Geiriau Clasuron Tecwyn Ifan

Bydd Tecwyn Ifan yn perfformio ym Mar y Selar, Stryd y Cei, Aberteifi, nos Sadwrn 27 Sadwrn 2018. Mae Tecs yn enw sy’n gyfarwydd i bawb sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, wrth gwrs, ond i’r rhai sy wrthi’n dysgu ar hyn o bryd, dydy ei ganeuon ddim yr un mor gyfarwydd. Dyma rhai o’r goreuon, gyda’r geiriau.


Angel

Daeth i mi mewn breuddwyd, daeth y feinwen lân,
Torrodd drysau melys cwsg i adrodd im ei chân,
Galwad ddaeth im gwely clud a’r nos yn wlyb ac oer,
Gwelais hi yn dawnsio’n ffri ar belydrau’r lloer

Gan ddweud:
Tyrd lle mae’r awyr yn burach,
Y tiroedd yn lasach [wyrddach],
Lle cana’r adar mwyn i gyd yn iach,
Yno mae heddwch
A hudol brydferthwch
A chysur clyd i’r corff cyn mynd i’r llwch.

Cwmwl ddaeth yn llen i’r lloer a’i belydrau aur,
Ni welswn mwy y feinwen deg na sibrwd mwyn ei gair,
Trois yn ôl i drwmgwsg hir i wlad y Tylwyth Teg
Ac anghofiais sain y gân am arall sain oedd bêr.
Anghofiais lle’r oedd yr awyr yn burach …

Pan ddaeth newydd wawr dros fyd a’r nos yn cilio draw,
Minnau’n cyfarch haul y dydd tra chiliai cysgod braw,
Gwelais ar y gorwel pell fy mreuddwyd ferch mor rhydd,
Angel Cymru Newydd oedd yn dod i hawlio’i dydd.
A’r dydd hwnnw roedd yr awyr yn burach …


Cerdded Mlaen

Roedd mynyddoedd y Preselau
Fel tadau mwyn i mi,
Rhain ydoedd fy hoffus ffrindiau i,
Bryd hynny ro’n i’n ifanc
A phur ydoedd fy nghân,
Minnau megis newydd gynnau’r tân.

Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen,
Dal i gerdded ’mlaen,
Am fod rhai yn dal i ‘ngharu,
Rwy’n dal i gerdded ’mlaen.

Dechreuais innau gerdded,
Cerdded ar fy nhaith,
Dros y bryniau teg, ’r hyd dolydd llaith,
Profais oriau tywyll,
Brwydrau gwaedlyd fu,
Trosof aeth ’na rai trwy’r angau du.
Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen ….

A nawr ar fy hen lwybrau
Fe dyf y glaswellt hir
Ac ni allaf bellach grwydro’r tir,
Paid a chynnig cymorth
I hen wraig ar ffo,
’Mond dy fywyd cyfan wnaiff y tro.
Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen ….

Mae bywyd yn y canu,
Ond marw yw y gân,
Dyna ofid yr hen wreigen lân,
Ond pan drodd y Cymry ati
Y canfu hi ei hedd
A throdd hithau’n ieuanc hardd ei gwedd.

Ac mae’n dal i gerdded ’mlaen,
Dal i gerdded mlaen,
Am fod rhai yn dal i’w charu,
Mae’n dal i gerdded ’mlaen. x2


Gwaed ar yr eira gwyn

Ym mynwes y ddaear y cysgodd y gwŷr,
Gorwedd eu cyrff ar bridd y tir,
Collwyd y dydd rhwng y bryniau hyn,
Sychodd y gwaed ar yr eira gwyn.

Gwaed y gwŷr ar yr eira gwyn.
Gwaed ar yr eira gwyn.

Oer yw’r cwm, diffoddodd y tân,
Ciliodd yr adar, tewodd eu cân,
Marw breuddwyd oesol fan hyn,
Dyna yw’r gwaed ar yr eira gwyn…

Ni welir un croes am na thorrwyd ’run bedd,
Gadawyd y cyrff i orwedd mewn hedd,
Gadawyd y cyfan i gysgu fel hyn
Tra’r erys y gwaed ar yr eira gwyn…


Stesion Strata


Ffarwél i Stesion Strata, Ffarwel i Ystrad Fflur,
Ffarwél i lynnoedd Teifi a’u dyfroedd pur,
Ffarwél i’r grug a’r fawnog a llwch y gweithe mwyn,
Ffarwél i ferch y bryniau, ei serch a’i swyn.

Mae hiraeth am y dyfroedd ym mref yr hydd,
Mae hiraeth yn y nos am weled toriad dydd,
Mae hiraeth ar hen aelwyd am gael ailgynnau’r tân,
Mwy hiraeth sy’n fy mron am gariad genneth lân,

Cytgan:
Rhudd yw ei gruddiau, Rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith;
Rhudd yw ei gruddiau, Rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith ar y gwawn.

Er gweled ar fy nheithiau ryfeddodau’r byd,
Ac er i diroedd pell dros ennyd ddwyn fy mryd,
Gwn mwy na fyddaf fodlon nes profi eto’r swyn
Yng nghwmni merch y bryniau ar Esgair Mwyn.


Y Dref Wen

Y Dref Wen yn y dyffryn
Heno heb arf nac offeryn
Ar wyneb y gwellt gwêl y gwaed
A drôdd y pridd yn llaid

Ond awn i ail-adfer bro
Awn i ail-godi’r to
Ail oleuwn y tŷ
Pwy a saif gyda ni?

Y Dref Wen chwâl ei meini
Heno’n brudd yn ei hoerni
Ddaeth ’na neb i holi pam
Mai marw yw’r fflam
Ond awn i ail-adfer bro……

Y Dref Wen wrth y coed
Hiraeth am gadw oed
Ciliodd pawb o’r hyfryd fro
’Stafell Gynddylan sydd dan glo.
Ond awn i ail-adfer bro……


Bytholwyrdd


Boed Duw i ti’n amddiffyn,
Boed iddo iti’n ran,
Mynega dy weddїau taer,
Fe’i hetyb yn y man,
Boed iti ddringo grisiau’r sêr –
Gweld rhyfeddodau fyrdd,
A thrwy y cyfan hyn
Boed iti fod yn fytholwyrdd.

Boed iti dyfu’n gyfiawn,
Boed iti dyfu’n driw,
Boed iti wybod beth yw’r gwir
Gan weld y golau gwiw,
Boed iti fod yn gryf a dewr
Wrth gerdded garw ffyrdd,
A thrwy y cyfan hyn
Boed iti fod yn fytholwyrdd.

Boed cain a lunio’th dwylo,
Boed iti ddwydroed chwim,
Boed fyddlon iti’th wreiddiau dwfn
Pan chwytho’r gwyntoedd llym;
Boed i dy lais wrandawiad teg
Pan geni di dy gân,
A thrwy hyn oll boed iti fod
Yn fytholwyrdd a glân.


Ar Doriad Gwawr

Mae ‘na linell wen i’w gweld fan draw
Ar doriad gwawr,
A daw cwthwm o wynt a chawod o law
Ar doriad gwawr,
A thrwy ddagrau’r glaw ar y gwydr brau
Mae’r ‘sgotwr yn edrych mas dros y bae
Gan wybod yn ei ofid a’i wae
Na all pethau fyth barhau
Ar doriad gwawr.

Does fawr o gysgod lawr ar y cei
Ar doriad gwawr,
Dan ddiferion ewyn ton ola’r teid
Ar doriad gwawr.
Mae’r ferch a’r heli’n ei llygaid glas
Yn rhoi ei stondyn lan ar ras
Ffrwythau a llysiau, pob lliw – pob blas
Mae’n eu rhoi nhw mas
Ar doriad gwawr.

Maent yn dechrau clirio lle
I archfarchnad fawr i’r dre,
Dyma’r hoelen olaf yn yr arch;
O, bydd rhaffau, rhwyd a rhwyf
Yn addurn ar y clwyf –
Rhywbeth bach er cof i ddangos parch.

Mae cwch pysgota’n sownd wrth y cei
Ar doriad gwawr,
A ddaw neb i alw ar donnau’r teid
Ar doriad gwawr,
A does neb yn rhoi eu stondyn mas
Pawb yn mynd fan draw at ras
Tra bo’r ’sgotwr yn dal i deimlo’r ias
Wrth gofio’r ferch a’r heli’n ei llygaid glas
Ar doriad gwawr.

A bellach yn ei lle
Mae archfarchnad fawr y dre,
Dyma’r hoelen olaf yn yr arch;
Ac mae rhaffau, rhwyd a rhwyf
Yn addurn ar y clwyf –
Rhywbeth bach er cof i ddangos parch.


Cân Yr Adar Mân

(Mererid Hopwood Awst 2011)


Rhwygo’r tir fu’r hen hen hanes,
rhwygo’r glo i’n cadw’n gynnes,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
yw rhwygo anadl popeth byw.

Ac am nad oes geiriau’n falm
Canaf eiriau cur
Am adar mân fy Nghymru Lân
A’u chwim adenydd dur.

Rhwygo’r dŵr fu’r hen hen stori
boddi’r cymoedd a’r pentrefi,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
Yw rhwygo anadl popeth byw.

Ac am nad oes geiriau hardd
Canaf eiriau hyll
Am adar mân fy Nghymru Lân
Yn crawcian ofnau’r gwyll

Anelu a saethu o bellter byd
Anelu a saethu dyna’i gyd
‘Gelyn’ yw’r plant sy’n chwarae ar y stryd
Y rhain medde ti wrtho i sydd yn werth y byd
Rhain sydd yn werthy byd
Rhain sydd yn werth y byd.

Rhwygo’r byd yw’r chwedl newydd,
rhwygo cyd-ddyn wrth eu gilydd,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
Yw rhwygo anadl popeth byw.
Ac am nad oes geiriau drud
Canaf eiriau tlawd
Am adar mân fy Nghymru Lân
Sy’n ladd fy chwaer a’m brawd.

Adolygiad: Gwilym Bowen Rhys, Tafarn Sinc

Daeth yr adolygiad isod i law oddi wrth Andy Cordy, Crymych. Diolch yn fawr iddo am ei anfon, ac am roi caniatâd i’w rannu yma:


Es i mas neithiwr i glywed Gwilym Bowen Rhys. Diolch yn fawr iawn iawn am hysbysebu y gig, roedd ei berfformiad yn fythgofiadwy.

Mae e wedi datblygu modd unigol o gyflwyno ei ganeuon ei hun, caneuon gan artistiaid cyfoes fel Gai Toms a chaneuon traddodiadol sy’n defnyddio elfennau gwerinol ond yn cynnwys ei brofiadau roc a rôl.

Dw i’n genfigennus (wrth gwrs) o’i ddawn, ei egni ieuanc, ei gyfaredd ond dw i’n poeni bod dyn mor fedrus, sy’n tanio mor ffyrnig, ddim yn gallu mynd yn hen.

Does dim bywoliaeth i gael mewn perfformio i bum deg i drigain o bobl ond mae’n amlwg roedd e’n hollol gyfforddus, heb ormodiaith, yn siarad ac yn canu yn uniongyrchol â’i gynulleidfa.

Mae ei ddiddordeb mewn hanes a diwylliant, sy’n gyrru’r angerdd yn ei lais, yn amlwg hefyd. Meistr ei grefft, ac yn wir drwbadŵr ei oes.


Diolch eto, Andy!

Cofiwch bod croeso bob tro i ddarllenwyr cylchlythyr Pethe Cylch Teifi anfon adolygiadau neu sylwadau i mewn, ac i’w rhannu gyda’r criw yma ar y blog – nic@dysgu.com yw’r cyfieirad ebost.

 

[Llun: BBC]


Maes a Môr: ‘Y Mabinogi a Dyffryn Teifi’

Nos Lun, Ionawr 15 – Cymdeithas Hanes Maes a Môr, Darlith gan Dr John Davies:

‘Y Mabinogi a Dyffryn Teifi’, Neuadd Ffostrasol, 7.30yh
Neges gan Eiris Llywelyn:

Dr John Davies, yr hanesydd a’r daearegwr o Landysul yw’r siaradwr gwadd a thestun ei ddarlith fydd ‘Y Mabinogi a Dyffryn Teifi’. Yn ôl y rhai sydd eisoes wedi’i chlywed mae’r ddarlith yn cynnwys cyfoeth o hanes a sleidiau diddorol iawn.

Croeso cynnes i chi ymuno â ni nos Lun a diolch i chi am bob cefnogaeth.

Cerddwyr Cylch Teifi: Llwybrau Llandudoch

[Scroll down or click here for English]

Cerddwyr Cylch Teifi: 13 Ionawr 2018

Llwybrau pentref Llandudoch

Arweinydd: Terwyn Tomos

Byddwn ni’n gadael maes parcio Llandudoch (SN 176 460; cod post SA43 3ED) am 10:30yb. (Efallai bydd angen talu i barcio)

Y daith: Taith gylch o ryw ddwy awr, tua dwy filltir, yn bennaf ar lwybrau’r pentref.  Cerddwn o’r maes parcio ar lan yr afon heibio’r Netpwl i gyffiniau Glanteifon (a’r 500 metr olaf ar y ffordd fawr). Wedyn awn ar lwybr cyhoeddus heibio Castell Albro nes cyrraedd y ffordd fawr gerllaw Fferm Penrallt-y-dre, cyn dilyn Llwybr Llygoden i lawr i’r pentref a’r maes parcio.   Dim sticlau a dim ond esgyniad graddol ond mae’r llwybrau’n gul ac mewn mannau yn debygol o fod yn fwdlyd.  Mae angen gofal arbennig ar y rhan o’r llwybr lle mae llethr serth ar un ochr.  Mae’n bosibl osgoi Llwybr Llygoden, sy’n serth a garw, drwy ddilyn y ffordd fawr.

Pwyntiau o ddiddordeb:  Hen enwau diddorol ar fannau penodol yn y pentref, hanes y diwydiant pysgota sân ac adeiladu llongau; rhai adeiladau a mannau hanesyddol; hefyd golygfeydd trawiadol.

Cymdeithasu dros luniaeth wedyn: Mae digon o ddewis yn y pentref, er enghraifft yr Hydd Gwyn neu’r Cartws.

Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hunain ac felly darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn gallu ei chyflawni heb oedi’n ormodol, a dewch â dillad addas. (Mae rhagor o nodiadau am ddiogelwch yn y Rhaglen bapur, ac yn ebost cyntaf y tymor (2/9/17). Gofynnwch os nad oes copi gyda chi, neu cliciwch fan hyn.
Cofiwch hefyd fod dysgwyr yn dod i gerdded gyda’r grŵp er mwyn cael cyfle i sgwrsio â Chymry lleol. Da chi, agorwch sgwrs â nhw pan allwch. Diolch yn fawr.

 

 


 

 

 

Cerddwyr Cylch Teifi: 13 January 2018

St.Dogmaels village paths.

Leader: Terwyn Tomos

We’ll leave the St.Dogmaels car park (SN 176 460; postcode SA43 3ED) at 10:30am. (You may need to pay for parking)

The walk: A circular walk of about 2 hours, some 2 miles, mainly on the village paths. We’ll walk from the car park beside the river past Netpool to the vicinity of Glanteifon (the last 500 meters being on the main road). We’ll then go on a public footpath past Albro Castle until reaching the main road near Penrallt-y-dre Farm, before following the Mouse Path down to the village and the car park. No stiles and only a gradual rise but the paths are narrow and in places are likely to be muddy. Special care is needed on the part of the path where there is a steep slope on one side. It is possible to avoid the Mouse Path, which is steep and uneven, by following the main road.

Points of interest: Interesting old names of specific places in the village, the history of the ‘Seine’ fishing industry and shipbuilding; some buildings and historic places; also stunning views.

Socialize over refreshments: There is plenty of choice in the village, for example the White Hart or the Coach-house.

Remember that you are responsible for your own safety, and so read the details of the walk to ensure that you are able to complete it without too much delay, and bring suitable clothing, especially warm clothes this time. (There are more notes about safety in the paper Programme, and in the first email of the season (2/9/17). Ask if you don’t have a copy, or click here.)

Remember too that Welsh will be the language of the walk, so if you are beginning to learn you may not be able to follow much of what is said but it is an ideal opportunity to use all the Welsh you have learned and you can ask others to give you the gist – but please try to avoid using ‘English-only’ in any conversation.