Archifau Categori: Cerddoriaeth

Ail Symudiad yn 1176

Bydd Ail Symudiad yn perfformio ym Mwyty 1176 nos Iau 1af a 15fed o Chwefror am 7.30yh ar gyfer y dysgwyr fydd ar gwrs Cymraeg preswyl yn y Castell. Bydd croeso i bob dysgwr y Gymraeg, ac i’r cyhoedd, i ddod i fwynhau’r noson, yn rhad ac am ddim!

Ail Symudiad will be performing at the 1176 restaurant on Thursday 1st and 15th February at 7.30pm for the students who will be on a residential Welsh course in the Castle. All Welsh learners, and the public, will be welcome to come and enjoy the evening, free of charge!

Geiriau Clasuron Tecwyn Ifan

Bydd Tecwyn Ifan yn perfformio ym Mar y Selar, Stryd y Cei, Aberteifi, nos Sadwrn 27 Sadwrn 2018. Mae Tecs yn enw sy’n gyfarwydd i bawb sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, wrth gwrs, ond i’r rhai sy wrthi’n dysgu ar hyn o bryd, dydy ei ganeuon ddim yr un mor gyfarwydd. Dyma rhai o’r goreuon, gyda’r geiriau.


Angel

Daeth i mi mewn breuddwyd, daeth y feinwen lân,
Torrodd drysau melys cwsg i adrodd im ei chân,
Galwad ddaeth im gwely clud a’r nos yn wlyb ac oer,
Gwelais hi yn dawnsio’n ffri ar belydrau’r lloer

Gan ddweud:
Tyrd lle mae’r awyr yn burach,
Y tiroedd yn lasach [wyrddach],
Lle cana’r adar mwyn i gyd yn iach,
Yno mae heddwch
A hudol brydferthwch
A chysur clyd i’r corff cyn mynd i’r llwch.

Cwmwl ddaeth yn llen i’r lloer a’i belydrau aur,
Ni welswn mwy y feinwen deg na sibrwd mwyn ei gair,
Trois yn ôl i drwmgwsg hir i wlad y Tylwyth Teg
Ac anghofiais sain y gân am arall sain oedd bêr.
Anghofiais lle’r oedd yr awyr yn burach …

Pan ddaeth newydd wawr dros fyd a’r nos yn cilio draw,
Minnau’n cyfarch haul y dydd tra chiliai cysgod braw,
Gwelais ar y gorwel pell fy mreuddwyd ferch mor rhydd,
Angel Cymru Newydd oedd yn dod i hawlio’i dydd.
A’r dydd hwnnw roedd yr awyr yn burach …


Cerdded Mlaen

Roedd mynyddoedd y Preselau
Fel tadau mwyn i mi,
Rhain ydoedd fy hoffus ffrindiau i,
Bryd hynny ro’n i’n ifanc
A phur ydoedd fy nghân,
Minnau megis newydd gynnau’r tân.

Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen,
Dal i gerdded ’mlaen,
Am fod rhai yn dal i ‘ngharu,
Rwy’n dal i gerdded ’mlaen.

Dechreuais innau gerdded,
Cerdded ar fy nhaith,
Dros y bryniau teg, ’r hyd dolydd llaith,
Profais oriau tywyll,
Brwydrau gwaedlyd fu,
Trosof aeth ’na rai trwy’r angau du.
Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen ….

A nawr ar fy hen lwybrau
Fe dyf y glaswellt hir
Ac ni allaf bellach grwydro’r tir,
Paid a chynnig cymorth
I hen wraig ar ffo,
’Mond dy fywyd cyfan wnaiff y tro.
Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen ….

Mae bywyd yn y canu,
Ond marw yw y gân,
Dyna ofid yr hen wreigen lân,
Ond pan drodd y Cymry ati
Y canfu hi ei hedd
A throdd hithau’n ieuanc hardd ei gwedd.

Ac mae’n dal i gerdded ’mlaen,
Dal i gerdded mlaen,
Am fod rhai yn dal i’w charu,
Mae’n dal i gerdded ’mlaen. x2


Gwaed ar yr eira gwyn

Ym mynwes y ddaear y cysgodd y gwŷr,
Gorwedd eu cyrff ar bridd y tir,
Collwyd y dydd rhwng y bryniau hyn,
Sychodd y gwaed ar yr eira gwyn.

Gwaed y gwŷr ar yr eira gwyn.
Gwaed ar yr eira gwyn.

Oer yw’r cwm, diffoddodd y tân,
Ciliodd yr adar, tewodd eu cân,
Marw breuddwyd oesol fan hyn,
Dyna yw’r gwaed ar yr eira gwyn…

Ni welir un croes am na thorrwyd ’run bedd,
Gadawyd y cyrff i orwedd mewn hedd,
Gadawyd y cyfan i gysgu fel hyn
Tra’r erys y gwaed ar yr eira gwyn…


Stesion Strata


Ffarwél i Stesion Strata, Ffarwel i Ystrad Fflur,
Ffarwél i lynnoedd Teifi a’u dyfroedd pur,
Ffarwél i’r grug a’r fawnog a llwch y gweithe mwyn,
Ffarwél i ferch y bryniau, ei serch a’i swyn.

Mae hiraeth am y dyfroedd ym mref yr hydd,
Mae hiraeth yn y nos am weled toriad dydd,
Mae hiraeth ar hen aelwyd am gael ailgynnau’r tân,
Mwy hiraeth sy’n fy mron am gariad genneth lân,

Cytgan:
Rhudd yw ei gruddiau, Rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith;
Rhudd yw ei gruddiau, Rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith ar y gwawn.

Er gweled ar fy nheithiau ryfeddodau’r byd,
Ac er i diroedd pell dros ennyd ddwyn fy mryd,
Gwn mwy na fyddaf fodlon nes profi eto’r swyn
Yng nghwmni merch y bryniau ar Esgair Mwyn.


Y Dref Wen

Y Dref Wen yn y dyffryn
Heno heb arf nac offeryn
Ar wyneb y gwellt gwêl y gwaed
A drôdd y pridd yn llaid

Ond awn i ail-adfer bro
Awn i ail-godi’r to
Ail oleuwn y tŷ
Pwy a saif gyda ni?

Y Dref Wen chwâl ei meini
Heno’n brudd yn ei hoerni
Ddaeth ’na neb i holi pam
Mai marw yw’r fflam
Ond awn i ail-adfer bro……

Y Dref Wen wrth y coed
Hiraeth am gadw oed
Ciliodd pawb o’r hyfryd fro
’Stafell Gynddylan sydd dan glo.
Ond awn i ail-adfer bro……


Bytholwyrdd


Boed Duw i ti’n amddiffyn,
Boed iddo iti’n ran,
Mynega dy weddїau taer,
Fe’i hetyb yn y man,
Boed iti ddringo grisiau’r sêr –
Gweld rhyfeddodau fyrdd,
A thrwy y cyfan hyn
Boed iti fod yn fytholwyrdd.

Boed iti dyfu’n gyfiawn,
Boed iti dyfu’n driw,
Boed iti wybod beth yw’r gwir
Gan weld y golau gwiw,
Boed iti fod yn gryf a dewr
Wrth gerdded garw ffyrdd,
A thrwy y cyfan hyn
Boed iti fod yn fytholwyrdd.

Boed cain a lunio’th dwylo,
Boed iti ddwydroed chwim,
Boed fyddlon iti’th wreiddiau dwfn
Pan chwytho’r gwyntoedd llym;
Boed i dy lais wrandawiad teg
Pan geni di dy gân,
A thrwy hyn oll boed iti fod
Yn fytholwyrdd a glân.


Ar Doriad Gwawr

Mae ‘na linell wen i’w gweld fan draw
Ar doriad gwawr,
A daw cwthwm o wynt a chawod o law
Ar doriad gwawr,
A thrwy ddagrau’r glaw ar y gwydr brau
Mae’r ‘sgotwr yn edrych mas dros y bae
Gan wybod yn ei ofid a’i wae
Na all pethau fyth barhau
Ar doriad gwawr.

Does fawr o gysgod lawr ar y cei
Ar doriad gwawr,
Dan ddiferion ewyn ton ola’r teid
Ar doriad gwawr.
Mae’r ferch a’r heli’n ei llygaid glas
Yn rhoi ei stondyn lan ar ras
Ffrwythau a llysiau, pob lliw – pob blas
Mae’n eu rhoi nhw mas
Ar doriad gwawr.

Maent yn dechrau clirio lle
I archfarchnad fawr i’r dre,
Dyma’r hoelen olaf yn yr arch;
O, bydd rhaffau, rhwyd a rhwyf
Yn addurn ar y clwyf –
Rhywbeth bach er cof i ddangos parch.

Mae cwch pysgota’n sownd wrth y cei
Ar doriad gwawr,
A ddaw neb i alw ar donnau’r teid
Ar doriad gwawr,
A does neb yn rhoi eu stondyn mas
Pawb yn mynd fan draw at ras
Tra bo’r ’sgotwr yn dal i deimlo’r ias
Wrth gofio’r ferch a’r heli’n ei llygaid glas
Ar doriad gwawr.

A bellach yn ei lle
Mae archfarchnad fawr y dre,
Dyma’r hoelen olaf yn yr arch;
Ac mae rhaffau, rhwyd a rhwyf
Yn addurn ar y clwyf –
Rhywbeth bach er cof i ddangos parch.


Cân Yr Adar Mân

(Mererid Hopwood Awst 2011)


Rhwygo’r tir fu’r hen hen hanes,
rhwygo’r glo i’n cadw’n gynnes,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
yw rhwygo anadl popeth byw.

Ac am nad oes geiriau’n falm
Canaf eiriau cur
Am adar mân fy Nghymru Lân
A’u chwim adenydd dur.

Rhwygo’r dŵr fu’r hen hen stori
boddi’r cymoedd a’r pentrefi,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
Yw rhwygo anadl popeth byw.

Ac am nad oes geiriau hardd
Canaf eiriau hyll
Am adar mân fy Nghymru Lân
Yn crawcian ofnau’r gwyll

Anelu a saethu o bellter byd
Anelu a saethu dyna’i gyd
‘Gelyn’ yw’r plant sy’n chwarae ar y stryd
Y rhain medde ti wrtho i sydd yn werth y byd
Rhain sydd yn werthy byd
Rhain sydd yn werth y byd.

Rhwygo’r byd yw’r chwedl newydd,
rhwygo cyd-ddyn wrth eu gilydd,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
Yw rhwygo anadl popeth byw.
Ac am nad oes geiriau drud
Canaf eiriau tlawd
Am adar mân fy Nghymru Lân
Sy’n ladd fy chwaer a’m brawd.

Adolygiad: Gwilym Bowen Rhys, Tafarn Sinc

Daeth yr adolygiad isod i law oddi wrth Andy Cordy, Crymych. Diolch yn fawr iddo am ei anfon, ac am roi caniatâd i’w rannu yma:


Es i mas neithiwr i glywed Gwilym Bowen Rhys. Diolch yn fawr iawn iawn am hysbysebu y gig, roedd ei berfformiad yn fythgofiadwy.

Mae e wedi datblygu modd unigol o gyflwyno ei ganeuon ei hun, caneuon gan artistiaid cyfoes fel Gai Toms a chaneuon traddodiadol sy’n defnyddio elfennau gwerinol ond yn cynnwys ei brofiadau roc a rôl.

Dw i’n genfigennus (wrth gwrs) o’i ddawn, ei egni ieuanc, ei gyfaredd ond dw i’n poeni bod dyn mor fedrus, sy’n tanio mor ffyrnig, ddim yn gallu mynd yn hen.

Does dim bywoliaeth i gael mewn perfformio i bum deg i drigain o bobl ond mae’n amlwg roedd e’n hollol gyfforddus, heb ormodiaith, yn siarad ac yn canu yn uniongyrchol â’i gynulleidfa.

Mae ei ddiddordeb mewn hanes a diwylliant, sy’n gyrru’r angerdd yn ei lais, yn amlwg hefyd. Meistr ei grefft, ac yn wir drwbadŵr ei oes.


Diolch eto, Andy!

Cofiwch bod croeso bob tro i ddarllenwyr cylchlythyr Pethe Cylch Teifi anfon adolygiadau neu sylwadau i mewn, ac i’w rhannu gyda’r criw yma ar y blog – nic@dysgu.com yw’r cyfieirad ebost.

 

[Llun: BBC]


Lisa Lân gan Rajesh David

nawfed ton

Mae Rajesh (uchod gyda’i fand Y Nawfed Ton) yn mynychu dosbarth Uwch 2 yn Aberteifi gyda Philippa, ac mae e wrth ei fodd gyda chaneuon traddodiadol Cymru, yn ogystal â bod yn feistr yn nhraddodiad hen wlad ei dadau ei hunan.

Dyma ei fersiwn wych o’r hen gân am Lisa Lân. Mae geiriau y gân isod hefyd.

Mae rhagor o gerddoriaeth Rajesh a’i gyfeillion ar gael ar Soundcloud, ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook y band.

Lisa Lân

Bûm yn dy garu lawer gwaith
Do lawer awr mewn mwynder maith
Bûm yn dy gusanu Lisa gêl
Yr oedd dy gwmni’n well na’r mêl.

Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd
Tydi yw’r lanaf yn y byd
Tydi sy’n peri poen a chri
A thi sy’n dwyn fy mywyd i.

Pan fydda i’n rhodio gyda’r dydd
Fy nghalon fach sy’n mynd yn brudd
Wrth glywed sŵn yr adar mân
Daw hiraeth mawr am Lisa Lân.

Pan fydda i’n rhodio gyda’r hwyr
Fy nghalon fach a dôdd fel cwyr
Wrth glywed sŵn yr adar mân
Daw hiraeth mawr am Lisa lân.

Lisa, a ddoi di i’m danfon i
I roi fy nghorff mewn daear ddu?
Gobeithio doi di, f’annwyl ffrind
Hyd lan y bedd, lle’r wyf yn mynd.

Hiraeth mawr am Lisa Lân.
Hiraeth mawr am Lisa Lân.

Cyngherddau Dydd Mawrth Sant Ina

Bydd cyfres o gyngherddau yn ystod mis Awst yn Eglwys Llanina, ger Cei Newydd:

  • Dydd Mawrth 5ed Awst
    Cawl Awst – Hen Gerddoriaeth Gymreig ar y ffidl a’r delyn, yng nghwmni Elsa Davies a Ceri Owen-Jones

  • Dydd Mawrth 12fed Awst
    Cerddoriaeth Noson o Haf gyda Cherddorfa Siamber Teifi, Helen Jefferson, Jennie Frost a Nick Heath. Cerddoriaeth gan Handel, Mozart, Elgar a Debussy
  • Dydd Mawrth 19eg Awst
    Cyngerdd Côr Cei, côr cymunedol Cei Newydd, er lles y RNLI.
  • Dydd Mawrth 26ain Awst
    Taith Fawr Ewrop, cerddoriaeth o bedair ganrif a phedwar ban y cyfandir, gyda Jennie Frost ar y piano a Tony Frost yn sgwrsio (yn Saesneg)

 

There will be a series of concerts in St Ina’s Church, near New Quay, on Tuesdays throughout August:

  • Tuesday 5th August
    Cawl Awst – traditional Welsh music on fiddle and harp, with Elsa Davies and Ceri Owen-Jones
  • Tuesday 12th August
    Music for a Summer Evening with Teifi Chamber Orchestra, Helen Jefferson, Jennie Frost and Nick Heath. Music by Handel, Mozart, Elgar and Debussy
  • Tuesday 19th August
    Songs of Home and Harbour, with Côr Cei, the New Quay community choir, proceeds to the RNLI
  • Tuesday 26th August
    Grand Tour of Europe, twenty countries and four centuries pf classical music , with Jennie Frost (piano) and relaxed commentary by Tony Frost

 

 

Llun gan Old Bloke ar Flickr.

Llangrannog – Cyngerdd “Deuair”

Cynhelir Cyngerdd Mai gan ‘Deuair’, yn Eglwys Carannog Sant, Llangrannog nos Wener 30ain Mai am 7.30y.h. Tocynnau £5 ar y drws. Darperir te a chacennau yn yr egwyl.

Deuawd cerddoriaeth werin yw ‘Deuair’, sef Elsa Davies (ffidl a llais) a Ceri Owen-Jones (telyn a llais), a fu’n chwarae gyda’r grŵp gwerin poblogaidd ‘CerddCegin’ gynt. Croeso cynnes i bawb.

Cewch glywed cerddoriaeth Deuair ar eu gwefan.

A concert by ‘Deuair’ will be held in St Carannog’s Church, Llangrannog on Friday 30th May at 7.30pm.  Tickets £5 on the door. Tea and cakes during the break.

‘Deuair’ is a folk duo, namely Elsa Davies (violin and vocals) and Ceri Owen-Jones (harp and vocals), who previously played with the popular folk group ‘CerddCegin’.

A warm welcome to all .

You can hear some of Deuair’s tunes on their website.

Lansio CD Fernhill

Nos Wener, 30 Mai, Theatr Byd Bychan, Aberteifi, 7.30 – £10

Dathlwch lansiad albwm newydd, hir-ddisgwyliedig Fernhill, ‘Amser’. Mae’n cynnwys sawl gosodiad cerddorol newydd o farddoniaeth gan gynnwys darn hyfryd Thomas Hardy, ‘The Self Un-seeing’, tra bod geiriau y bardd o Gymru, Vernon Watkins, yn gwau drwy’r trac teitl ‘Amser’, sef gwrthdrawiad o draddodiadau gwerin y gaeaf megis y Fari Lwyd, canu Calennig a Hela’r Dryw Bach. Mae’r albwm, sy’n ddilyniant i ‘Canu Rhydd’ a dderbyniodd cryn ganmoliaeth, yn cynnwys llais Julie Murphy, Ceri Rhys Mathews ar y gitâr, Christine Cooper ar y ffidil a Tomos Williams ar y trwmped. Yn ogystal â theithio i gefnogi eu halbwm yn 2014, bydd Fernhill yn perfformio fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas yn Abertawe, Talacharn, yr Ariannin a Phatagonia.

Friday, 30 May, Small World Theatre, Cardigan, 7.30 – £10

Celebrate the launch of Fernhill’s much anticipated new album ‘Amser’ (Time). It features many new musical settings of poetry including Thomas Hardy’s exquisite ‘The self unseeing’, while the words of Welsh poet Vernon Watkins are woven into the title track ‘Amser’ a collision of the winter folk customs Wassail, Mari Lwyd, Calennig and the wren hunt. The double album, follow up to the critically acclaimed ‘Canu Rhydd’ features Julie Murphy on vocals, Ceri Rhys Matthews on guitar, Christine Cooper on fiddle and Tomos Williams on trumpet. In addition to touring in support of their new album in 2014, Fernhill will be performing as part of the Dylan Thomas centenary celebrations in Swansea, Laugharne, Argentina and Patagonia.

Cyngerdd Pontgarreg – Côr Glannau Ystwyth

molawd

Dewch i fwynhau noson Gymraeg (gyda thipyn bach o Saesneg hefyd!)

Cyngerdd wedi’i drefnu gan Ferched y Wawr Bro Cranogwen. Croeso cynnes i bawb

Neuadd Goffa Pontgarreg

Nos Wener 9fed mis Mai am 7.30y.h.

Côr Glannau Ystwyth

£5.00 (plant £1)

Elw at Ambiwlans Awyr Cymru

Cadeirydd y Noson – Eirian Griffiths, Treddafydd

Rhagflas ar iTunes

 

Come and enjoy a Welsh evening (with a little bit of English too!)

A concert organized by Merched y Wawr Bro Cranogwen.

A warm welcome to all.

Pontgarreg Memorial Hall

Friday 9th May at 7.30pm

Glannau Ystwyth Choir

£5.00 (children £1)

Proceeds to Air Ambulance Cymru

Hon. Chair – Eirian Griffiths, Treddafydd

Preview on iTunes

Canu’r Rheilffordd yn Ôl

(Ypdêt 13 Mehefin – Update 13 June)

Neges gan Joanna Bond / A message from Joanna  [English follows]

Helo, rwy’n ysgriffenu atoch i roi gwybod y bydd fy ymgyrch codi arian ar gyfer y brosiect “Canu’r Rheilffordd yn Ôl” yn dod i ben 24ain Mehefin. Mae gen i tan hynny i godi’r arian er mwyn cyfrannu’n greadigol at ail-agor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Ga’ i ofyn i chi felly i ymweld â’r tudalen ymgyrch indiegogo lle gallwch gyfrannu at y brosiect a derbyn rhodd anrhydeddus, os nad ydych chi wedi’i wneud eisioes. Hoffwn i ofyn i chi hefyd anfon y neges hon ymlaen at un cyfeill sy’n hoffi rheilffyrdd a’r celfyddydau.

Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth, ac edrychaf ymlaen at glywed gennych.

Hello, I am writing to you to let you know that my fundraising campaign to raise money so that I can run my project “singing the line into existence” is coming to an end on the 24th June. I have until then to raise funds to creatively contribute to re-opening the Aberystwyth to Carmarthen railway line.

Please visit the indiegogo campaign page where you can donate to the project and receive a token gift, if you have not already done so. I would also ask if you kindly forward this email to one other person who likes art and railways.

Thank you for your support and I look forward to hearing from you.

 

Ymgyrch Arlunydd i Ganu’r Rheilffordd yn ôl i Fodolaeth

Y mae’r prosiect newydd, cyffroes “CANU’R LEIN RHEILFFORDD YN ÔL I FODOLAETH”, sy’n magu ysbrydoliaeth gan dirlun a hanes y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, newydd ddechrau ymgyrch codi arian ar y wefan Indiegogo i gasglu’r arian tuag at yr achos. Wrth roi arian at y prosiect, gallech brynu gwaith unigryw o’r artistiaid.

Mae Joanna Bond, arlunydd ac arweinydd y prosiect, wedi talu am ddwy flynedd o waith ymchwil i’r prosiect, gan uno artistiaid, cerddorion, gwneuthurwyr ffilmiau, storïwyr a dawnswyr i helpu creu perfformiad amlgyfrwng, ac arddangosfa.

Bydd deg arlunydd yn cerdded ar hyd rhannau o’r hen reilffordd, gan ddawnsio, canu, creu ffilmiau a thynnu lluniau, sy’n cysylltu hanesion y rheilffordd gyda’u lleoliadau mewn ffordd greadigol. Bydd y darnau o waith yn cael eu casglu ar gyfer digwyddiad ym mhen draw’r daith; perfformiad mewn hen goets rheilffordd, gan deithio ar hyd Rheilffordd y Gwili, ac arddangosfa gyhoeddus yn yr orsaf. (am fwy o wybodaeth, ewch i singingthelineintoexistence.wordpress.com).

Yr arlunwyr yn y prosiect yw Joanna Bond, sy’n gwneud gwaith crochenwaith, canu a dawnsio; cynhyrchwyr ffilmiau, Jacob Whittaker a Naomi Heath; storiiwyr Peter Stevenson a Guto Dafis; cerddorion Ceri Rhys Matthews, Lynne Denman, Claire Parry a Elisa Davies, ac arlunwyr amlgyfrwng Ruth Hogg a Mary Jacob.

Mae Joanna yn rhan o ymgyrch Traws Link Cymru, sydd yn ymgyrchu dros adfer ac ailagor rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Defnyddir “CANU’R LEIN” fel trosiad am gysylltiad gan reilffyrdd a rheilffyrdd sydd wedi cau. Nid yn unig fyddai’n cysylltu gwahanol arlunwyr gyda’i chyfryngau, ond ceisiai amlygu’r pwysigrwydd o gysylltu Gorllewin Cymru gyda De Cymru a chreu modd o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n well i’r amgylchedd.

Gyda’r arian a godir drwy Indiegogo, fyddai’n creu digwyddiad arbennig.

 

Artist’s Campaign to Sing the Line into Existence

An exciting new project, SINGING THE LINE INTO EXISTENCE, inspired by the landscape and history of the old branch line between Carmarthen and Aberystwyth, has just launched a fundraising campaign on the web site Indiegogo to generate the money needed to complete the project. By donating different amounts to the project you can claim exclusive limited edition works from the artists.

Artist and project leader, Joanna Bond, has self-funded the last two year’s research and has now coupled together artists, musicians, film-makers, storytellers and dancers to help create a multidisciplinary performance and an exhibition.

Ten artists will walk along sections of the old railway line, to dance, film, sing, draw and make site specific art, reconnecting the locations and histories of the line through their creative responses to the journey. The piece builds towards the final destination – an event on the Gwili Railway: a performance in a vintage railway carriage travelling along part of the old route and a public exhibition at the station. (For more infomation visit http://singingthelineintoexistence.wordpress.com/ )

Artists on board are Joanna Bond, ceramicst, dancer and singer; film-makers, Jacob Whittaker and Naomi Heath; storytellers, Peter Stevenson and Guto Dafis; musicians Ceri Rhys Matthews, Lynne Denman, Claire Parry and Elsa Davies and multidisciplinary artists Ruth Hogg and Mary Jacob.

Joanna is part of the Traws Link Cymru Campaign, dedicated to the restoration and reopening of the line between Carmarthen and Aberystwyth. SINGING THE LINE uses railways and lost railways as a metaphor for connection. Not only will it connect different artists and their disciplines, but it hopes to communicate the importance of re-connecting West Wales with South Wales and creating more environmentally-friendly public transport.

With the money raised on Indiegogo, this will be a spectacular event.

CylchCanu ~ SongChain

Theatr Mwldan, Aberteifi
3 Ebrill / 3 April
7.30pm – £12 / £10

(O wefan Theatr Mwldan)

Cyd-Gynhyrchaid Theatr Mwldan | Gerard Kilbride

Bydd deg o gantorion a cherddorion traddodiadol gorau Cymru yn ymddangos yn y perfformiad arbennig hwn sy’n archwilio ac yn dathlu gwreiddiau ac etifeddiaeth cerddoriaeth werin yng Nghymru, y dylanwadau a’r perthnasau sydd wedi ei chadw’n fyw, a daearyddiaeth, iaith a diwylliant cenedl gerddorol. Gan ddangos sut mae cerddoriaeth draddodiadol yn esblygu trwy gael ei rhannu a’i chwarae, mae’r gadwyn yn ddilyniant o unawdau a deuawdau sy’n cydgysylltu, yn cyfuno amrywiaeth o offerynnau ac arddulliau cerddorol, a chreu dehongliadau unigryw a chyfuniadau o gerddoriaeth Gymreig.

P’un ai os ydych yn newydd i ganu gwerin Cymreig, neu yn edmygwr brwd, gallwch fwynhau profiad gwych yng nghwmni rhai o enwau  mawr traddodiadol y genedl – Gwyneth Glyn (Ghazalaw), Robert Evans (Bragod, Pwngk), Delyth Jenkins (DnA, Aberjabber), Dylan Fowler (Taith, Alaw), Gwilym Bowen Rhys (Y Bandana, Plu), Gwenan Gibbard, Jamie Smith (Mabon, Alaw, Barrule), Patrick Rimes (Calan), Stephen Rees (Ar Log, Crasdant, Triawd) a Beth Williams-Jones (Calan).

 

(From Theatr Mwldan’s website)

Theatr Mwldan | Gerard Kilbride Co-Production

 Ten of Wales’ finest traditional singers and musicians star in this special performance that explores and celebrates the roots and heritage of folk music in Wales, the influences and relationships that have kept it alive, and the geography, language and culture of a musical nation. Illustrating how traditional music evolves through being shared and played, the chain is a sequence of interlinking solos and duets, combining a variety of instruments and musical styles, and creating unique interpretations and combinations of Welsh music.

Whether you’re new to Welsh folk, or an established fan, you can enjoy a fabulous experience in the company of who’s who of the nation’s traditional artists – Gwyneth Glyn (Ghazalaw), Robert Evans (Bragod, Pwngk), Delyth Jenkins (DnA, Aberjabber), Dylan Fowler (Taith, Alaw), Gwilym Bowen Rhys (Y Bandana, Plu), Gwenan Gibbard, Jamie Smith (Mabon, Alaw, Barrule), Patrick Rimes (Calan), Stephen Rees (Ar Log, Crasdant, Triawd) and Beth Williams-Jones (Calan).