Cymdeithas Maes a Môr, Ffostrasol – Rhaglen 2017

Rhaglen 2017 (hyd yn hyn!)

Nos Lun, 16 Ionawr am 7.30yh yn Neuadd Ffostrasol.

Peter Hughes Griffiths yw’r gŵr gwadd a bydd yn rhoi darlith ar ‘Eisteddfod Ryfedd Caerfyrddin 1911’.  Darlith ddifyr yn ôl y sôn gan feistr y grefft!

Ychydig fanylion am weddill y rhaglen:

20 Chwefror: darlith gan Dr Elin Jones ar frwydr y Siartwyr

20 Mawrth: darlith gan Dr Gerald Morgan ar Dewi Sant

Ebrill: Dr Huw Walters

 

Wncl Tom a’r Wladfa

(Gwaith cartre oedd hwn, gan Liz Poole, sy yn y dosbarth Sylfaen yn Aberteifi.)

Flynyddoed yn ôl gwelais i raglen wych ar y teledu am bobl Gymraeg ym Mhatagonia.

Aethon nhw ar y llong Mimosa yn 1865 ac o’n i’n meddwl ei fod yn ddiddorol iawn. 

Ges i lythyr oddiwrth fy wncwl Tom un Nadolig pan o’n ni’n byw yn Lloegr i ddweud ei fod e’n dymyno mynd i’r Wladfa.

Dwedodd e y priododd fy hen ewyrth Thomas Ap Rhys o Landyfrïog, ferch hynaf y sylfaenydd Michael D. Jones.  Mae fy wncwl Tom yn dal i fyw ar y fferm yn Llandyfrïog ble caeth Thomas Ap Rhys ei eni.

Dwedodd Tom y stori bod un mab Michael D. Jones, Llwyd Ap Iwan wedi ei ladd gan Butch Cassidy a’r Sundance Kid pan oedd Llwyd yn rheolwr y Siop Co-op yn Nant Y Pysgod ger yr Andes.

Oedd y stori yn ddiddorol, a gyda’r llythyr a fy ngŵr Tony, aethon ni i Chile a’r Ariannin am dri mis.

Hedfannon ni i Santiago o Brydain gyda ychydig bach o fagiau llaw.  Doedd Santiago ddim yn teimlo fel dinas fawr, gyda sgwariau, cerddorion yn chwarae, a marchnadoedd, ac allwn ni archwilio ar droed. 

O yma aethon ni i Valparaiso, lliwgar, bywog a phrysur gyda ychydig o “ddim yn mynd” lleoedd.

Yna i Barilloche, oedd hi’n daeth wych i’r Ariannin drwy’r Andes Uchel, coediog a chreigiog.

Mynyddoedd yr Andes

Roeddon ni yn teimlo fel ein bod ni’n hedfan gyda’r condors i fynu, yno.

Oedd anialwch Patagonia yn filltiroedd a milltiroedd o bysgwydd pigog.  Mae’r ffordd yn mynd 5,000 km o Ushaia i Bolivia.  Aethon ni i Esquel i edrych am y lle ro’n  ni’n gobeithio mae perthanasau Michael D. Jones yn byw.  Anfonodd e ei ddau fab i Batagonia.  Daeth Michael (yr ail) yn llawfeddyg ac oedd Llwyd yn Syrfewr a’r person cyntaf i wneud arolwg o Ddyffryn Chabut, dros 600 km o Drelew i’r dwyrain i Esquel ar droed yr Andes.

Yma yn Esquel aethon ni ar daeth arbennig ar yr hen Batagonian Express, hen dren hyfryd gyda seddau pren, stôf llosgi coed a hen doiled quaint.  O’n ni’n wrth fy modd.

Nawr i chwilio am Cassa Butch Cassidy. 

Mewn car llog aethon ni i edrych am garreg goffa Llwyd Ap Iwan.  Oedd Nant y Pysgod llawer o gilometrau hyd ffordd garegog garw.

Oedd Nant y Pygod yn lle tawel gyda coed poplus, afon hardd a physgota.

Gwelon ni Martin Gough, gor-wyr Llwyd Ap Iwan, a dangosodd iddo fe lythyr Tom.

Rhoddodd e groeso i ni ac aethon ni i weld carreg goffa Llwyd a lle y siop ar bwys yr afon ble lladdwyd Llwyd. 

Aethon ni i ffwrdd i Cholila (cwm hyfryd) y diwrnod nesaf i chwilio am fferm Butch Cassidy.  Yr oedd dwy awr hir ar hyd ffordd 40 k, ffordd garegog garw drwy dyffryn llydan diddorol.

Welon ni gauchos ar gefn ceffylau a gofynnon ni “Casa Butch Cassidy?” i’r gauchos i ffindio’r ffordd i’r fferm.

O’r diwedd cyrhaeddon ni  ac oedd yn braf i ddod o hyd i’r fferm ar bwys Rio Blanco mewn cwm hyfryd.

Welon ni neb yno felly edrychon ni o gwmpas y fferm ar ein pennau ein hunain.

Oedd yn dawel, dim ond sŵn y gwynt yn y coed a sŵn y dŵr.  Yn y galon o’n ni’n meddwl am yr herwyr.

Nol i Esquel i roi y car yn ôl, aethon ni i weld Rhiannon Ap Iwan, mam Martin Gough.  Cawsom ni brynhawn hyfryd gyda hi.  Oedd hi’n meddwl ei fod yn ddoniol taw y tren Patagonian Express oedd yn uchelbwynt i ni, achos fel merch teithiodd hi ar seddau caled yn y tren i’w hysgol hi yn Buenos Aires. Byddai Tom yn falch iawn ein bod ni’n dod o hyd i’r lle hwn a siarad gyda teulu Michael D. Jones.

  


Diolch yn fawr iawn i Liz am adael i ni rannu ei stori fan hyn. Os oes storiau hoffech chi eu rhannu gyda darllenwyr Pethe Cylch Teifi, mae pob croeso i chi eu hanfon nhw mewn.