CWMNI DRAMA LLANDUDOCH: ‘First Rispondars’ a ‘Gweld y Sêr’
Dwy gomedi fer yng nghwmni actorion profiadol.
Yn ‘First Rispondars’ gan Gwynedd Huws Jones, mae’r tîm cymorth cyntaf yn cael problem fawr wrth ymarfer, a gyda menyw ddieithr a chriw ffilmio yn troi lan, mae’r canlyniad yn annisgwyl.
Yn ‘Gweld Sêr’ gan Peter Hughes Griffiths, mae gwesty Glan-y-Don yn ceisio cael 4 seren AA uwchben y drws ond mae’r gwesteion yn cymhlethu pethe.
Yn ôl yr arfer, comedïau yw’r rhain gyda phobl yn cael eu hunain mewn sefyllfaoedd eitha anodd a digri.