Y Negesydd

Cynigion arbennig i ddysgwyr

Cynigion arbennig i ddysgwyr a’u ffrindiau, a’r Cymry sy’n helpu yn y dosbarthiadau:

1. Tocyn am £8, sef pris ysgolion (yn lle £11 neu £10). Bydd rhaid bwcio eich tocyn eich hunan, gan ddweud eich bod yn rhan o grŵp Philippa i gael y pris arbennig.

2. Sesiwn o drafodaeth ar gyfer dysgwyr a’u ffrindiau am ddim gan y Theatr Genedlaethol neu gyda Caryl Lewis. Enwau i Philippa (01239 654561 philippa.gibson@gmail.com ) achos bydd rhaid i ni ddweud faint o bobl fydd yn mynd i’r sesiwn hwn.

Y stori

Hanes cymuned fechan a chlos yng nghefn gwlad Ceredigion yw Y Negesydd. Mae’r stori yn troi o amgylch merch o’r enw Elsi a hanes ei bywyd hi. Mae Elsi’n clywed lleisiau gan y meirw ers yn blentyn, ac mae’r ddrama yn adrodd hanes ei pherthynas â’r gymuned, ei thad, ei chariad cyntaf (Ifan) a thrigolion y fro, wrth i’r cymeriadau heneiddio ac wrth i’r gymuned foderneiddio.
Mae’r ddrama yn mynd â ni ar daith trwy fywyd Elsi, yn blentyn tan ei bod yn ei ugeiniau.

The story
Y Negesydd is the story of a young woman from mid-Wales. The story focuses on the life of Elsi, haunted by voices of the dead since her childhood. The play follows Elsi’s relationship with her father, her first love (Ifan) and the local community as the characters age and their community faces the challenges of modern life.
The play tracks the life of the lead character Elsi from youth through to adulthood.

Fideo hyrwyddo (promote) Y Negesydd (sbŵci iawn!)
https://www.youtube.com/watch?v=_z8WiHesyfM&feature=youtu.be

Diwrnod yn mywyd Aled Pedrick, actor yn Y Negesydd, yn siarad am yr ymarferion
https://www.youtube.com/watch?v=0NwNTzZ3_4U

Cyfweliad â Gwyn Eiddior, Cynllunydd Set Y Negesydd.
http://theatr.wordpress.com/2014/04/28/holi-gwyn-eiddior-cynllunydd-set-y-negesydd/

Lleisiau Tregaron – pobl Tregaron yn siarad yn Saesneg am iaith ac acen Tregaron – eitha diddorol! http://sounds.bl.uk/Accents-and-dialects/BBC-Voices/021M-C1190X0041XX-2101V0

Tafodiaith
Mae’r gwahaniaeth o fewn tafodieithoedd yn ymddangos trwy
ynganiad yn ogystal â geirfa, a hefyd gyda pwyntiau gramadegol. Er enghraifft: ystyriwch y cwestiwn “Ydych chi eisiau paned o de?” Yn y gogledd byddai hyn fel arfer “Dach chi isio panad?” tra yn y canolbarth byddai “Ych moyn dishgled?” yn fwy tebygol.

Dialect

The differences in dialect are marked in pronunciation and vocabulary but also in minor points of grammar. For example: consider the question “Do you want a cup of tea?” In the north this would typically be “Dach chi isio panad?” while in mid Wales it would be more likely “Ych chi’n moyn dishgled?”

Engrheifftiau
Mae’r ddrama wedi lleoli yn ardal Dyffryn Aeron. O ganlyniad mae’n defnyddio tafodiaith y canolbarth. Dyma rai engrheifftiau o’r gwahaniaethau mewn tafodiaith ynghyd ag engrheifftiau o leisiau’r actorion.

Examples

The play has been set in the Aeron Valley and as a result references the local dialect of mid rural Wales. Below are some examples of the dialect along with examples of the actors’ voices.

Cymraeg safonol: Tafodiaith:
Oer Ôr
Gallaf ymadael? Wy’n cael mynd?
Gallu Geller
Eisiau Ise
Dw i ddim yn gwybod Wi’m yn gwybod

 

Noder: mae copi o’r sgrip gyda Philippa, os oes diddordeb gyda rhywun.

N.B. Philippa’s got a copy of the script, if anyone’s interested.

Canu’r Rheilffordd yn Ôl

(Ypdêt 13 Mehefin – Update 13 June)

Neges gan Joanna Bond / A message from Joanna  [English follows]

Helo, rwy’n ysgriffenu atoch i roi gwybod y bydd fy ymgyrch codi arian ar gyfer y brosiect “Canu’r Rheilffordd yn Ôl” yn dod i ben 24ain Mehefin. Mae gen i tan hynny i godi’r arian er mwyn cyfrannu’n greadigol at ail-agor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Ga’ i ofyn i chi felly i ymweld â’r tudalen ymgyrch indiegogo lle gallwch gyfrannu at y brosiect a derbyn rhodd anrhydeddus, os nad ydych chi wedi’i wneud eisioes. Hoffwn i ofyn i chi hefyd anfon y neges hon ymlaen at un cyfeill sy’n hoffi rheilffyrdd a’r celfyddydau.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth, ac edrychaf ymlaen at glywed gennych.

Hello, I am writing to you to let you know that my fundraising campaign to raise money so that I can run my project “singing the line into existence” is coming to an end on the 24th June. I have until then to raise funds to creatively contribute to re-opening the Aberystwyth to Carmarthen railway line.

Please visit the indiegogo campaign page where you can donate to the project and receive a token gift, if you have not already done so. I would also ask if you kindly forward this email to one other person who likes art and railways.

Thank you for your support and I look forward to hearing from you.

 

Ymgyrch Arlunydd i Ganu’r Rheilffordd yn ôl i Fodolaeth

Y mae’r prosiect newydd, cyffroes “CANU’R LEIN RHEILFFORDD YN ÔL I FODOLAETH”, sy’n magu ysbrydoliaeth gan dirlun a hanes y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, newydd ddechrau ymgyrch codi arian ar y wefan Indiegogo i gasglu’r arian tuag at yr achos. Wrth roi arian at y prosiect, gallech brynu gwaith unigryw o’r artistiaid.

Mae Joanna Bond, arlunydd ac arweinydd y prosiect, wedi talu am ddwy flynedd o waith ymchwil i’r prosiect, gan uno artistiaid, cerddorion, gwneuthurwyr ffilmiau, storïwyr a dawnswyr i helpu creu perfformiad amlgyfrwng, ac arddangosfa.

Bydd deg arlunydd yn cerdded ar hyd rhannau o’r hen reilffordd, gan ddawnsio, canu, creu ffilmiau a thynnu lluniau, sy’n cysylltu hanesion y rheilffordd gyda’u lleoliadau mewn ffordd greadigol. Bydd y darnau o waith yn cael eu casglu ar gyfer digwyddiad ym mhen draw’r daith; perfformiad mewn hen goets rheilffordd, gan deithio ar hyd Rheilffordd y Gwili, ac arddangosfa gyhoeddus yn yr orsaf. (am fwy o wybodaeth, ewch i singingthelineintoexistence.wordpress.com).

Yr arlunwyr yn y prosiect yw Joanna Bond, sy’n gwneud gwaith crochenwaith, canu a dawnsio; cynhyrchwyr ffilmiau, Jacob Whittaker a Naomi Heath; storiiwyr Peter Stevenson a Guto Dafis; cerddorion Ceri Rhys Matthews, Lynne Denman, Claire Parry a Elisa Davies, ac arlunwyr amlgyfrwng Ruth Hogg a Mary Jacob.

Mae Joanna yn rhan o ymgyrch Traws Link Cymru, sydd yn ymgyrchu dros adfer ac ailagor rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Defnyddir “CANU’R LEIN” fel trosiad am gysylltiad gan reilffyrdd a rheilffyrdd sydd wedi cau. Nid yn unig fyddai’n cysylltu gwahanol arlunwyr gyda’i chyfryngau, ond ceisiai amlygu’r pwysigrwydd o gysylltu Gorllewin Cymru gyda De Cymru a chreu modd o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n well i’r amgylchedd.

Gyda’r arian a godir drwy Indiegogo, fyddai’n creu digwyddiad arbennig.

 

Artist’s Campaign to Sing the Line into Existence

An exciting new project, SINGING THE LINE INTO EXISTENCE, inspired by the landscape and history of the old branch line between Carmarthen and Aberystwyth, has just launched a fundraising campaign on the web site Indiegogo to generate the money needed to complete the project. By donating different amounts to the project you can claim exclusive limited edition works from the artists.

Artist and project leader, Joanna Bond, has self-funded the last two year’s research and has now coupled together artists, musicians, film-makers, storytellers and dancers to help create a multidisciplinary performance and an exhibition.

Ten artists will walk along sections of the old railway line, to dance, film, sing, draw and make site specific art, reconnecting the locations and histories of the line through their creative responses to the journey. The piece builds towards the final destination – an event on the Gwili Railway: a performance in a vintage railway carriage travelling along part of the old route and a public exhibition at the station. (For more infomation visit http://singingthelineintoexistence.wordpress.com/ )

Artists on board are Joanna Bond, ceramicst, dancer and singer; film-makers, Jacob Whittaker and Naomi Heath; storytellers, Peter Stevenson and Guto Dafis; musicians Ceri Rhys Matthews, Lynne Denman, Claire Parry and Elsa Davies and multidisciplinary artists Ruth Hogg and Mary Jacob.

Joanna is part of the Traws Link Cymru Campaign, dedicated to the restoration and reopening of the line between Carmarthen and Aberystwyth. SINGING THE LINE uses railways and lost railways as a metaphor for connection. Not only will it connect different artists and their disciplines, but it hopes to communicate the importance of re-connecting West Wales with South Wales and creating more environmentally-friendly public transport.

With the money raised on Indiegogo, this will be a spectacular event.

Mwy o Deithiau Cyffrous Pat

Dyma ni eto gyda stori gan Pat o’r dosbarth Canolradd yn Aberteifi. Caeth hi a’i gŵr wyliau i’w cofio dros y Pasg, mae’n debyg! Cofiwch i gysylltu â ni os hoffech chi rannu stori gyda darllenwyr y cylchlythyr…

Y llynedd aethon ni i Fenidorm ar wyliau gyda’n ffrindiau dawnsio.  Gaethon ni amser gwych! Felly, ro’n ni wedi penderfynu mynd nôl eto eleni.

Ro’n ni’n hedfan o Faes Awyr Gaerdydd am chwarter wedi chwech bore Sadwrn.  Aeth John a fi i Abertileri ddydd Gwener i ymweld â ffrindiau a theulu yna.  Ro’n ni’n aros yn nhŷ mab John nes i’r minibws ddod i fynd â ni i Gaerdydd.  Daeth e am dri o’r gloch yn y bore.  Felly, ro’n ni wedi trial cysgu ond do’n i ddim yn gallu.  Cyrhaethon ni’r Maes Awyr am hanner awr wedi pedwar ac ro’n ni wedi blino lan.

Roedd y daith yn iawn ac roedd gwesty yr “Ambassador” yn lan iawn ond yn fawr iawn.

Dydd Sul

Mae e’n haf nawr felly rhaid i’r clociau fynd ymlaen. Ro’n ni wedi colli un awr yn barod ac nawr un arall!  Ar ôl brecwast cerddon ni i’r hen dre i weld yr hen eglwys. Mae e’n bert iawn ac yn wirioneddol hen.  Mae e’n bosib i gerdded ar y gorynys i weld y ail draeth. Ar y ffordd adre cerddon ni ar y traeth ac ro’n ni wedi padlo yn y môr.

Pan cyrhaeddon ni nôl yn y gwesty ro’n ni wedi blino lan, felly, wnaethon ni gysgu trwy’r prynhawn.

Ar ôl swper aethon ni i ddawnsio yng ngwesty y “Calypso” ac wedyn, yn ein gwesty.

Dydd Llun

Heddiw aethon ni ar daith bws trwy’r dydd o’r enw “Arabic Jewels” i weld y pentre o’r enw Guadalest yn y mynyddoed.  Yn y pentre cyntaf roedd llawer o “fertility fountains” ac hefyd welon ni ffatri gwneud olew olewydd.  Wedyn aethon ni i’r dafarn i flasu “tapas” yn rhad ac am ddim. Caethon ni ginio yna hefyd.

Ar ôl cinio aethon ni i hen bentre Guadalest.  Roedd hen gastell yna ond mae daeargryn wedi torri’r castell yn y bymthegfed ganrif.

Do’n ni ddim yn hoffi ein tywysydd taith achos doedd dim llawer o amynedd gyda fe, ac roedd e’n nawddoglyd iawn.

Roedd byg bola gyda ein ffrind, John, felly doedd e ddim yn gallu dod ar y daith gyda ni.

Pan cyrraeddon ni nôl, gofynodd dyn yn yr ystafell godderbyn â ni, i ni ei helpu fe achos bod ei fam wedi cwympo yn yr ystafell ymolchi. Ond roedd hi’n iawn pan roedd John wedi’i chodi hi. (Mae hi’n naw deg dau oed.) Roedd hi’n well yn y nos achos roedd hi yn y lolfa yn yfed wisgi mawr yn nes ymlaen!  Er gwaethaf y salwch gaethon ni lawer o hwyl.

Dydd Mawrth

Heddiw rodden nhw i fod nhw’n mynd ar daith di-dal i ffatri blancedi, ond yn ystod y nos roedd ein ffrind Norma wedi’i chludo i’r ysbyty lleol. Roedd hi wedi cwympo gyda dolur rhydd.  Pan roedd hi wedi cwympo, roedd hi wedi taro ei phen ac wedi torri ei danedd. Roedd rhaid iddi hi fynd i’r adran gofal dwys.

Dyn ni wedi treulio’r dydd i gyd o gwmpas y pwll nofio yn aros am newyddion am ein ffrind.

Dyna ddau o’n ffrindiau nawr sy’n mynd yn sâl gyda rhywbeth cas, felly dyn ni’n penderfynu’r prynu tabledi rhag ofn.  Dyn ni’n poeni nawr – pwy bydd nesa?

Arhoson ni yn ein gwesty heno.  Roedd “Teyrnged i Gene Pitney” yn y bar.

Dydd Mercher

Ar ôl brecwast cerddon ni i’r hen dre ar hyd y prif ffordd.  Aethon ni i draeth Poinette ble roedd llawer o Sbaenwyr.  Gaethon ni baned o goffi da iawn.  Wedyn, cerddon ni ar hyd y traeth, yn padlo yn y môr.

Roedd newyddion ddrwg o’r ysbyty.  Fydd Norma ddim yn dod adre gyda ni ddydd Sadwrn achos pan roedd hi wedi torri ei phen roedd rhaid iddi hi gael sgan ar y ymennydd.  Dyw popeth ddim yn iawn ac mae hi’n aros i weld niwrolegydd.

Roedd hi’n bwrw glaw yn y prynhawn ac hefyd trwy’r nos. Aethon ni i weld sioe “El Divo” yn nhafarn Morgan yn y nos.  Roedd e’n fendigedig!

Dydd Iau

Ro’n ni wedi eisiau mynd ar y trên heddiw ond achos y glaw roedd rhaid i ni aros yn y gwesty.  Yn y prynhawn aethon ni am dro ar hyd y traeth.  Roedd merched ifanc yn gyrru sgwteri anabledd ar hyd glan y môr yn gyflym iawn.  Ro’n i wedi meddwl roedd e’n jôc i’w wneud e fel darn o’u gwyliau – parti cywennod oedden nhw.

Dawnsion ni yng ngwesty “Don Pancho” yn y nos.  Ro’n ni wedi mwynhau ein hunan yn fawr iawn.

Dydd Gwener

Aethon ni i ymweld â Norma yn yr ysbyty yn y bore achos ei fod e dim ond rownd y gornel o’n gwesty ni.  Doedd hi ddim wedi edrych da ond mae hi’n gwella nawr. Ar y ffordd nôl ro’n ni’n gweld cwpl o actorion o’r rhaglen “Benidorm”.

Roedd rhaid i ni bacio ein casiau yn y prynhawn felly arhoson ni o gwmpas y pwll ar ôl y pacio.

Pan aethon ni i’r swper gaethon ni ein sioc.  Roedd Norma wedi’i rhyddau o’r ysbyty, felly mae hi’n gallu hedfan adre yfory!

Mwy o ddawnsio yn y nos yng ngwesty y “Calypso”.  Yn y nos do’n i ddim yn gallu cysgu achos roedd hi’n swnllyd iawn tu allan i’r gwesty. (Mae llawer o “hens” a “stags” yn dod i Fenidorm bob wythnos)

Dydd Sadwrn

Does dim brecwast i ni heddiw achos roedd rhaid i ni adael y gwesty am chwarter wedi saith yn y bore.  Roedd y hediad am hanner awr wedi deg.

Hwyl fawr Benidorm, shwmae Caerdydd!

Llun: Guadalest Bell Tower gan Grahame White

Noson yn Efailwen

Mae Menter Iaith Sir Benfro a Menter Gorllewin Sir Gâr yn dod at ei gilydd i gynnal noson wahanol yng Nghaffi Beca, Efailwen ar Nos Wener, 2 Mai am 7 o’r gloch.

Teitl y noson yw “Noson yng nghwmni Dau Hen Ben “ a’r ddau “hen ben” yw Chris Jones (Tywydd S4C) a Iola Wyn. Bydd y noson yn cynnwys cwis, storiau, sesiwn holi ac ateb a lot o hwyl. Bydd gwobr i’r tîm buddugol a’r tocyn yn £10 a hynny’n cynnwys pryd o fwyd (un cwrs) a gwydraid o win neu ddiod meddal ac yn £5 i blant o dan 12 oed. Mae’n noson felly fydd yn addas i bawb, felly edrychwn ymlaen at eich gweld ar y noson.

Rhagor o fanylion ar y poster…