Y Tafarn Sinc

Y Tafarn Sinc – helpu prynu tafarn Cymraeg

Mae’r gymuned yn ceisio codi arian trwy werthu cyfranddaliadau, er mwyn cadw’r Tafarn Sinc yn Rosebush fel y mae – tafarn Cymraeg gwych. Ond mae angen gwneud cyn diwedd mis Medi – yfory! Hoffech chi helpu a bod yn un o ‘berchnogion’ y tafarn?

Llythyr am y prosiect oddi wrth Margaret Phillips – diolch Margaret!

Y Tafarn Sinc yn Rosebush, yn y Preselau, yw un o’r llefydd prin ble mae pobl yn gallu mynd i mewn a siarad Cymraeg. Mae’r lle’n llwyddiannus ar y foment ond bydd y perchnogion yn gadael ddiwedd mis Hydref.

Mae Cymdeithas Tafarn Sinc wedi bod yn ceisio codi digon o arian i brynu’r lle ers diwedd mis Mehefin, i’w gadw fe fel y mae ar hyn o bryd, a chadw’r awyrgylch.  Bydd rhaid cael y rhan fwya o arian cyn diwedd mis Medi.

Maen nhw wedi cael mwy na hanner ond maen nhw’n dal i chwilio am bobl sy’n fodlon prynu  cyfranddaliadau [“shares”] @ £200 yr un [llog 2%] neu wneud benthyciad o £5000 am dair blynedd [llog 4%].

Yn y ddau ddewis, bydd y log yn well na beth mae banciau yn ei gynnig.

Hoffai rhywun sy’n dysgu Cymraeg brynu cyfranddaliad, neu hoffai grŵp o ddysgwyr greu ‘syndicate’ i brynu cyfranddaliad(au)?

Gallwch chi gael mwy o fanylion yma:

www.tafarnsinc.cymru

facebook & twitter: @SaveTafarnSinc

ebost: tafarnsinccymru@gmail.com

 

Y Tafarn Sinc – help buy a Welsh pub

The community is trying to raise money through the sale of shares, to keep the Tafarn Sinc in Rosebush as it is – a great Welsh language pub. But it needs to be done before the end of September – tomorrow! Would you like to help and be one of the pub’s ‘owners’?

A letter about the project from Margaret Phillips – thanks Margaret!

Y Tafarn Sinc in Rosebush, in the Preselis, is one of the rare places where people can go in and speak Welsh. The place is successful at the moment but the owners will leave at the end of October.

The Tafarn Sinc Association has been trying to raise enough money to buy the place since the end of June, to keep it as it is at present, and keep the atmosphere. The bulk of the money will be needed before the end of September.

They have got more than half but are still looking for people willing to buy shares @ £200 each [interest 2%] or make a loan of £5000 for three years [interest 4 %].

In both options, the interest will be better than what banks offer.

Would anyone learning Welsh like to buy a share, or would a group of learners be interested in creating a ‘syndicate’ to buy a share(s)?

You can get more details here:

www.tafarnsinc.cymru

facebook & twitter: @SaveTafarnSinc

email: pubsinccymru@gmail.com