Galwch Acw – ac ennill £300!

Cyfle i ddysgwyr Canolradd / Uwch i gymryd rhan yng nghyfres deledu ‘Galwch Eto’

Mae S4C yn ffilmio cyfres newydd o ‘Galwch Acw’ – cyfres goginio i ddysgwyr gydag Ioan Talfryn wrth law i helpu gyda’r iaith a’r coginio! Maen nhw’n chwilio am ddysgwyr Canolradd / Uwch yn y Canolbarth, gan obeithio ffilmio’r gyfres nesaf yn ein hardal ni. Maen nhw’n talu £300 i’r dysgwyr am gymryd rhan. 

Byddan nhw’n dechrau ffilmio yn yr hydref, ond maen nhw eisiau ffeindio pobl ym mis Gorffennaf (nawr!).

Gallwch chi weld enghraifft o’r rhaglen ar YouTube.

Os oes diddordeb gyda chi, cysylltwch â:
Ffion Jones: ffion-jones@fflic.com / 029 20 671500

Gwthio dy big i mewn

Nodyn gan Richard Vale:

Roedd y sesiwn cyntaf yn llwyddiant. Mi ddaeth 11 o bobl – y rhan fwyaf ohonynt ar lefel Uwch 1 + 2 – ond rhai o ddosbarthiadau Canolradd. Bydd y sesiynau’n dilyn yr un patrwm bob tro, sef:

1. Sgwrs anffurfiol mewn grwpiau bach

2. Trafod “pwnc y dydd” (‘Y celwyddau mae rhieni’n dweud wrth eu plant’ roedd y pwnc heddiw)

3. Canu gwerin – roedd gyda ni ddwy gitar a banjo. ‘Defaid William Morgan’ a ‘Si hei lwli’ oedd y caneuon.

A fyddech cystal lledaenu’r gair o.g.y.dd.

Byddwn ni’n cwrdd am y tro nesaf am 11 o’r gloch ar ddydd Iau, y 24ain o Orffennaf, yng Nghaffi Emlyn, Tanygroes.

Croeso cynnes i bawb.

Richard


Sesiwn nesaf – 4 Medi 2014

Arwr

Nos Fercher, yn ystod noson lenyddiaith Gŵyl Fawr Aberteifi, cyhoeddwyd taw Elizabeth Jones o ddosbarth Uwch 2 oedd wedi ennill y gystadleuaeth i ddysgwyr gyda’i darn o ryddiaith am ‘Arwr’.

Dwedodd y beirniad (Karen Owen) ei bod hi’n hoffi’r iaith – tafodiaith naturiol yr ardal – yn y ddeialog. Roedd yn amlwg bod y darn wedi gwneud argraff dda iawn ar Karen. Llongyfarchiadau mawr i Elizabeth!

 


Arwr

‘Mae fy mam yn sâl iawn,’ meddai Ros.

‘Beth sy’n bod arni hi?’

Mae’r tair cyfeilles yn sgwrsio ym muarth chwarae’r ysgol. Maen nhw’n ddeuddeg mlwydd oed ac yn eistedd ar wal isel.

‘Mae’r meddyg yn ei galw hi’n ‘anaemia aflesol’.’

‘Beth yw hynny?’

‘Sa i’n gwybod ond mae hi wedi mynd yn wan fel blewyn…..a dyw hi ddim yn gallu anadlu.’

Dyw Erin a Bethan ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Dydyn nhw ddim yn gallu dychmygu’r fath sefyllfa.

‘A’r peth gwaethaf…..,’ mae hi’n petruso ac yn llyncu yn galed…. ‘y peth gwaethaf yw… rhaid iddi hi fwyta plataid o afu amrwd bob dydd,’ mae’i llais hi bron yn anhyglyw. ‘..mae’n hollol ffiaidd.’

Mae Erin yn cydio yn llaw ei ffrind. Mae dagrau yn llygaid ill tri.

 

Mae Bethan ac Erin yn beicio i fyny y bryn tuag at eu cartrefi.

‘Dere adref gyda mi’, mae Bethan yn dweud.

‘Océ.’

 

Yn ystafell Bethan mae Erin yn gorwedd ar wely Bethan ac mae Bethan wedi ei lledu ei hun ar y llawr yn syllu i fyny ar Erin.

‘Wyt ti’n credu mewn arwyr?’ meddai Bethan.

‘Nadw.’

‘Wyt ti’n gwybod y stori am Orpheus?’

‘Nadw.’

‘Wel, roedd e mewn cariad ag Euridyce. Bu farw Euridyce a thriodd Orpheus ei hachub hi o’r isfyd.’

‘A lwyddodd e?’

‘Naddo.’

‘Wel, dyna ni ’te. Roedd fy nhadcu yn arfer bod yn arwr i fi.’

‘Dim nawr?’

‘Maen nhw wedi’i roi fe mewn gwallgofdy ar ôl iddo fe gael stroc.’

‘Ond dydi hi ddim yn deg.’

‘Nady. Dydi hi ddim yn deg bod mam Ros yn marw chwaith.’

‘Mae record newydd ’da fi. Gwranda.’

 

Mae Bethan yn neidio i fyny er mwyn rhoi record ar ei gramaffôn. Mae tonau cyfoethog llais contralto yn swyno Erin.

‘Beth yw bywyd i mi hebot ti,

Beth sydd ar ôl os wyt ti wedi marw,’ mae’r llais hudol yn ei ganu.

 

Mae Bethan yn syllu ar ei ffrind ac mae hi’n sylweddoli bod dagrau yn diferu i lawr ei bochau. Mae hi’n dechrau ymestyn ei braich er mwyn cyffwrd â hi, ond dyw hi ddim yn beiddio.

Ar ôl i’r gân orffen mae hi’n dweud, ‘Ti’n gwybod bod Ros mewn cariad â ti, on’d wyt ti?’

‘Paid a bod mor wyrion.’

Mae ill dwy yn gwrido. Mae’n iawn i fod mewn cariad â merched llawer hŷn neu ag athrawes wrth gwrs, ond mae hi’n rhy annifyr cyfaddef bod cariad at rywun yr un oed â ti.

‘Pwy yw’r gantores ’ma?’ mae Erin yn gofyn.

‘Paid â throi’r stori .’

‘Cau dy geg. Dw i’n mo’yn gwybod pwy yw hi.’

‘Kathleen Ferrier wrth gwrs.’

‘Mae hi’n wych. Mae hi allan o’r byd hwn. Dw i’n meddwl gallith hi fod yn arwr i fi.’

 

Tri mis ar ôl y stori ’ma bu farw Kathleen Ferrier. Roedd ei pherfformiad olaf o Orpheus fel gwyrth. Roedd ei llais cyn gryfed ag erioed, ond roedd ei chorff yn briwsioni oddi dani. Yn ystod y perfformiad cafodd ei ffemwr ei dryllio ond serch hynny gorffennodd hi’r perfformiad.