Y daith fws hir

[Darn o waith cartre gan Celia Richardson, o’r dosbarth Canolradd yn Aberteifi. Celia sy biau’r lluniau.]

bws

Rhan 1

Celia ydw i. Ces i fy ngeni yn Reigate yn Surrey. Es i i’r ysgol yn Reigate hefyd tan ro’n ni’n 16. Symudais i i goleg Epsom achos fy mod i eisiau dysgu economeg. Ar ôl lefelau ‘A’ es i i weithio yn Croydon mewn cwmni fforiad am oel. Roedd e’n ddidorol ond roedd eisiau teithio arna i.  Ers i fi fod yn ifanc dw i wedi bod yn chwilfrydig am bobl y byd. Roedd fy nhad yn arfer dod â cylchgronau ‘National Geographic’ o’i swydd e.

Yn 1974, es i ar y bws ‘Budget Bus’ i India ond doedd y bws ddim yn cyrraedd India. Es i gyda dwy ffrind ysgol a chariad un ohonyn nhw. Roedd y bws yn torri lawr yn Afghanistan felly roedd rhaid i ni barhau mewn tacsi. Ro’n ni’n teithio trwy Bwlch Kyber, stopiodd y tacsi am betrol. Yn y pentre, roedd bob dyn yn cario reifflau Kalasnikov!

Dalon ni trwyr’r Bwlch wedyn caeth y tacsi dwll…. ein tacsi ni oedd y tacsi olaf.  Edrychon ni  ar y Bwlch a dwedodd un onhonon ni  ‘Dw i cofio’n gweld ‘Carry on Up the Kyber’. Ro’n ni’n mor diniwed….Yn sydyn, cyrhaeddodd jîp tu ôl i ni. Dwedodd y milwyr ‘Dw i wedi dod i’ch diogelu chi’. Roedd yn codi ofn arnon ni!

bwlchRhan 2

Roedd e’n dawel, ro’n ni’n gallu gweld y caerau ar hyd Bwlch Kyber. Ar ôl i’r tacsi dorri lawr do’n ni ddim yn gwybod beth i’w wneud. Dwedodd y gyrrwr ‘Bydd y bws yn dod.’ Roedd hi’n gyfnos.
Erbyn iddo fe gyrraedd, roedd hi’n dywyll. Ar ôl i ni ddweud ‘diolch’ wrth y milwyr aethon ni â bagiau allan o’r tacsi. Cyn i ni allu mynd ar y bws, roedd rhaid talu’r gyrrwr tacsi. Dwedodd pob un ar y bws ‘Rhaid i chi dalu pris llawn’. (Ro’n ni wedi teithio dim ond 10 cilometr o daith 60 cm!) Felly, talon ni bris llawn. Wedyn, dwedodd y gyrrwr bws roedd rhaid i un ohonyn ni fynd gyda bagiau ar ben y bws. Ar ôl i Ian ddringo ar ei ben, aeth y bws.

Teithion ni trwy Bwlch Kyber ac i lawr i blaen o Pakistan. Tan i ni gyrraedd Pashawer do’ ni ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ar ben y bws. Dringodd Ian i lawr, roedd ofn arno fe…

Cerddwyr: Coed-y-bryn

Cerddwyr Cylch Teifi 14 Chwefror

Ardal Coed-y-bryn

Arweinwyr: Carys Ann a Maldwyn Lewis

Cwrdd am 10:30 wrth Neuadd Coed-y-bryn (SN355 449) (Cod post SA44 5LQ)

Y Daith: ychydig yn llai 3 milltir, tua 2 awr, yn bennaf mewn cylch ar ffyrdd tawel, traciau fferm a llwybr cyhoeddus newydd; un esgyniad gweddol serth; dim sticlau

Pwyntiau o ddidordeb: Pentref Coed-y-bryn, y Capel, a’r Ysgol a’i chysylltiad â T. Llew Jones; olion Plas Bronwydd a hanes hir a lliwgar ei berchnogion, y Lloydiaid; Eglwys Llangynllo ar eu hen stad; hanes y llwybr newydd; hanes ffatri wlân Maesllyn; Plas y Gernos, a llawer mwy.

Wedyn: Bydd hi’n bosibl cael lluniaeth yn Nhafarn Ffostrasol (2½ millir o Goed-y-Bryn)

Croeso cynnes i bawb.

Manylion pellach: 01239 654561  philippa.gibson@gmail.com

________________________
Cerddwyr Cylch Teifi Walkers 14 February

Coed-y-bryn Area

Leaders: Carys Ann and Maldwyn Lewis

Meet at 10:30 by the Coed-y-bryn village hall (SN355 449) (postcode SA44 5LQ)

The Walk: a little less than 3 miles, about 2 hours, mainly circular on quiet roads, farm tracks and a new public footpath; one fairly steep rise but no stiles.

Points of interest: Coed-y-bryn village, the Chapel and the School and its connection with T. Llew Jones;, the remains of Bronwydd Mansion and the long and colourful story of its owners, the Lloyds; Llangynllo Church ond the old estate; the story of the new footpath; the history of the Maesllyn woolen mill; Plas y Gernos, and much more.

Afterwards: It will be possible to have refreshments at the Ffostrasol Arms, (2½ miles from Coed-y-Bryn).

There’ll be a warm welcome to all. Welsh will be the language of the walk, so if you are beginning to learn you may not be able to follow much of what is said but it is an ideal opportunity to use all the Welsh you have learned and you can ask others to give you the gist – but please try to avoid using ‘English-only’ in any conversation. Diolch.

Further details: 01239 654561   philippa.gibson@gmail.com

Hir Pob Ymaros

Stori fer gan Caroline, Maes y Dderwen, o’r Grŵp Uwch 1 yn Aberteifi, a wnaethpwyd fel gwaith cartre ganddi wythnos diwetha. Diolch yn fawr iddi am roi caniatâd i’w rhannu yma.


Hir Pob Ymaros

Roedd e’n gorwedd ar garreg y drws gydag amwisg gain dros ei wyneb pan godais i yn y bore bach. Tynnais i fy ngŵn-wisg yn dyner. Roeddwn i’n dechrau crynu (a doeddwn i ddim eisiau bod yn amhriodol).

Beth oedd yn digwydd?

Dylwn i fod wedi bod yn fwy gofalus. Roeddwn i wedi parablu gormod yn y swyddfa – dyna beth oedd y broblem – roeddwn i’n siŵr nawr! Diolch i’r penbwl’na. Ddylwn i ddim bod wedi cael peint bach gyda fe i godi fy nghalon neithiwr.

Dechreuodd dail y gelynnen siffrwd. Roedd fy ngwallt wrth fy nannedd ac roedd eira ffres ar y stryd. Canodd robin goch o foncyff, “Bydd pawb yn clebran yr wythnos nesaf, ti’n gwybod!”

Beth ddylwn i wneud?

Roeddwn i’n dal yn syllu ar y bwndel. Iawn…penderfynais i’w daclo fe – gêm rygbi oedd hyn.

Roedd e’n fy herio i gymryd y cam nesaf. Ie – yn bendant – arwydd oedd hwnnw.

Cafodd yr anrheg ei lapio gyda ruban a defnydd gwyn. Pa mor ramantaidd! Dechreuais i’w dad-lapio hi’n araf iawn. Yn sydyn canodd cloch yr eglwys. Dim ond deunaw awr tan ddiwedd fy mhen-blwydd arbennig.

Atgofion, ie, atgofion melys.

Collais i ddeigryn pan adawodd e cyn y Nadolig. Doedd e ddim yr un fath â fi, wrth gwrs.

Taswn i’n dweud ei fod e’n addwyn ac yn ostyngedig. Haelfrydig yw e hefyd ond pan oedd e’n byw yng Nghymru, roedd e’n anghyfarwydd â chael arian; bob dydd roedd rhaid iddo fe gael dau ben llinyn ynghyd. Ie, dyn eithriadol o arbennig yw e; dyn gydag agwedd positif, ’swn i’n dweud.

Nawr, gyda’r anrheg yn fy nwylo, roedd hen bryd i ddatguddio calon y gwir.

 

 

[Llun gan Andrew Gibson]

Noson Merched y Wawr

Merched y Wawr Cylch Teifi
Noson ar gyfer Dysgwyr

Nos Fercher 4ydd o fis Chwefror 2015 am 8y.h.
Festri Capel Mair
(drws wrth ochr y Capel ar Feidr Fair, ger Sgwâr Ffinch)

Gweithgareddau ac wedyn te Cymreig
Croeso cynnes i bawb

Er mwyn i ni gael syniad am faint fydd yn dod, rhowch enwau i’ch tiwtor neu i Philippa Gibson 01239 654561 philippa.gibson@gmail.com

Merched y Wawr Cylch Teifi
Welsh learners’ evening

Wednesday 4th February 2015 at 8pm
Capel Mair Vestry (door beside the Chapel on Feidr Fair, near Finch Square)

Activities and then a Welsh Tea
A warm welcome to all

So that we can have an idea of how many will come, please give names to your tutor or to Philippa Gibson 01239 654561 philippa.gibson@gmail.com