Darlith Waldo 2014

Cynhelir gweithgareddau Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo ar Nos Wener, Medi 26, yn Ysgol Gymunedol Cas-mael, Sir Benfro.

Am fwy o wybodaeth gefndirol wele: waldowilliams.com

ALED, ALAN ac EMYR – BOIS WALDO!

Gohebydd a ddaeth yn llais cyfarwydd ar donfeddi Radio Cymru adeg Streic y Glowyr yn y 1980au fydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo eleni yng Nghas-mael ar nos Wener, Medi 26.

Cyn troi at newyddiadura fe fu Aled Gwyn yn weinidog gyda’r Annibynwyr ym Mryncoch, Castell-nedd, a chyn hynny yn Henllan Amgoed, ger Hendy-gwyn, lle cafodd ei ordeinio yn 1966. Bu hefyd yn gynghorydd yn cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Sir Dyfed a Chyngor Gorllewin Morgannwg.

Yn 1995 enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn pan oedd ei frawd, y Parch John Gwilym Jones, yn Archdderwydd. Roedd eisoes yn adnabyddus fel adroddwr yn y cylchoedd Eisteddfodol. Yn y Bala yn 1967 enillodd prif gystadleuaeth yr adroddwyr sef Gwobr Llwyd o’r Bryn gan efelychu ei frawd arall, T. James Jones, a gipiodd yr un wobr y flwyddyn flaenorol yn Aberafan. Adwaenir y tri brawd fel ‘Bois Parc Nest’ am iddyn nhw gael eu magu ar ffarm o’r un enw ar gyrion Castellnewydd Emlyn.

Trwy ei wleidyddiaeth a thrwy ei steddfota, adwaen Aled awen Waldo Williams tu chwith allan. Testun ei ddarlith fydd ‘Mor agos at ei gilydd y deuem’ sy’n llinell o’r gerdd ‘Mewn Dau Gae’. Dywed rhai beirniaid fod yna wall gramadegol yn y llinell ac mai ‘ein gilydd’ sydd yn gywir. Ond, na, dadleua Aled mai greddf Waldo a’i ymlyniad at batrwm yr iaith lafar, fel y’i clywir yn Sir Benfro, sydd yn gorseddu fan hyn.

Edrychir ymlaen at glywed ei ddadansoddiad o gerdd sy’n cael ei hystyried yn astrus gan lawer. Bydd ei draethu yn Neuadd Ysgol Cas-mael yr un mor loyw mae’n siŵr â’i esboniad o gerdd arall gan Waldo, ‘Ar Weun Cas’Mael’, pan ymunodd â’r daith a drefnwyd ar hyd Sir Benfro ar achlysur dathliadau Cymdeithas Waldo yn 2011.

Cyn y ddarlith lansir cyfrol hir ddisgwyliedig y prifardd dwbl, Alan Llwyd, Cofiant Waldo. Mae Alan, sy’n hanu o Ben Llŷn ond yn byw yn Nhreforys ers tro, yn awdur toreithiog ac yn gyn-olygydd a sefydlydd y cylchgrawn llenyddol ar gyfer beirdd, Barddas. ‘Yr egwyddor o frawdoliaeth oedd y gwaed yn ei wythiennau, y mêr yn ei esgyrn, yr anadl yn ei ysgyfaint,’ meddai am Waldo.

Mewn gwirionedd, mae eisoes wedi cyhoeddi un llyfr dwyieithog nodedig am Waldo – Stori Waldo Williams: Bardd Heddwch – sy’n tynnu sylw at heddychiaeth y bardd. Enillodd ei gyfrol, Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, wobr Llyfr Ffeithiol y Flwyddyn eleni.

Cyn y cyfarfod ar nos Wener, Medi 26, am hanner awr wedi chwech, fe ddadorchuddir cofeb i Waldo ar ymyl Waun Cas-mael i nodi’r cyfnod y bu ynte, a’i wraig, Linda, yn byw yn y pentref ar ddechre’r 1940au. Emyr Llywelyn, un o’r dadansoddwyr praffaf o farddoniaeth Waldo, fydd yn dadorchuddio’r llechen.

Penodwyd Waldo’n brifathro dros dro ar Ysgol Cas-mael tra roedd y prifathro ar y pryd, Elgan Parry Jones, yn y fyddin adeg yr Ail Ryfel Byd. Gadawodd Waldo o’i wirfodd a symud i ddysgu yn Ysgol Botwnnog ym Mhen Llŷn yn gynnar ym 1942 am yr ofnai ei fod ar fin cael ei ddiswyddo oherwydd ei heddychiaeth.

Disgwylir i Gôr Abergwaun gyfrannu at y noson hefyd a bydd cyfle i brynu’r llyfre newydd eu cyhoeddi ar y noson wedi’u llofnodi gan yr awduron.

 


This year’s Annual Cymdeithas Waldo Lecture will be held at Puncheston School on Friday, September 26. The guest lecturer will be Aled Gwyn from Cardiff. Two books will also be launched – the complete works of Waldo Williams edited by Robert Rhys and Alan Llwyd, and Alan Llwyd’s long awaited biography of the poet, pacifist and Quaker. A memorial will be also be unveiled by Emyr Llewelyn to mark Waldo and his wife, Linda’s short stay in the village, when he took up the duties of headmaster during the permanent headmaster’s stint in the army during the Second World War. Waldo moved to the Llŷn Peninsula to teach at Ysgol Botwnnog fearing he would be sacked by Pembrokeshire Education Committee because of his strident pacifist views.

 

Llun gan Llenyddiaeth Cymru, ar Flickr (cc).