Darlith Waldo 2014

Cynhelir gweithgareddau Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo ar Nos Wener, Medi 26, yn Ysgol Gymunedol Cas-mael, Sir Benfro.

Am fwy o wybodaeth gefndirol wele: waldowilliams.com

ALED, ALAN ac EMYR – BOIS WALDO!

Gohebydd a ddaeth yn llais cyfarwydd ar donfeddi Radio Cymru adeg Streic y Glowyr yn y 1980au fydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo eleni yng Nghas-mael ar nos Wener, Medi 26.

Cyn troi at newyddiadura fe fu Aled Gwyn yn weinidog gyda’r Annibynwyr ym Mryncoch, Castell-nedd, a chyn hynny yn Henllan Amgoed, ger Hendy-gwyn, lle cafodd ei ordeinio yn 1966. Bu hefyd yn gynghorydd yn cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Sir Dyfed a Chyngor Gorllewin Morgannwg.

Yn 1995 enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn pan oedd ei frawd, y Parch John Gwilym Jones, yn Archdderwydd. Roedd eisoes yn adnabyddus fel adroddwr yn y cylchoedd Eisteddfodol. Yn y Bala yn 1967 enillodd prif gystadleuaeth yr adroddwyr sef Gwobr Llwyd o’r Bryn gan efelychu ei frawd arall, T. James Jones, a gipiodd yr un wobr y flwyddyn flaenorol yn Aberafan. Adwaenir y tri brawd fel ‘Bois Parc Nest’ am iddyn nhw gael eu magu ar ffarm o’r un enw ar gyrion Castellnewydd Emlyn.

Trwy ei wleidyddiaeth a thrwy ei steddfota, adwaen Aled awen Waldo Williams tu chwith allan. Testun ei ddarlith fydd ‘Mor agos at ei gilydd y deuem’ sy’n llinell o’r gerdd ‘Mewn Dau Gae’. Dywed rhai beirniaid fod yna wall gramadegol yn y llinell ac mai ‘ein gilydd’ sydd yn gywir. Ond, na, dadleua Aled mai greddf Waldo a’i ymlyniad at batrwm yr iaith lafar, fel y’i clywir yn Sir Benfro, sydd yn gorseddu fan hyn.

Edrychir ymlaen at glywed ei ddadansoddiad o gerdd sy’n cael ei hystyried yn astrus gan lawer. Bydd ei draethu yn Neuadd Ysgol Cas-mael yr un mor loyw mae’n siŵr â’i esboniad o gerdd arall gan Waldo, ‘Ar Weun Cas’Mael’, pan ymunodd â’r daith a drefnwyd ar hyd Sir Benfro ar achlysur dathliadau Cymdeithas Waldo yn 2011.

Cyn y ddarlith lansir cyfrol hir ddisgwyliedig y prifardd dwbl, Alan Llwyd, Cofiant Waldo. Mae Alan, sy’n hanu o Ben Llŷn ond yn byw yn Nhreforys ers tro, yn awdur toreithiog ac yn gyn-olygydd a sefydlydd y cylchgrawn llenyddol ar gyfer beirdd, Barddas. ‘Yr egwyddor o frawdoliaeth oedd y gwaed yn ei wythiennau, y mêr yn ei esgyrn, yr anadl yn ei ysgyfaint,’ meddai am Waldo.

Mewn gwirionedd, mae eisoes wedi cyhoeddi un llyfr dwyieithog nodedig am Waldo – Stori Waldo Williams: Bardd Heddwch – sy’n tynnu sylw at heddychiaeth y bardd. Enillodd ei gyfrol, Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, wobr Llyfr Ffeithiol y Flwyddyn eleni.

Cyn y cyfarfod ar nos Wener, Medi 26, am hanner awr wedi chwech, fe ddadorchuddir cofeb i Waldo ar ymyl Waun Cas-mael i nodi’r cyfnod y bu ynte, a’i wraig, Linda, yn byw yn y pentref ar ddechre’r 1940au. Emyr Llywelyn, un o’r dadansoddwyr praffaf o farddoniaeth Waldo, fydd yn dadorchuddio’r llechen.

Penodwyd Waldo’n brifathro dros dro ar Ysgol Cas-mael tra roedd y prifathro ar y pryd, Elgan Parry Jones, yn y fyddin adeg yr Ail Ryfel Byd. Gadawodd Waldo o’i wirfodd a symud i ddysgu yn Ysgol Botwnnog ym Mhen Llŷn yn gynnar ym 1942 am yr ofnai ei fod ar fin cael ei ddiswyddo oherwydd ei heddychiaeth.

Disgwylir i Gôr Abergwaun gyfrannu at y noson hefyd a bydd cyfle i brynu’r llyfre newydd eu cyhoeddi ar y noson wedi’u llofnodi gan yr awduron.

 


This year’s Annual Cymdeithas Waldo Lecture will be held at Puncheston School on Friday, September 26. The guest lecturer will be Aled Gwyn from Cardiff. Two books will also be launched – the complete works of Waldo Williams edited by Robert Rhys and Alan Llwyd, and Alan Llwyd’s long awaited biography of the poet, pacifist and Quaker. A memorial will be also be unveiled by Emyr Llewelyn to mark Waldo and his wife, Linda’s short stay in the village, when he took up the duties of headmaster during the permanent headmaster’s stint in the army during the Second World War. Waldo moved to the Llŷn Peninsula to teach at Ysgol Botwnnog fearing he would be sacked by Pembrokeshire Education Committee because of his strident pacifist views.

 

Llun gan Llenyddiaeth Cymru, ar Flickr (cc).

Cymdeithas Maes a Môr

Cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas Hanes nos Lun nesaf, 19 Ionawr yn Neuadd Ffostrasol am 7.30yh pan fydd Dyfed Elis-Gruffydd yn rhoi cyflwyniad i ni i’w gyfrol ddiweddaraf ‘100 o Olygfeydd Hynod Cymru’.  Mae’r gyfrol hon yn un arbennig ac rydym yn falch iawn fod Dyfed wedi cytuno dod aton ni i’w thrafod ymhellach. Rwy’n amgáu rhaglen gweddill y tymor hefyd gan estyn croeso cynnes i bawb i’r cyfarfodydd i gyd.
 
·         19 Ionawr: Cyflwyniad gan Dyfed Elis-Gruffydd i ‘100 o Olygfeydd Hynod Cymru’
·         16 Chwefror: Darlith gan Iwan Michael Jones, ‘John Thomas y Ffotograffydd’
·         16 Mawrth: Darlith gan Dr David Jenkins (Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – testun i ddod)
·         20 Ebrill: Darlith gan Aled Eurig ‘Gwrthwynebwyr Cydwybodol y Rhyfel Mawr’
·         18 Mai: Darlith gan Elvey Macdonald (Y Wladfa – testun i ddod) 7.30pm
Mae gennym hefyd gyfarfodydd bach ‘Clonc’ yn Ffostrasol unwaith y mis, fel arfer ar y 3ydd dydd Mercher am 2.00 y prynhawn.  Er gwybodaeth rwy’n amgáu Rhaglen Clonc Ion-Mai 2015.  Fe welwch fod y cyfarfod cyntaf Ddydd Mercher nesaf, 21 Ionawr am 2.00 yn Nhafarn Ffostrasol.  Kathleen Hyde fydd y wraig wadd yn siarad am ei phrofiadau yn gweithio fel milfeddyg.  Croeso cynnes i chi hefyd i’r cyfarfodydd hyn.  
 
·         21 Ionawr: Tafarn Ffostrasol, ‘Atgofion Milfeddyg’, Kathleen Hyde
·         19 Chwefror: Tafarn Ffostrasol (Prynhawn Iau),‘Downton Abbey Dyffryn Teifi’, Gerwyn Morgan
·         18 Mawrth: Tafarn Ffostrasol, ‘Cadw’n ystwyth’ gyda Ann Harris a Rita Llwyd,
·         15 Ebrill: Neuadd Ffostrasol, ‘Dysgu Cymraeg yn Sarawak’, Digby Bevan
·         20 Mai: i’w drefnu

 

Marchogaeth i Bobl ag Anabledd

(“Gwaith cartre” gan Judith o Gwm Gwaun yw’r isod. Cofiwch bod croeso i chi ddefynddio’r blog i ymarfer eich Cymraeg fel, ac i hybu achosion da yr un pryd!)

Pleidleisiwch dros “North Pembrokeshire and Cardigan Riding for the Disabled”!

Mae’r grŵp “North Pembrokeshire and Cardigan RDA” wedi cyrraedd y rhestr fer am Gronfa Gymunedol Lloyds Bank yn Aberteifi. Mae rhaid iddyn nhw gael cymaint o bleidleisiau â phosib er mwyn ennill £3,000. Dych chi’n gallu eu helpu nhw trwy bleidleisio drostyn nhw:

· Ar-lein – clicwch fan hyn!

· Ym Manc Lloyds – gofynwch i arwyddo’r ffurflen wrth y ddesg

· Defnyddio ffôn symudol – tecstiwch “VOTE FCG” i 61119

· Ar Twitter gan ddefnyddio #COMMFUNDFCG

Hefyd wnewch chi basio hwn ymlaen at ffrindiau neu glybiau sydd efallai â ddiddordeb. Bydd y pleidleisio’n gorffen erbyn 10fed o Hydref.

Dw i wedi bod yn wirfoddolwr gyda’r grŵp ers pedair blynedd felly dw i wedi gweld dros fy hunan y gwaith gwych maen nhw’n gwneud gyda plant ac oedolion ag anableddau. ‘Sen ni’n ennill, byddai’n helpu ni i ddarparu gwersi marchogaeth a chyfleoedd i gystadlu trwy y flwythyn nesa i gyd yn ysgol marchogaeth Maesyfelin ym Mridell. Mae hwn yn eu helpu nhw gyda iechyd corfforol a meddyliol gan farchogaeth a chael hwyl gyda cheffylau.

Mae’r llun uchod yn dangos ein “grŵp top” ym Mhencoed ar ôl y Pencampwriaeth Rhanbarthol y llynedd.

Gŵyl Golwg

Bydd Gŵyl Golwg yn cael ei chynnal yn Llambed eto eleni, ac ymysg y gweithgareddau bydd digwyddiadau wedi’u hanenlu at ddysgwyr Cymraeg. Isod mae rhestr o’r digwyddiadau ar gyfer dysgwyr Cymraeg:

Gŵyl Golwg will be held in Lampeter again this year, and amongst the packed programme will be activities for Welsh learners. The events for Welsh learners are as follows:

Amserlen Sesiynau Lingo Newydd – 14 Medi

  • 10.30 Adloniant gan ddysgwyr lleol – Local entertainment
  • 11.00 Sgwrs Holi ac Ateb gyda Dysgwyr Rownd Derfynol Dysgwr y Flwyddyn, Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar 2014 / Chat with Dysgwyr y Flwyddyn 2014 Finalists
  • 12.00 Gemau a phosau a hwyl i’r teulu / Family games and puzzles
  • 13.00 Sesiwn Rhagarweiniol – Bethan Gwanas yn trafod Darlith Goffa Islwyn Ffowc Ellis / Introductory session with Caryl Bethan Gwanas
  • 15.00 Sesiwn Rhagarweiniol – Caryl Lewis yn trafod Sgwrs Martha Jac a Sianco / Introductory session with Caryl Lewis
  • 17.00 Canu o gwmpas y piano / Sing song