Archifau Categori: Digwyddiadau

Theatr Genedlaethol – Nyrsys

Nos Fawrth 4/12/18
19.30
Theatr Mwldan
Drama ‘Nyrsys

Pris Bargen i ddysgwyr ac i’r Cymry sy’n helpu yn y dosbarthiadau: £8. (Pris llawn i’r cyhoedd £12)

I gael y pris bargen, dwedwch ‘Grŵp Philippa’ pan dych chi’n prynu eich tocyn. Gallwch chi ddewis eistedd ble dych chi eisiau – fydd dim seddau wedi’u cadw i’r grŵp.
Bydd sesiwn arbennig i drafod y ddrama ar gyfer dysgwyr yn y Theatr (mewn ystafell fach) am 19.00, ar noson y perfformiad.
Mae ‘Pecyn Addysg’ ar gael sy’n esbonio sut mae’r ddrama wedi cael ei chreu:   cliciwch fan hyn i’w lawrlwytho.
Mae fideo o’r ymarferion yma:
 
Bydd yn bosibl clywed cyfieithiad o’r ddrama trwy wasanaeth Sibrwd.
_____________________________________________________
Tuesday 4/12/18
19.30
Theatr Mwldan
Nyrsys‘ Drama about Nurses

Bargain price for learners and for the Welsh-speakers who help in the classes: £ 8. (Full price for the public £ 12)

To get the bargain price, say ‘Philippa’s Group’ when you buy your ticket. You can choose to sit where you want – no seats will be reserved to the group.
There’ll be a special session to discuss the play for learners in the Theatre (in a small room) at 19.00, on the night of performance.
An ‘Education Package’ is available (in Welsh) explaining how the play has been created: click here to download a copy.
There is a video of rehearsals here:
The show will have English language access via Sibrwd.

Gweithdy Gwneud Llusern

[Scroll down or click here for English]
Dydd Sul 11/11/18
10.30yb – 4yp
Theatr Byd Bychan
Gweithdy Cymraeg – gwneud llusern
am ddim
Bydd gweithdy Cymraeg, addas i ddysgwyr a Chymry Cymraeg, i wneud llusern ar gyfer Parêd Llusernau Aberteifi 7/12/18. Roedd y parêd yn llwyddiant enfawr llynedd, a’r gweithdy’n llawer o hwyl.
Dim ond 10 lle sy ar gael ar y gweithdy Cymraeg hwn, felly bwciwch cyn gynted â phosibl. Mae’r manylion i gyd yma:
I gadw lle (dwedwch eich bod chi eisiau’r gweithdy Cymraeg): samba@smallworld.org.uk | 01239 615 952

Sunday 11/11/18
10.30am – 4pm
Small World Theatre
Welsh language Workshop – making a lantern
Free
There will be a Welsh language workshop suitable for Welsh learners and Welsh speakers to make a lantern for the Cardigan Lantern Parade 7/12/18. The parade was a huge success last year, and the workshop was a lot of fun.
Only 10 places are available on this Welsh workshop, so book as soon as possible. The details are all here:
To book (say that you want the Welsh language workshop):  samba@smallworld.org.uk | 01239 615 952

Sadwrn Siarad Crymych

Ysgol Undydd i Ddysgwyr y Gymraeg / Dayschool for Welsh Learners

Canolfan Ddysgu Gymunedol Crymych, Ysgol y Preseli, Crymych
Dydd Sadwrn, 10 Tachwedd 2018, 9.30 – 2.30

£8 am y dydd / £8 for the day

Amserlen / Timetable

9.30 Cofrestru / Registration
9.45 Dosbarth / Class
11.00 Coffi / Coffee
11.15 Dosbarth / Class
12.30 Cinio / Lunch
1.15 Dosbarth / Class
2.30 Ffarwelio / Depart

PWYSIG – RHAID COFRESTRU CYN Y DIWRNOD

Mae’n rhaid i bob dysgwr gofrestru a thalu ar gyfer y Sadwrn Siarad ar y wefan Genedlaethol learnwelsh.cymru. Os dych chi’n cael problemau wrth gofrestru yna ffoniwch y Ganolfan yng Nghrymych ar 01437 770180 neu ebostio learnwelsh@pembrokeshire.gov.uk

DS. Dw i newydd edrych ar y wefan yna (14/9/18), a methu ffeindio’r Sadwrn Siarad. Mae’n bosib bod y manylion heb gael ei hychwanegu at y safle eto. Cysylltu â swyddfa Crymych yw’r peth gorau, siwr o fod. (Nic)

IMPORTANT – YOU MUST REGISTER BEFORE THE DAY

All students must register and pay for the Sadwrn Siarad via the National Centre for Learning Welsh’s website learnwelsh.cymru. If you have any problems registering, please contact the Crymych Learning Centre on 01437 770180
learnwelsh@pembrokeshire.gov.uk

NB I’ve just checked the National website (on 14/9/18), and I can’t find any way to register for the Sadwrn Siarad. It’s possible that the course details haven’t been added to the site yet. Probably best just to contact the office in Crymych. (Nic)

 

Merched y Wawr Cylch Teifi 

Merched y Wawr Cylch Teifi 
Nos Fercher 7fed mis Tachwedd am 7.30
Festri Capel Mair
Mandy Wilcox yn gwneud siocled (a bydd Cangen Llandudoch yn ymuno â changen Cylch Teifi)
Mwy o wybodaeth: Philippa Gibson: pgg@aber.ac.uk neu 01239 654561
Mae’r gangen yn cwrdd ar y nos Fercher gyntaf o bob mis, fel arfer.

Cardigan Merched y Wawr Welsh language women’s group, which offers a warm welcome to learners who’d like to join, if you’re confident enough to avoid turning conversations into English-only!

Cerddwyr Cylch Teifi – Ardal Llandudoch

Cerddwyr Cylch Teifi: 13 Hydref 2018

Ardal Llandudoch – Arweinydd: Terwyn Tomos

Byddwn yn gadael maes parcio (tâl) y pentref, Llandudoch (SN165 460) (Cod post SA43 3ED) am 10:30.

Y daith: Taith gylch o ryw ddwy filltir a llai na dwy awr o gerdded; awn draw i’r eglwys a’r abaty, i fyny Cwm Degwel, ar hyd llwybr Pen-cwm ac ar draws caeau i’r Cwmins; wedyn byddwn ni’n igam-ogamu yn ôl i’r abaty.

Esgyniad: 300 troedfedd. Sticlau: dim. Peth mwd mewn tywydd gwlyb.

Pwyntiau o ddiddordeb: Hanes eglwysi Llandudoch dros y canrifoedd (bu o leiaf 4); y ffenest liw newydd; yr abaty, ei hanes a’i wahanol rannau; cerdded trwy ganol safle tirlithriad 1994 a gweld rhai o’r effeithiau.

Cymdeithasu dros luniaeth wedyn: Tafarn y Ferry neu’r Cartws

Ymholiadau: Philippa 01239 654561  philippa.gibson@gmail.com
_______________________________________

Cerddwyr Cylch Teifi Walkers: 13 October 2018

St Dogmaels Area – Leader: Terwyn Tomos

We’ll leave the St Dogmaels village car park (charge) (SN165 460) (Postcode SA43 3ED) at 10:30.

The walk: A circular walk of about two miles and less than two hours walking; we’ll go over to the church and abbey, up Cwm Degwel, along the Pencwm path and across fields to Cwmins; then we’ll zig-zag back to the abbey.

Ascent: 300ft. Stiles: none. Some mud in wet weather

Points of Interest: The history of St Dogmaels’ churches over the centuries (there have been at least 4); the new stained glass window; the abbey, its history and its various parts; walk through the middle of the site of the 1994 landslide and see some of the effects.

Socialize over refreshments afterwards: Ferry Inn or The Coach House

Enquiries: Philippa 01239 654561  philippa.gibson@gmail.com

Stondinau Gwybodaeth yn Aberteifi

Dydd Sadwrn 8 Medi a Dydd Sadwrn 15 Medi bydd y tiwtoriaid lleol yn cynnal stondin yn Aldis Aberteifi, lle cewch chi wybodaeth am ddosbarthiadau’r ardal.

Wedyn, Ddydd Mawrth 18 Medi a Dydd Sadwrn 22 Medi byddwn ni’r wneud yr un peth yn Tesco Aberteifi, er mwyn peidio â cholli neb!

On Saturday 8 and 15 September the local Welsh tutors will have an information stall in Cardigan Aldis, where you can find out about the range of classes available locally.

Then, on Tuesday 18 and Saturday 22 September we’ll be doing the same thing in Cardigan Tescos, so we don’t miss anybody!

Gruffudd Owen yn Aberteifi

Bardd y Ffôn Symudol yn Dod i’r Castell

Bu tipyn o ffws am y gerdd a enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bu canmol mawr arni gan y beirniaid swyddogol ac answyddogol, ond nid pawb oedd yn croesawu awdl mor gyfoes ei hiaith a’i thestun. Yn wir, halwyd llythyron i’r wasg yn cwyno am y geiriau rheg sy’n britho’r gerdd.

Roedd eraill wedyn yn cwyno nad oedden’ nhw’n deall yr holl gyfeiriadau yn y gerdd at wefannau ac apps (ee Twitter, Facebook, Snapchat, Tinder, Youtube ayyb).

Ond beth sydd gan awdur y gerdd ei hun, Gruffudd Owen o Gaerdydd, i ddweud am hyn oll? Wel, os dewch i gastell Aberteifi ar nos Iau, Medi 13eg am 7.30 yh, fe gewch chi glywed y cwbwl ganddo!

Gruff fydd gwestai arbennig dosbarth cynghanedd Ceri Wyn Jones y noson honno. Ond bydd y cyfarfod hwn yn agored i bawb, nid dim ond aelodau’r dosbarth.

Bydd dosbarth Ceri yn cwrdd bob nos Iau (fwy eu lai) wedi hynny tan ganol mis Rhagfyr, ac mae croeso i aelodau hen a newydd. Mae Ceri’n rhannu’r nosweithiau hynny’n ddwy: yr awr gyntaf yn wersi i’r dechreuwyr (7yh), a’r ail awr yn sesiwn i’r rhai mwy profiadol (8yh).

Dewch, da chi, felly i glywed Gruffudd Owen yn sôn am ei gerdd ‘Porth’, neu, wrth gwrs, i ymuno â’r dosbarth am y tymor. Neu, gorau oll, i wneud y ddau beth!

Plac i Nodi Gefeillio

Mae man wedi’i neilltuo ar wal yng nghei Y Tywysog Siarl, Aberteifi, i osod plac arbennig i nodi’r gefeillio rhwng y dre â Threvelin, tre fechan yng nghesail mynyddoedd uchel yr Andes ym Mhatagonia.
Cyflwynir y plac yn rhodd gan Faer a Maeres Aberteifi, John Adams-Lewis a’i wraig Morina, ar ran Pwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin, Patagonia.

Ffurfiwyd y gefeillio rhwng y ddwy dre nôl yn 2005, ond dyma fydd y tro cyntaf i blac dwyieithog, gyda geiriau Cymraeg a Sbaeneg, i nodi’n gyhoeddus yn Aberteifi y berthynas barhaol sy’n bodoli rhyngddynt. Y mae un eisoes wedi’i ddadorchuddio yn Nhrevelin.
John Adams-Lewis, ac yntau ar ei ail dymor fel Maer Aberteifi bryd hynny, a arwyddodd y ddogfen gefeillio yn swyddogol dair blynedd ar ddeg yn ôl.

‘Rwy’n cofio’n iawn’, medd John, sy’n Faer am y pedwerydd tro eleni, ‘y prynhawn hwnnw pan dderbyniais alwad ffôn gan Arturo Lowndes, ffrind i mi ym Mhatagonia, yn gofyn a fyddai gan Aberteifi ddiddordeb mewn gefeillio â Threvelin. Rhoddes i’r cynnig o flaen cyngor y dre a chytunwyd ar hynny yn galonnog. Cefais y fraint o arwyddo’r ddogfen yn gyfreithiol yn Nhrevelin ar 25 Tachwedd, 2005. Dwy flynedd yn ddiweddarach estynnodd cyngor y dre wahoddiad i Faer a Maeres Trevelin, Dr Carlos Mantegna a’i wraig, i ymweld ag Aberteifi, pryd cawson nhw groeso mawr yma.
‘Gan wybod fod gen i ddiddordeb mewn hedfan’, medd John, (mae wedi adeiladu 2 awyren ei hun ac mae’n eu hedfan yn aml) ‘fe drefnodd Carlos drip i fi a Morina mewn hofrennydd yn perthyn i fyddin ei wlad, a buom yn treulio awr ddiddorol yn hedfan dros yr Andes, Cwm Hyfryd, y paith, a hyd yn oed dros y ffin yn Chile. Buodd e’n brofiad diddorol iawn.’

Ar ôl nifer o ymweliad answyddogol â Phatagonia ar ôl y gefeillio yn 2005, mae John a Morina wedi gwneud llu o ffrindiau yn y Wladfa. Mae gan Morina berthynas yn Nhrelew – Elena Arnold, sy’n 90 oed eleni. ‘Finch oedd ei chyfenw cyn priodi’, medd John, ‘ac mae’n hanu o deulu o Langoedmor a hwyliodd ar y Mimosa yn 1865, gyda 150 o wŷr, gwragedd a phlant, i sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia. Ar ôl un aelod o’r teulu yr enwyd Sgwâr Finch yn Aberteifi, sy’n weddol agos i’r man lle byddwn yn dadorchuddio plac y gefeillio.’
Dadorchuddir y plac ar 31 Awst. Y noson honno cynhelir cyngerdd arbennig yn y castell gyda’r tenorion enwog Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies, Alejandro Jones, y canwr poblogaidd o Batagonia, a grŵp o delynorion ifanc o fro Teifi yn cymryd rhan.

Bydd elw’r noson yn mynd i gynnal yr ysgol Gymraeg newydd, Ysgol y Cwm, a agorwyd yn Nhrevelin yn 2016, menter y mae Pwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin, o dan lywyddiaeth Y Parchedig Eirian Wyn Lewis, wedi bod yn ei chefnogi ers cyn agor yr ysgol.