Arwr

Cerdd buddugol yng nghystadleuaeth Cadair y Dysgwyr yn Eisteddfod Sir Gâr eleni oedd Yr Arwr, gan Elizabeth Jones o Gwmhiraeth. Mae Elizabeth yn mynychu dosbarth Uwch 2 yn Aberteifi.

Dyma geiriau Emyr Davies yn ei feirniadaeth:

Cerdd i fab a syrthiodd wrth gerdded yn ei gwsg yw’r testun, a’r cefndir yn Ne Affrica (er nad Mandela yw’r arwr hwn). Hanesyn personol sydd yma, efallai, ond mae’r stori’n glir ac wedi ei mynegi’n gynnil. Dyma fardd sy’n gwybod sut i droi syniad yn gerdd.

Llongyfarchiadau mawr iawn i Elizabeth ar ei llwyddiant, a diolch yn fawr iddi am roi ei chaniatâd i ni gyhoeddi ei cherdd yma.

Mae’r llun yn dangos Elizabeth (ar y dde) yn derbyn y Gadair oddi wrth yr Archdderwydd, Christine James.


 

Arwr

Addolwyd gan ei deulu,
Tal, main, golygus,
Llygaid pefriog glas,
Gwallt golau, ffefryn pawb,
Yn athletaidd dros ben.

Noson boeth ym mis Mehefin 1948
Noson cyn chwaraeon yr ysgol,
Ffenestr ei ystafell wely,
Agored led y pen. Ar hyd y silff ffenestr
Cerddodd yn ei gwsg.

Breuddwydiai am ddringo
Ar graig yn ei hen wlad
Wrth syllu dros y mor
Tuag at Ynys Robben anghyfanedd.
Clywodd y gwahangleifion
Yn gweiddi. Gwelodd
Fonion rhyfedd heb bysedd
Yn estyn dwylo, yn codi bys arno.

‘Pen ac yswydd uwchben
Y gweddill,’ dwedodd Dad.
Ond yn dal yn fachgen newydd,
Fyddai’n cael ei wrthod,
Tasai’n meiddio ennill?
Llithrodd ei droed
A disgynnodd i ofod.

Clywodd Dad swn griddfan,
Fel anifail mewn magl.
Nid anifail ddarganfyddodd,
Ond mab, llipa a llwyd
Yn gorwedd ar goncrit oer,
Ei en ac arddwrn
Yn rhyfedd o grwca.

Trwsiwyd ei gorff toredig.
Drylliwyd ei hunan-barch.
Yn eistedd ar ei ysgwydd
Roedd bwbach methiant,
Yn llenwi ei ffroenau,
Roedd cythraul cywilydd.

Pob aelod o’r teulu yn bwrw’r bai
Arno’i hun am golli ei arwr.
Collodd y teulu ei freuddwyd
Noson boeth ym mis Mehefin 1948.