Yr Wythnos Fawr – Dyffryn Aeron


Yr Wythnos Fawr

Sul y Blodau (29 Mawrth, 2015) 2.00 o’r gloch – Neuadd Dihewyd

DILYN YR ASYN

Gwasanaeth byr yn Eglwys Ciliau dan arweiniad Ficer Eileen

Nos Lun, 30 Mawrth – 7.00 o’r gloch – Neuadd Cilcennin

NOSON JOIO ’DA JENKINS

Gemau, straeon a chaneuon i blant a’u rhieni

Gyda Dai Jenkins, Llangrannog a Delyth Jones

Nos Fawrth, 31 Mawrth – 7.30 o’r gloch – Tafarn y Vale

DWI’N CREDU MOD I’N CREDU

Karen Owens, Lyn Ebenezer a Delyth Morgan Phillips

Cadeirydd: Cen Llwyd

Nos Fercher, 1 Ebrill – 7.30 o’r gloch – Neuadd Goffa Felin-fach

CWIS Y LLYFR MAWR

Cwis ar y Beibl ar gyfer timau ar ran holl gapeli ac eglwysi Dyffryn Aeron

Cwisfeistr: GARETH IOAN

Dydd Iau Cablyd (2 Ebrill) – Eglwys Trefilan – 7.00 o’r gloch

GWASANAETH CYMUN BENDIGAID

Eglwys Trefilan – 8.00 o’r gloch

DARLITH YR ŴYL

Parchg. Aynsley Griffiths

Dydd Gwener Y Groglith – 9.30 o’r gloch – Ysgol Felin-fach

Ymdaith GORSAFOEDD Y GROES

Eglwys Llanfihangel Ystrad – 10.00 o’r gloch

GWASANAETH Y GROGLITH

dan arweiniad Ficer Matthew

Nos Sadwrn, 4 Ebrill – Capel Tyngwndwn, Felin-fach

7.00 gyda’r nos – hanner nos

GWYLNOS Y PASG

Bore dydd Sul y Pasg – 5.00 o’r gloch

Eglwys Llanfihangel Ystrad

GŴYL Y WAWR

Nos Sul Y Pasg – 7.30 o’r gloch – Capel Troedyrhiw, Cribyn

CYMANFA GANU’R PASG

Arweinydd: HELEDD WILLIAMS

BOIS Y GILFACH a RYLAND TEIFI

at ein gilydd / gyda’n gilydd

Holl eglwysi a chapeli Dyffryn Aeron yn cydweithio a chydaddoli

 

 

MANYLION PELLACH:

Y Parchedigion Eileen Davies (07814 272998), Matthew Hill (07964 631997), Cen Llwyd (07970 596887)

Chwedl Afon Ganga

Tasg gwaith cartre i ddosbarth Canolradd Dwys Aberteifi oedd “Ysgrifennwch eich fersiwn chi o’ch hoff chwedl”. Dyma ymateb Cathy Green, Cilgwyn, sef stori am ddyfodiad Afon Ganga i’r Ddaear. Mae’n cynnwys ambell i air newydd i ddysgwyr ar y lefel hwn, felly symudwch eich llygoden dros y geiriau sy wedi’u tanlinellu, os cewch chi drafferth.

 

Dyma y chwedl am sut daeth Afon Ganga i fod ar y Ddaear…

Amser maith yn ôl, caeth ceffyl y Brenin Sagara ei ddwyn gan Indra. Anfonodd y Brenin ei chwe deg mil o feibion i chwilio am y ceffyl. Chwilion nhw’r holl fyd, ond ffeindion nhw mo’r ceffyl. Felly, dechreuon nhw balu i’r isfyd. O’r diwedd, ffeindion nhw’r ceffyl, gyda gŵr doeth. Cyhuddoedd y meibion y gŵr doeth, ond Vishnu oedd e, mewn perlesmair. Llosgodd Vishnu y chwedeg mil o feibion tan roedden nwh’n lludw.

Dim ond Afon Ganga yn y nefoedd oedd yn gallu golchi eneidiau y meibion. Ond, sut mae galw yr Afon lawr o’r nefoedd? Ceisiodd pedair cenhedlaeth i’w galw hi i lawr. Ar ôl llawer o anawsterau, cwympodd Afon Ganga i mewn i gudynnau Shiva ac wedyn, i’r ddaear. Roedd yr eneidiau wedi’u golchi’n lân, ac aethon nhw i’r nefoedd.

 

Diolch i Cathy am rannu’r chwedl. Beth yw’ch hoff chwedl chi? Hoffech chi sgwennu fersiwn ohono i rannu ar y blog? Cysylltwch yn yr adran sylwadau isod, neu trwy ebost.

Gŵyl y Banc i Ddewi?

[Darn gwaith cartre gan Caroline Ellerby, o’r dosbarth Uwch yn Aberteifi.]

Ddylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl y banc swyddogol yng Nghymru?

Gofynnodd S4C i 437 o bobl ledled Cymru’r cwestiwn hwn a dwedodd wyth deg y cant ohonyn nhw a oedd yn siarad Cymraeg y dylai’r ŵyl fod yn ŵyl y banc swyddogol, ond ydych chi’n cytuno â nhw?

Yn eu barn nhw mae’n wirioneddol bwysig bod y teulu i gyd yn cael cyfle i ddathlu’r diwrnod gyda’i gilydd. Mae’n amlwg bod y siaradwyr Cymraeg eisiau parchu a chefnogi’r hen draddodiadau’r tu allan i’r ysgol. Ar hyn o bryd yn ysgolion dros Gymru mae’r disgyblion yn canu caneuon gwerin sef, ‘ Cenwch y clychau i Dewi’ ac mae’r merched yn gwisgo pais a betgwn. Mae pawb yn gwisgo cenhinen neu genhinen Pedr, yn chwifio baneri, yn bwyta cawl ac yn ymuno yng nghorymdeithiau yn y strydoedd.

Serch hynny, dyw’r ŵyl ddim mor hen ag mae pobl yn credu. Dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi yn y ffordd’ma dim ond ers y ddeunawfed ganrif. Cyn hynny roedd Dewi Sant yn hynod o enwog wrth gwrs. Cafodd e ei eni tuag at ddiwedd y bumed ganrif yng Ngorllewen Cymru ac wedyn digwyddodd llawer o wyrthiau. O ganlyniad i’w ffydd, ac y sôn am ei fywyd yn hen lyfr hanesyddol Cymraeg Taliesin, roedd Y Werin yn ei dderbyn e fel nawddsant Cymru. A dyna’r broblem! Ddylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn cysylltu â chenedlaetholdeb a Chymreictod ac a dweud y gwir, beth yw Cymreictod beth bynnag? Pryd roedd Cymru?

Beth am gydraddoldeb rhwng cenhedloedd ? Beth yw’r sefyllfa yn Lloegr, yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Undeb Ewropeaidd? Yng Ngogledd Iwerddon gŵyl y banc swyddogol yw Dydd Gŵyl Sant Padrig yn barod ond does dim gwyliau banc o hyd yn y gwledydd eraill, ac mae rhai’n dadlu (dim fi!) bod’na ormod o wyliau banc beth bynnag. Os bydd hi’n bwysig i ddathlu Cymreictod beth am ddewis dyddiadau arbennig yn lle dyddiadau seintiau e.e. Diwrnod Datganoli Llawn (os bydd hwnnw’n dod i Gymru yn y dyfodol). Ddylai pawb yng Nghymru, oedolion, plant, Cymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg, o bob oedran a chefndir, crefyddol neu ethnig, gael eu gorfodi i ddathlu? Tasai’r diwrnod yn ŵyl y banc swyddogol, efallai na fyddai pawb yn cymryd rhan mewn achlysuron ac wedyn byddai’r diwrnod esgus i fynd i siopa yn lle cadw rhywbeth arbennig yn yr ysgolion.

Yn fy marn i byddai’n well ‘da fi aros i weld beth sy’n digwydd gyda datganoli llawn cyn i ni benderfynu ymgyrchu dros Ddydd Gŵyl Dewi!

 

 

(Llun: Gorymdaith Gŵyl Ddewi gan Walt Jabsco, dan drwydded Comins Creadigol 2.0)