Adroddiad Noson Merched y Wawr

Diolch yn fawr i Louise O’Neill am wneud yr adroddiad isod! 

Cawson ni noson lawn o hwyl nos Fercher wythnos diwetha pan oedd grŵp Merched Y Wawr Aberteifi yn ein gwahodd ni am noson o gymdeithasu.  Roedd tua phum deg o bobl yn cymryd rhan gyda llawer o chwerthin a sgwrsio drwy’r noson.

Roedd y cwis yn ddiddorol, ac roedd rhaid i ni feddwl yn galed iawn am rai o’r atebion – a doedd dim llawer o bobl yn adnabod y lluniau o fynydd Sugar Loaf a chronfa ddŵr Llys-y-frân chwaith. Roedd ein bwrdd ni’n mywnhau’r gêm cofio beth oedd yn y bag gan Philippa achos enillon ni!

Ar ôl y gêmau cawson ni gacennau hyfryd a te cyn mynd adre. Diolch yn fawr i Ferched y Wawr eto am fod mor garedig wrthon ni i gyd ac i Philippa am wneud y gêmau.

 


 

Ydych chi wedi bod i ddigwyddiad lleol yn diweddar? Beth am sgewnnu amdano a rhannu’r profiad gyda darllenwyr y cylchlythyr? Mae’n dasg arbennig ar gyfer gwaith cartre! Siaradwch â’ch tiwtor, neu ebostio nicdafis@gmail.com

Have you been to a local event and used your Cymraeg recently? How about writing about it and sharing the experience with the newsletter’s readers? It makes a great homework task! Talk to your tutor, or email it direct to nicdafis@gmail.com

Un sylw ar “Adroddiad Noson Merched y Wawr”

Sylwadau ar gau.