Cerddwyr Cylch Teifi – Ardal Poppit

000190_poppit_ext_013

Cerddwyr Cylch Teifi
13eg o Chwefror 2016
Ardal Poppit
Arweinydd: Terwyn Tomos

Man Cychwyn: Maes Parcio, Poppit (SN152 485). Dewch mewn da bryd i ddechrau ar y daith am 10:30, os gwelwch yn dda. Gallwn barcio yno am ddim fel arfer yn y gaeaf.

Y Daith: Taith gylch ddwy awr sydd ychydig yn llai na thair milltir a’r rhan fwyaf ohoni ar heolydd bychain tawel.  O’r maes parcio awn ni i’r traeth cyn droi at y lôn i’r Hostel Ieuenctid, wedyn dros y grib i gyfeiriad Cipyn ac yn ôl i lawr yr heol i’r maes parcio. Mae angen cryn dipyn o ddringo yn yr hanner cyntaf (esgyniad: 500 troedfedd).

Pwyntiau o ddiddordeb:  Hynodion Traeth Poppit; hanes sefydlu’r Hostel Ieuenctid; hanes y ddau gapel a chymuned Cipyn; cysylltiad y Prifardd Eirwyn George â Chipyn; Cors Poppit.

Wedyn: Bydd cyfle i gael lluniaeth yng Nghaffi Poppit, yn Nhafarn y Webley neu yn Lland’och.

Croeso cynnes i bawb. Cofiwch fod dysgwyr yn dod i gerdded gyda’r grŵp er mwyn cael cyfle i sgwrsio â Chymry lleol. Da chi, agorwch sgwrs â nhw pan allwch.
Ymholiadau 01239 654561   philippa.gibson@gmail.com

________________________________
Cerddwyr Cylch Teifi Walkers
13th February 2016
Poppit area
Leader: Terwyn TomosStarting point: Poppit Car Park (SN152 485). Please come in good time to start the walk at 10.30. We can generally park there free in winter.
The Walk: A circular walk of 2 hours which is a little under 3 miles and mostly on small quiet lanes. From the car park, we’ll go to the beach before turning towards the lane to the Youth Hostel, and then over the ridge towards Cipyn and back down the lane to the car park. Quite a bit of climbing is required in the first half (ascent 500 feet)
Points of interest: notable things about Poppit beach; the story of establishing the Youth Hostel; the history of the two chapels and Cipyn community; the connection between the Eisteddfod winning poet Eirwyn George and Cipyn; Poppit marsh.
Afterwards: it will be possible to have refreshments in Poppit Café, the Webley or in St. Dogmaels.

There’ll be a warm welcome to all. Welsh will be the language of the walk, so if you are beginning to learn you may not be able to follow much of what is said but it is an ideal opportunity to use all the Welsh you have learned and you can ask others to give you the gist – but please try to avoid using ‘English-only’ in any conversation.

 01239 654561   philippa.gibson@gmail.com

Y Bwthyn gan Caryl Lewis

(Adolygiad o’r llyfr a’r sesiwn gyda’r awdur gan Judith Wainwright.)

Cyhoeddwyd y Bwthyn ym 2015 gyda’i lansiad yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Daeth Caryl Lewis, awdures y llyfr, i siarad â ni ar y 21ain Ionawr.  Dyn ni wedi darllen ei llyfr yn nosbarth Richard dros y tri neu bedwar mis diwethaf.  Ro’n i wedi gorffen y llyfr y noson gynt, felly roedd e’n ffres yn fy nghof o hyd.  Mae’r llyfr yn traethu stori tri pherson. Enoch yw hen ffermwr ym mynyddoedd Ceredigion a oedd newydd golli ei wraig, Hannah.  Isaac yw ei fab hanner cant oed sy ddim yn briod ac sy’n byw a gweithio ar y fferm gyda’i dad.  Owen yw dieithryn sy’n cyrraedd yn eu mysg, ac mae ei bresenoldeb yn dymchwelyd balans eu bywyd.  Mae’r stori yn drist ac yn codi ofn mewn lleoedd ond yn y diwedd ro’n i’n teimlo’n fodlon a llawn o obaith.  Mae cymeriadau ochr gwych yn y llyfr hefyd, sy’n bwysig i’r stori, megis y Bois Peithyll a Dei Clawdd Melyn.  Mae’r cymeriadau i gyd yn cael eu portreadu’n dda iawn ac yn holloll realistig a hygoel.  Dw i’n gallu gweld dynion fel nhw bob wythnos yn ein hardal ni.

Mae’r llyfr yn dechrau jyst ar ôl angladd Hannah, pan dyn ni’n dysgu am broblemau Isaac gydag yfed a’r straen rhyngddo fe a’i dad.  Dyn ni’n dysgu hefyd am gariad Enoch am ei wraig a’i deimladau cryf hefyd am y tirlun mynyddig a’r hen fwthyn ble oedd fe a Hannah yn arfer byw ar ôl iddyn nhw briodi.  Bydd y bwthyn yn dod yn fwy a mwy pwysig tra bydd y stori’n datblygu a dyn ni’n sylweddoli mwy.  Mae natur a ffermio yn themâu enfawr yn y llyfr ac mae disgrifiadau ohonyn nhw yn llawn o fanylion a bywyd, yn ogystal â bod yn hardd iawn.  Mae dawn peintio lluniau gyda geiriau ‘da Caryl.  Thema arall yw cyfrinachau, ac mae Caryl yn glyfar iawn am ddangos bob yn dipyn gyfrinachau ym mywydau ei phrif gymeriadau.  Gwylion ni gyfweliad gyda Caryl Lewis o S4C yn un dosbarth, ac roedd yn amlwg ynddo fe sut dyw hi’n lico dangos dim ond rhan o’r stori a gwastad yn dal rhywbeth yn ôl.

Ar ôl i fi fwynhau’r llyfr cymaint, ro’n i’n edrych ymlaen at y sesiwn gyda Caryl a do’n i ddim yn siomedig.  Roedd hi’n ddiddorol a swynol iawn ac ehedodd yr amser.  Dechreuodd hi gan esbonio sut dewisodd hi’r prif gymeriadau a’r sefyllfa a pham mae’r stori’n agor gydag angladd Hannah.  Roedd Hannah wedi dal harmoni rhwng Enoch a’i fab, ac ar ôl ei marwolaeth roedd y straen yn codi i’r arwyneb ar yr un pryd do’n nhw’n ymdopi gyda’u galar.  Roedd dyfodiad Owen yn sbardun wedyn, i gynnau’r gyfres o ddigwyddiadau a rhai argyfyngau mae’r nofel yn disgrifio.

Esboniodd hi ei hymchwil gyda hen ffermwr i ddysgu am hen ddyddiau ac arferion ffermio.  Siaradodd hi lot am symbolau; mae hi’n defnyddio natur a chreaduriaid i symboleiddio ei chymeriadau a beth sy’n digwydd iddyn nhw am gyfnodau gwahanol.  Er engraifft symbol pwysig iawn i Owen yw’r sgwarnog, sy’n dal i symud o le i le ac sy’n nerfus a gofalus fel fe.  Dyn ni’n poeni am y sgwarnog a’u phlant yn y llyfr a dyn ni’n poeni am Owen  ar yr un pryd.  Siaradodd hi hefyd am amryw o’r themâu trafodon ni yn y dosbarth, fel cyfnod y nofel yn y chwedegau, ei dewis hi henwau pobl a lleoedd, proses ysgrifennu, a phwysigrwydd cymeriadau meirw.  Ro’n ni’n ffeindio’r iaith yn y llyfr yn annodd weithiau ac esboniodd hi fod hi wedi meddwl am hynny ond penderfynodd ddefnyddio hen iaith yr ardal er mwyn bod yn wir i’r stori a’i phobl.  “Llwynog” i “gadno” yw un engraifft.

Mae brawddeg hyfryd yn y llyfr am wylio “meistr wrth ei waith” tra mae Jâms Peithyll yn edrych ag Enoch yn gwneud treialon cŵn defaid.  Mae Caryl Lewis yn feistres wrth ei gwaith hefyd.  Dw i’n fodlon iawn mod i wedi darllen Y Bwthyn a mynychu’r cyfarfod gyda’i awdur.  Mae e’n llyfr hyfryd a dw i’n edrych ymlaen at ddarllen mwy o’i gwaith.