Archifau Categori: Adroddiad

Cerflun Ben yn y Castell

Anfonodd Celia, Felin Bedw, y llun hyfryd yma o’r artist Ben Dearnley gyda rhai o’i gyd-ddysgwyr a ddaeth ar achlysur dadorchuddio ei gerflun newydd. Dyma Celia’n rhoi hanes:

Cwrddon ni yn ein dosbarth Cymraeg cyntaf ym mis Hydref 2012 ac wedi parhau i fod yn ffrindiau ers hynny.  Yn ddiweddar, gwahoddodd Ben ni i ddadorchuddiad ei gerflun newydd e yng Nghastell Aberteifi.

Caeth e’r syniad ar gyfer y cerflun pan oedd e’n dysgu drws nesa i swyddfa adfer y Castell.  Ers hynny, mae e wedi bod yn gweithio ar y syniad. Mae Ben wedi cerfio siâp mewn llechfaen sy’n cynrychioli cleddyfau ond y neges yw bod “yr ysgrifbin yn gryfach na’r cleddyf”.

Caeth e gefnogaeth gan feirdd adnabyddus lleol sef Ceri Wyn Jones a Gillian Clarke. Ysgrifennon nhw gerddi a defnyddiodd Ben rhai o’u llinellau ar y cerflun.

Ewch i’w weld e – mae e’n ardderchog! Mae gwydr lliw yn edrych yn wahanol yn ôl amser y dydd a’r tymor.

Ben Dearnley a rhai o’i gyd-ddysgwyr wrth ochr y cerflun newydd. O’r chwith: Ben, Nigel Blake, Celia Richardson, Judith Wainwright a Jude Marr.

Y Bwthyn gan Caryl Lewis

(Adolygiad o’r llyfr a’r sesiwn gyda’r awdur gan Judith Wainwright.)

Cyhoeddwyd y Bwthyn ym 2015 gyda’i lansiad yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Daeth Caryl Lewis, awdures y llyfr, i siarad â ni ar y 21ain Ionawr.  Dyn ni wedi darllen ei llyfr yn nosbarth Richard dros y tri neu bedwar mis diwethaf.  Ro’n i wedi gorffen y llyfr y noson gynt, felly roedd e’n ffres yn fy nghof o hyd.  Mae’r llyfr yn traethu stori tri pherson. Enoch yw hen ffermwr ym mynyddoedd Ceredigion a oedd newydd golli ei wraig, Hannah.  Isaac yw ei fab hanner cant oed sy ddim yn briod ac sy’n byw a gweithio ar y fferm gyda’i dad.  Owen yw dieithryn sy’n cyrraedd yn eu mysg, ac mae ei bresenoldeb yn dymchwelyd balans eu bywyd.  Mae’r stori yn drist ac yn codi ofn mewn lleoedd ond yn y diwedd ro’n i’n teimlo’n fodlon a llawn o obaith.  Mae cymeriadau ochr gwych yn y llyfr hefyd, sy’n bwysig i’r stori, megis y Bois Peithyll a Dei Clawdd Melyn.  Mae’r cymeriadau i gyd yn cael eu portreadu’n dda iawn ac yn holloll realistig a hygoel.  Dw i’n gallu gweld dynion fel nhw bob wythnos yn ein hardal ni.

Mae’r llyfr yn dechrau jyst ar ôl angladd Hannah, pan dyn ni’n dysgu am broblemau Isaac gydag yfed a’r straen rhyngddo fe a’i dad.  Dyn ni’n dysgu hefyd am gariad Enoch am ei wraig a’i deimladau cryf hefyd am y tirlun mynyddig a’r hen fwthyn ble oedd fe a Hannah yn arfer byw ar ôl iddyn nhw briodi.  Bydd y bwthyn yn dod yn fwy a mwy pwysig tra bydd y stori’n datblygu a dyn ni’n sylweddoli mwy.  Mae natur a ffermio yn themâu enfawr yn y llyfr ac mae disgrifiadau ohonyn nhw yn llawn o fanylion a bywyd, yn ogystal â bod yn hardd iawn.  Mae dawn peintio lluniau gyda geiriau ‘da Caryl.  Thema arall yw cyfrinachau, ac mae Caryl yn glyfar iawn am ddangos bob yn dipyn gyfrinachau ym mywydau ei phrif gymeriadau.  Gwylion ni gyfweliad gyda Caryl Lewis o S4C yn un dosbarth, ac roedd yn amlwg ynddo fe sut dyw hi’n lico dangos dim ond rhan o’r stori a gwastad yn dal rhywbeth yn ôl.

Ar ôl i fi fwynhau’r llyfr cymaint, ro’n i’n edrych ymlaen at y sesiwn gyda Caryl a do’n i ddim yn siomedig.  Roedd hi’n ddiddorol a swynol iawn ac ehedodd yr amser.  Dechreuodd hi gan esbonio sut dewisodd hi’r prif gymeriadau a’r sefyllfa a pham mae’r stori’n agor gydag angladd Hannah.  Roedd Hannah wedi dal harmoni rhwng Enoch a’i fab, ac ar ôl ei marwolaeth roedd y straen yn codi i’r arwyneb ar yr un pryd do’n nhw’n ymdopi gyda’u galar.  Roedd dyfodiad Owen yn sbardun wedyn, i gynnau’r gyfres o ddigwyddiadau a rhai argyfyngau mae’r nofel yn disgrifio.

Esboniodd hi ei hymchwil gyda hen ffermwr i ddysgu am hen ddyddiau ac arferion ffermio.  Siaradodd hi lot am symbolau; mae hi’n defnyddio natur a chreaduriaid i symboleiddio ei chymeriadau a beth sy’n digwydd iddyn nhw am gyfnodau gwahanol.  Er engraifft symbol pwysig iawn i Owen yw’r sgwarnog, sy’n dal i symud o le i le ac sy’n nerfus a gofalus fel fe.  Dyn ni’n poeni am y sgwarnog a’u phlant yn y llyfr a dyn ni’n poeni am Owen  ar yr un pryd.  Siaradodd hi hefyd am amryw o’r themâu trafodon ni yn y dosbarth, fel cyfnod y nofel yn y chwedegau, ei dewis hi henwau pobl a lleoedd, proses ysgrifennu, a phwysigrwydd cymeriadau meirw.  Ro’n ni’n ffeindio’r iaith yn y llyfr yn annodd weithiau ac esboniodd hi fod hi wedi meddwl am hynny ond penderfynodd ddefnyddio hen iaith yr ardal er mwyn bod yn wir i’r stori a’i phobl.  “Llwynog” i “gadno” yw un engraifft.

Mae brawddeg hyfryd yn y llyfr am wylio “meistr wrth ei waith” tra mae Jâms Peithyll yn edrych ag Enoch yn gwneud treialon cŵn defaid.  Mae Caryl Lewis yn feistres wrth ei gwaith hefyd.  Dw i’n fodlon iawn mod i wedi darllen Y Bwthyn a mynychu’r cyfarfod gyda’i awdur.  Mae e’n llyfr hyfryd a dw i’n edrych ymlaen at ddarllen mwy o’i gwaith.

 

 

Calennig Llanelli

Daeth y nodyn isod law oddi wrth Ray Jones, sy’n byw yn Nhrefdraeth bellach, ac yn mynychu dosbarthiadau Philippa yn Aberteifi:

Rydw i wedi darllen yr erthygl ar Calennig a roedd Calennig yn hollol wahanol yn Llanelli ar ddiwedd y 40au a’r 50au cynnar. Yma, byddai bechgyn yn mynd o gwmpas tai yn syth ar ôl hanner nos ac yn canu y gân isod a byddai pobl y tai yn rhoi arian iddyn nhw. Gallech fynd o amgylch tan ganol dydd Ionawr 1. Credid hefyd ei bod yn lwcus os oedd y gantorion â gwallt du, ac roedd galw mawr ar fechgyn o’r fath. Rydw i’n cofio ei fod yn llewyrchus iawn.

Blwyddyn newydd dda i chi
Ac i bawb sydd yn eich tŷ
Dyma fi yn ddweud i chi
Blwyddyn newydd dda i chi

Blwyddyn newydd dda [enw teulu] a pawb yn eich teulu hapus!

Diolch i Ray am gysylltu, a rhannu ei atgofion.

Abaty 900

Abaty 900

Amcanion:

Gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau a sefydliadau eraill er mwyn:

  • Hybu safle Abaty Llandudoch fel man i ymweld ag ef ac i gynnal digwyddiadau;
  • Creu cysylltiadau gyda mynachlogydd ac abatai Tironaidd eraill yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill; a
  • Gweithredu fel “ffrindiau’r abaty” er mwyn sicrhau bod y safle a’r  adeilad yn derbyn y gofal gorau.

 

Beth ydym wedi ei wneud hyd yma?

  • Trefnu  a chynnal dau gyngerdd awyr agored ar y safle gan gorau meibion Pendyrus a Dyfnant
  • Cynnal dwy Gymanfa Ganu (un yn yr eglwys a’r llall yn yr Abaty)
  • Trefnu bod plant Ysgol Llandudoch yn nodi Diwrnod Sant Dogfael trwy gynnal gwasanaeth byr wrth gerflun y Sant.
  • Creu cysylltiadau gyda’r ‘fam’ abaty yn Thiron-Gardais, Ffrainc, ac mae grŵp bychan wedi ymweld â’r lle ddwy waith.
  • Creu cysylltiadau cynnar gyda mynachlogydd/abatai Ynys Bŷr, Hamble (ger Southampton), y Pîl, ac Arbroath (yr Alban)
  • Cytuno i groesawu ymwelwyr o Thiron-Gardais i Landudoch ym Medi 2015 i aros mewn gwestai lleol ar eu cost eu hunain.

Beth ydyn ni’n gobeithio’i gyflawni yn y dyfodol?

Cryfhau aelodaeth Abaty 900 er mwyn :

    • Parhau i drefnu digwyddiadau addas yn yr abaty.
    • Sicrhau bod ymweliad pobl Thiron-Gardais yn un llwyddiannus, a’u bod yn derbyn croeso teilwng.
    • Datblygu cysylltiadau agosach gyda safleoedd eraill, gan drefnu ymweliadau a derbyn ymwelwyr.
    • Trefnu sesiynau amrywiol i rannu gwybodaeth am hanes yr abaty a’r pentref.
    • Ystyried ffyrdd o ddatblygu’r safle ymhellach, er enghraifft, trwy ymgyrchu i sicrhau bod cerfluniau’r abaty’n cael eu dychwelyd a’u harddangos mewn ffordd ddiogel a deniadol.

 

  • Rydym yn gwbl agored i syniadau newydd

 

 

 

 Llun gan Des D. Mona ar Flickr.

 

Arwr

Cerdd buddugol yng nghystadleuaeth Cadair y Dysgwyr yn Eisteddfod Sir Gâr eleni oedd Yr Arwr, gan Elizabeth Jones o Gwmhiraeth. Mae Elizabeth yn mynychu dosbarth Uwch 2 yn Aberteifi.

Dyma geiriau Emyr Davies yn ei feirniadaeth:

Cerdd i fab a syrthiodd wrth gerdded yn ei gwsg yw’r testun, a’r cefndir yn Ne Affrica (er nad Mandela yw’r arwr hwn). Hanesyn personol sydd yma, efallai, ond mae’r stori’n glir ac wedi ei mynegi’n gynnil. Dyma fardd sy’n gwybod sut i droi syniad yn gerdd.

Llongyfarchiadau mawr iawn i Elizabeth ar ei llwyddiant, a diolch yn fawr iddi am roi ei chaniatâd i ni gyhoeddi ei cherdd yma.

Mae’r llun yn dangos Elizabeth (ar y dde) yn derbyn y Gadair oddi wrth yr Archdderwydd, Christine James.


 

Arwr

Addolwyd gan ei deulu,
Tal, main, golygus,
Llygaid pefriog glas,
Gwallt golau, ffefryn pawb,
Yn athletaidd dros ben.

Noson boeth ym mis Mehefin 1948
Noson cyn chwaraeon yr ysgol,
Ffenestr ei ystafell wely,
Agored led y pen. Ar hyd y silff ffenestr
Cerddodd yn ei gwsg.

Breuddwydiai am ddringo
Ar graig yn ei hen wlad
Wrth syllu dros y mor
Tuag at Ynys Robben anghyfanedd.
Clywodd y gwahangleifion
Yn gweiddi. Gwelodd
Fonion rhyfedd heb bysedd
Yn estyn dwylo, yn codi bys arno.

‘Pen ac yswydd uwchben
Y gweddill,’ dwedodd Dad.
Ond yn dal yn fachgen newydd,
Fyddai’n cael ei wrthod,
Tasai’n meiddio ennill?
Llithrodd ei droed
A disgynnodd i ofod.

Clywodd Dad swn griddfan,
Fel anifail mewn magl.
Nid anifail ddarganfyddodd,
Ond mab, llipa a llwyd
Yn gorwedd ar goncrit oer,
Ei en ac arddwrn
Yn rhyfedd o grwca.

Trwsiwyd ei gorff toredig.
Drylliwyd ei hunan-barch.
Yn eistedd ar ei ysgwydd
Roedd bwbach methiant,
Yn llenwi ei ffroenau,
Roedd cythraul cywilydd.

Pob aelod o’r teulu yn bwrw’r bai
Arno’i hun am golli ei arwr.
Collodd y teulu ei freuddwyd
Noson boeth ym mis Mehefin 1948.

 

Gwthio dy big i mewn

Nodyn gan Richard Vale:

Roedd y sesiwn cyntaf yn llwyddiant. Mi ddaeth 11 o bobl – y rhan fwyaf ohonynt ar lefel Uwch 1 + 2 – ond rhai o ddosbarthiadau Canolradd. Bydd y sesiynau’n dilyn yr un patrwm bob tro, sef:

1. Sgwrs anffurfiol mewn grwpiau bach

2. Trafod “pwnc y dydd” (‘Y celwyddau mae rhieni’n dweud wrth eu plant’ roedd y pwnc heddiw)

3. Canu gwerin – roedd gyda ni ddwy gitar a banjo. ‘Defaid William Morgan’ a ‘Si hei lwli’ oedd y caneuon.

A fyddech cystal lledaenu’r gair o.g.y.dd.

Byddwn ni’n cwrdd am y tro nesaf am 11 o’r gloch ar ddydd Iau, y 24ain o Orffennaf, yng Nghaffi Emlyn, Tanygroes.

Croeso cynnes i bawb.

Richard


Sesiwn nesaf – 4 Medi 2014

Arwr

Nos Fercher, yn ystod noson lenyddiaith Gŵyl Fawr Aberteifi, cyhoeddwyd taw Elizabeth Jones o ddosbarth Uwch 2 oedd wedi ennill y gystadleuaeth i ddysgwyr gyda’i darn o ryddiaith am ‘Arwr’.

Dwedodd y beirniad (Karen Owen) ei bod hi’n hoffi’r iaith – tafodiaith naturiol yr ardal – yn y ddeialog. Roedd yn amlwg bod y darn wedi gwneud argraff dda iawn ar Karen. Llongyfarchiadau mawr i Elizabeth!

 


Arwr

‘Mae fy mam yn sâl iawn,’ meddai Ros.

‘Beth sy’n bod arni hi?’

Mae’r tair cyfeilles yn sgwrsio ym muarth chwarae’r ysgol. Maen nhw’n ddeuddeg mlwydd oed ac yn eistedd ar wal isel.

‘Mae’r meddyg yn ei galw hi’n ‘anaemia aflesol’.’

‘Beth yw hynny?’

‘Sa i’n gwybod ond mae hi wedi mynd yn wan fel blewyn…..a dyw hi ddim yn gallu anadlu.’

Dyw Erin a Bethan ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Dydyn nhw ddim yn gallu dychmygu’r fath sefyllfa.

‘A’r peth gwaethaf…..,’ mae hi’n petruso ac yn llyncu yn galed…. ‘y peth gwaethaf yw… rhaid iddi hi fwyta plataid o afu amrwd bob dydd,’ mae’i llais hi bron yn anhyglyw. ‘..mae’n hollol ffiaidd.’

Mae Erin yn cydio yn llaw ei ffrind. Mae dagrau yn llygaid ill tri.

 

Mae Bethan ac Erin yn beicio i fyny y bryn tuag at eu cartrefi.

‘Dere adref gyda mi’, mae Bethan yn dweud.

‘Océ.’

 

Yn ystafell Bethan mae Erin yn gorwedd ar wely Bethan ac mae Bethan wedi ei lledu ei hun ar y llawr yn syllu i fyny ar Erin.

‘Wyt ti’n credu mewn arwyr?’ meddai Bethan.

‘Nadw.’

‘Wyt ti’n gwybod y stori am Orpheus?’

‘Nadw.’

‘Wel, roedd e mewn cariad ag Euridyce. Bu farw Euridyce a thriodd Orpheus ei hachub hi o’r isfyd.’

‘A lwyddodd e?’

‘Naddo.’

‘Wel, dyna ni ’te. Roedd fy nhadcu yn arfer bod yn arwr i fi.’

‘Dim nawr?’

‘Maen nhw wedi’i roi fe mewn gwallgofdy ar ôl iddo fe gael stroc.’

‘Ond dydi hi ddim yn deg.’

‘Nady. Dydi hi ddim yn deg bod mam Ros yn marw chwaith.’

‘Mae record newydd ’da fi. Gwranda.’

 

Mae Bethan yn neidio i fyny er mwyn rhoi record ar ei gramaffôn. Mae tonau cyfoethog llais contralto yn swyno Erin.

‘Beth yw bywyd i mi hebot ti,

Beth sydd ar ôl os wyt ti wedi marw,’ mae’r llais hudol yn ei ganu.

 

Mae Bethan yn syllu ar ei ffrind ac mae hi’n sylweddoli bod dagrau yn diferu i lawr ei bochau. Mae hi’n dechrau ymestyn ei braich er mwyn cyffwrd â hi, ond dyw hi ddim yn beiddio.

Ar ôl i’r gân orffen mae hi’n dweud, ‘Ti’n gwybod bod Ros mewn cariad â ti, on’d wyt ti?’

‘Paid a bod mor wyrion.’

Mae ill dwy yn gwrido. Mae’n iawn i fod mewn cariad â merched llawer hŷn neu ag athrawes wrth gwrs, ond mae hi’n rhy annifyr cyfaddef bod cariad at rywun yr un oed â ti.

‘Pwy yw’r gantores ’ma?’ mae Erin yn gofyn.

‘Paid â throi’r stori .’

‘Cau dy geg. Dw i’n mo’yn gwybod pwy yw hi.’

‘Kathleen Ferrier wrth gwrs.’

‘Mae hi’n wych. Mae hi allan o’r byd hwn. Dw i’n meddwl gallith hi fod yn arwr i fi.’

 

Tri mis ar ôl y stori ’ma bu farw Kathleen Ferrier. Roedd ei pherfformiad olaf o Orpheus fel gwyrth. Roedd ei llais cyn gryfed ag erioed, ond roedd ei chorff yn briwsioni oddi dani. Yn ystod y perfformiad cafodd ei ffemwr ei dryllio ond serch hynny gorffennodd hi’r perfformiad.

Mwy o Deithiau Cyffrous Pat

Dyma ni eto gyda stori gan Pat o’r dosbarth Canolradd yn Aberteifi. Caeth hi a’i gŵr wyliau i’w cofio dros y Pasg, mae’n debyg! Cofiwch i gysylltu â ni os hoffech chi rannu stori gyda darllenwyr y cylchlythyr…

Y llynedd aethon ni i Fenidorm ar wyliau gyda’n ffrindiau dawnsio.  Gaethon ni amser gwych! Felly, ro’n ni wedi penderfynu mynd nôl eto eleni.

Ro’n ni’n hedfan o Faes Awyr Gaerdydd am chwarter wedi chwech bore Sadwrn.  Aeth John a fi i Abertileri ddydd Gwener i ymweld â ffrindiau a theulu yna.  Ro’n ni’n aros yn nhŷ mab John nes i’r minibws ddod i fynd â ni i Gaerdydd.  Daeth e am dri o’r gloch yn y bore.  Felly, ro’n ni wedi trial cysgu ond do’n i ddim yn gallu.  Cyrhaethon ni’r Maes Awyr am hanner awr wedi pedwar ac ro’n ni wedi blino lan.

Roedd y daith yn iawn ac roedd gwesty yr “Ambassador” yn lan iawn ond yn fawr iawn.

Dydd Sul

Mae e’n haf nawr felly rhaid i’r clociau fynd ymlaen. Ro’n ni wedi colli un awr yn barod ac nawr un arall!  Ar ôl brecwast cerddon ni i’r hen dre i weld yr hen eglwys. Mae e’n bert iawn ac yn wirioneddol hen.  Mae e’n bosib i gerdded ar y gorynys i weld y ail draeth. Ar y ffordd adre cerddon ni ar y traeth ac ro’n ni wedi padlo yn y môr.

Pan cyrhaeddon ni nôl yn y gwesty ro’n ni wedi blino lan, felly, wnaethon ni gysgu trwy’r prynhawn.

Ar ôl swper aethon ni i ddawnsio yng ngwesty y “Calypso” ac wedyn, yn ein gwesty.

Dydd Llun

Heddiw aethon ni ar daith bws trwy’r dydd o’r enw “Arabic Jewels” i weld y pentre o’r enw Guadalest yn y mynyddoed.  Yn y pentre cyntaf roedd llawer o “fertility fountains” ac hefyd welon ni ffatri gwneud olew olewydd.  Wedyn aethon ni i’r dafarn i flasu “tapas” yn rhad ac am ddim. Caethon ni ginio yna hefyd.

Ar ôl cinio aethon ni i hen bentre Guadalest.  Roedd hen gastell yna ond mae daeargryn wedi torri’r castell yn y bymthegfed ganrif.

Do’n ni ddim yn hoffi ein tywysydd taith achos doedd dim llawer o amynedd gyda fe, ac roedd e’n nawddoglyd iawn.

Roedd byg bola gyda ein ffrind, John, felly doedd e ddim yn gallu dod ar y daith gyda ni.

Pan cyrraeddon ni nôl, gofynodd dyn yn yr ystafell godderbyn â ni, i ni ei helpu fe achos bod ei fam wedi cwympo yn yr ystafell ymolchi. Ond roedd hi’n iawn pan roedd John wedi’i chodi hi. (Mae hi’n naw deg dau oed.) Roedd hi’n well yn y nos achos roedd hi yn y lolfa yn yfed wisgi mawr yn nes ymlaen!  Er gwaethaf y salwch gaethon ni lawer o hwyl.

Dydd Mawrth

Heddiw rodden nhw i fod nhw’n mynd ar daith di-dal i ffatri blancedi, ond yn ystod y nos roedd ein ffrind Norma wedi’i chludo i’r ysbyty lleol. Roedd hi wedi cwympo gyda dolur rhydd.  Pan roedd hi wedi cwympo, roedd hi wedi taro ei phen ac wedi torri ei danedd. Roedd rhaid iddi hi fynd i’r adran gofal dwys.

Dyn ni wedi treulio’r dydd i gyd o gwmpas y pwll nofio yn aros am newyddion am ein ffrind.

Dyna ddau o’n ffrindiau nawr sy’n mynd yn sâl gyda rhywbeth cas, felly dyn ni’n penderfynu’r prynu tabledi rhag ofn.  Dyn ni’n poeni nawr – pwy bydd nesa?

Arhoson ni yn ein gwesty heno.  Roedd “Teyrnged i Gene Pitney” yn y bar.

Dydd Mercher

Ar ôl brecwast cerddon ni i’r hen dre ar hyd y prif ffordd.  Aethon ni i draeth Poinette ble roedd llawer o Sbaenwyr.  Gaethon ni baned o goffi da iawn.  Wedyn, cerddon ni ar hyd y traeth, yn padlo yn y môr.

Roedd newyddion ddrwg o’r ysbyty.  Fydd Norma ddim yn dod adre gyda ni ddydd Sadwrn achos pan roedd hi wedi torri ei phen roedd rhaid iddi hi gael sgan ar y ymennydd.  Dyw popeth ddim yn iawn ac mae hi’n aros i weld niwrolegydd.

Roedd hi’n bwrw glaw yn y prynhawn ac hefyd trwy’r nos. Aethon ni i weld sioe “El Divo” yn nhafarn Morgan yn y nos.  Roedd e’n fendigedig!

Dydd Iau

Ro’n ni wedi eisiau mynd ar y trên heddiw ond achos y glaw roedd rhaid i ni aros yn y gwesty.  Yn y prynhawn aethon ni am dro ar hyd y traeth.  Roedd merched ifanc yn gyrru sgwteri anabledd ar hyd glan y môr yn gyflym iawn.  Ro’n i wedi meddwl roedd e’n jôc i’w wneud e fel darn o’u gwyliau – parti cywennod oedden nhw.

Dawnsion ni yng ngwesty “Don Pancho” yn y nos.  Ro’n ni wedi mwynhau ein hunan yn fawr iawn.

Dydd Gwener

Aethon ni i ymweld â Norma yn yr ysbyty yn y bore achos ei fod e dim ond rownd y gornel o’n gwesty ni.  Doedd hi ddim wedi edrych da ond mae hi’n gwella nawr. Ar y ffordd nôl ro’n ni’n gweld cwpl o actorion o’r rhaglen “Benidorm”.

Roedd rhaid i ni bacio ein casiau yn y prynhawn felly arhoson ni o gwmpas y pwll ar ôl y pacio.

Pan aethon ni i’r swper gaethon ni ein sioc.  Roedd Norma wedi’i rhyddau o’r ysbyty, felly mae hi’n gallu hedfan adre yfory!

Mwy o ddawnsio yn y nos yng ngwesty y “Calypso”.  Yn y nos do’n i ddim yn gallu cysgu achos roedd hi’n swnllyd iawn tu allan i’r gwesty. (Mae llawer o “hens” a “stags” yn dod i Fenidorm bob wythnos)

Dydd Sadwrn

Does dim brecwast i ni heddiw achos roedd rhaid i ni adael y gwesty am chwarter wedi saith yn y bore.  Roedd y hediad am hanner awr wedi deg.

Hwyl fawr Benidorm, shwmae Caerdydd!

Llun: Guadalest Bell Tower gan Grahame White

Gwyrain

Diolch i Pete Edwards, Rhydlewis am ei ymateb i “Llun yr Wythnos” yn y cylchlythyr.

Gwyrain neu “Goose Barnacles” ydyn nhw. Yn y canol oesoedd roedd pobl yn gredu bod “gwyddau gwyran” [barnacle geese] yn eu dodi nhw!

Maen nhw’n dod dros y môr o Ogledd Sbaen ynglwm i ddarnau o bren weithiau. Maen nhw’n cael eu hystyried fel danteithfwyd go iawn yn Sbaen a drud iawn ydyn nhw yn y bwytai yno.

Yn Galicia mae dynion ifanc yn yr ardal yn cymryd risgiau enfawr i’w casglu nhw ac i brofi eu hunan fel “boyos go iawn”.

Taith Gyffrous Pat

Dyma adroddiad gan Pat Hall-Edwards, o’r grŵp Canolradd yn Aberteifi. Wnaeth hi ysgrifennu’r stori yn ystod y daith ei hunan, gan fod dim digon o Sudokos gyda hi!

Diolch yn fawr i ti Pat!

Cofiwch, os oes darn o waith ysgrifenedig gyda chi hoffech chi ei rannu gyda phobl dysgu.com, rhowch wybod trwy ebostio Nic.

A report by Pat Hall-Edward from the Canolradd class in Cardigan. She wrote the piece during the journey itself, when she’d run out of Sudokos!

Remember, if you’d got a written piece you’d like to share with the dysgu.com subscribers, let us know by emailing Nic.

 


Taith Gyffrous Pat

Dros hanner tymor penderfynais i fynd i Gaer i weld fy merch a’i theulu.  Roedd John yn mynd i weld ei deulu fe yn Abertileri felly roedd rhaid iddo fe gael y car (does dim trên i Abertileri) ac es i ar y bws i Aberystwyth ac ar y trên i Gaer.

Bore Llun es i i ddal y bws am hanner awr wedi wyth achos bod y bws yn dod am chwarter i naw (yn ôl yr amserlen). Roedd y bws yn brydlon, chwarae teg, ond doedd y bws ddim yn mynd i Aberystwyth.  Roedd e’n mynd i Aberporth! Dwedodd y gyrrwr bws, “Bydd bws Aberystwyth yn dod am ddeg munud wedi naw”. Felly roedd rhaid i fi aros ar hanner arall awr. “Iawn,” meddylais i, “mae hi’n ddiwrnod hyfryd ac dwi’n hapus, felly does dim ots”.

A dyma’r bws i Aberystwyth yn cyrraedd yn brydlon. Pan es i mewn i’r bws doedd dim lle yn unman i osod fy nghês. Ro’n i wedi trial ei osod e ym mhen blaen y bws ond dwedodd y gyrrwr, “Dych chi ddim yn cael gadael eich cês yna!” Felly roedd rhaid i fi lusgo’r cês i’r sedd agosaf. (Hanner ffordd ar hyd y bws!)

Setlais i mewn i fwynhau’r daith i Aberystwyth. Roedd hi’n daith ddiddorol.  Aethon ni drwy ardal Cei Newydd hefyd. Dim ond unwaith neu ddwywaith ydw i wedi bod yna. Gallwn i weld tai lliwgar Aberaeron yn y pellter pan clywais i lawer o wichian. “Beth sy’n bod gyda’r bws?” meddyliais i.

Pan gyrhaeddon ni y safle bws yn Aberaeron dwedodd y gyrrwr,  “Mae’r bws wedi torri lawr. Rhaid i chi aros am yr un nesa – bws Lewis am ddeg munud i un ar ddeg neu fws Richards am chwarter wedi un ar ddeg.” Jiw, Jiw! Roedd hi’n chwarter wedi deg a fy nhrên yn gadael am hanner awr wedi un ar ddeg.  ’Swn i’n mynd ym mws Lewis efallai y byddwn i’n colli’r trên. Ond ’swn i’n aros am fws Richards bydda i’n colli’r trên yn bendant.

Felly arhosais i am fws Lewis – gyda llawer o bobl eraill a oedd eisau mynd i Aberystwyth hefyd. Roedd y bws yn llawn. Roedd rhaid i fi eistedd ar y seddau ochr ar bwys rhywun oedd yn drewi! Do’n i ddim yn gallu mynd allan o’r bws.  Ro’n i’n gobeithio cyrraedd yno mewn pryd ond wrth i’r munudau dicio ro’n i’n sylweddoli byddwn i’n golli’r trên.

Cyrrhaeddais i ar yr orsaf trên am bum munud ar hugain i ddeuddeg. Roedd y trên wedi mynd! Byddai’r trên nesa yn dod mewn dwy awr. Felly prynais i fy nhocyn ac es i i’r Hen Orsaf i fwyta cawl a choffi. Hefyd ces i amser sbâr i edrych yn y siop elusen ar yr orsaf.  Roedd hi’n ddiddorol iawn. 

Cyn bo hir dyma fy nhrên yn dod.  Ieehh! Roedd rhaid newid trenau yn Amwythig ond roedd trên Caer yn brydlon. O’r diwedd cyrrhaedais i Gaer am chwarter wedi oump. Cwrddais i â fy mab-yng-nghyfraith yn yr orsaf ar ei ffordd adre a cherddon ni adre gyda’n gilydd. Felly am hanner awr wedi pump ro’n i yn nhŷ fy merch.

Roedd yr wythnos yn wych a ches i lawer o gwtshys a chusanau gan fy wyr bach.

 

[Llun gan Robert Dumelow.]