 sylw ar “Cwestiwn yr Wythnos – beth yw’r aderyn hwn?

  1. Y frân goesgoch yw’r aderyn. Byddech chi gweld hi o’r llwybr arfordir yn Sir Benfro e.e. Pencaer, Pen Dinas neu Anne’s Head.

  2. Da iawn! Rydyn ni’n gweld llawer o’r brain coescoch yng Ngheredigion hefyd.

    Gwelais i grwp o bump ar bwys Ynys Lochtyn, ger Llangrannog.

  3. Mae Beavan wedi ffeindio hen enw arall mewn geiriadur sy’n hen iawn (o oes Victoria). Ond dw i ddim yn cofio’r hen enw – gobeithio bydd e’n rhoi’r enw yma cyn bo hir.

Sylwadau ar gau.