Archifau Dyddiol: 06/02/2015

Hir Pob Ymaros

Stori fer gan Caroline, Maes y Dderwen, o’r Grŵp Uwch 1 yn Aberteifi, a wnaethpwyd fel gwaith cartre ganddi wythnos diwetha. Diolch yn fawr iddi am roi caniatâd i’w rhannu yma.


Hir Pob Ymaros

Roedd e’n gorwedd ar garreg y drws gydag amwisg gain dros ei wyneb pan godais i yn y bore bach. Tynnais i fy ngŵn-wisg yn dyner. Roeddwn i’n dechrau crynu (a doeddwn i ddim eisiau bod yn amhriodol).

Beth oedd yn digwydd?

Dylwn i fod wedi bod yn fwy gofalus. Roeddwn i wedi parablu gormod yn y swyddfa – dyna beth oedd y broblem – roeddwn i’n siŵr nawr! Diolch i’r penbwl’na. Ddylwn i ddim bod wedi cael peint bach gyda fe i godi fy nghalon neithiwr.

Dechreuodd dail y gelynnen siffrwd. Roedd fy ngwallt wrth fy nannedd ac roedd eira ffres ar y stryd. Canodd robin goch o foncyff, “Bydd pawb yn clebran yr wythnos nesaf, ti’n gwybod!”

Beth ddylwn i wneud?

Roeddwn i’n dal yn syllu ar y bwndel. Iawn…penderfynais i’w daclo fe – gêm rygbi oedd hyn.

Roedd e’n fy herio i gymryd y cam nesaf. Ie – yn bendant – arwydd oedd hwnnw.

Cafodd yr anrheg ei lapio gyda ruban a defnydd gwyn. Pa mor ramantaidd! Dechreuais i’w dad-lapio hi’n araf iawn. Yn sydyn canodd cloch yr eglwys. Dim ond deunaw awr tan ddiwedd fy mhen-blwydd arbennig.

Atgofion, ie, atgofion melys.

Collais i ddeigryn pan adawodd e cyn y Nadolig. Doedd e ddim yr un fath â fi, wrth gwrs.

Taswn i’n dweud ei fod e’n addwyn ac yn ostyngedig. Haelfrydig yw e hefyd ond pan oedd e’n byw yng Nghymru, roedd e’n anghyfarwydd â chael arian; bob dydd roedd rhaid iddo fe gael dau ben llinyn ynghyd. Ie, dyn eithriadol o arbennig yw e; dyn gydag agwedd positif, ’swn i’n dweud.

Nawr, gyda’r anrheg yn fy nwylo, roedd hen bryd i ddatguddio calon y gwir.

 

 

[Llun gan Andrew Gibson]