Archifau Categori: Digwyddiadau

Stiwardio yn Eisteddfodau yr Urdd

Neges gan Rhian Owens:

Bore da

A fyddai modd i chi ofyn i’ch dysgwyr a oes diddordeb gyda nhw i stiwardio yn Eisteddfodau Sir yr Urdd os gwelwch yn dda. Gall yr oriau hyn gyfrannu at eu horiau dysgu anffurfiol. Mae’r manylion isod ac os oes diddordeb gyda’ch dygwyr yna gofynnwch iddyn nhw i gysylltu ag Eurfyl Lewis os gwelwch chi’n dda. Mae manylion Eurfyl isod.

Manylion yr Eisteddfodau
Eisteddfod Shir Cynradd yw’r Steddfod fwya, cynhelir hon yn neuadd ysgol Bro Gwaun, Abergweun ar fore Sadwrn, Mawrth 24ain am 10 o’r gloch.

Mae dal angen cymorth yn yr Eisteddfod Ddawns gynhelir yn neuadd ysgol Bro Gwaun, Abergweun ar nos Lun, Mawrth 19eg am 4.30 o’r gloch ac hefyd yn yr Eisteddfod Offerynnol gynhelir yn neuadd ysgol Syr Thomas Picton Hwlffordd ar brynhawn Mawrth, Mawrth 20fed am 1 o’r gloch.

Manylion Eurfyl Lewis
Eurfyl Lewis
Urdd Gobaith Cymru

Swyddog Prosiect Penfro
Canolfan yr Urdd Pentre Ifan, Felindre Farchog, Crymych, Sir Benfro, SA41 3XE

Ffon : 01239 820317
Symudol : 07976 003359
Ebost: eurfyl@urdd.org

Twmpath, Castell Newydd Emlyn

Twmpath gyda Dawnswyr Talog
Nos Wener 16eg Chwefror, 7yh
Yn Tŷ Nest, Gwesty’r Emlyn, Castell Newydd Emlyn
Tocyn: oedolyn £6; plentyn £4
Trefnir gan Gŵyl Fwyd Castell Newydd Emlyn
Cysylltwch â’r Gwesty am docyn: 01239 710317
 
 
Twmpath with Dawnswyr Talog
Friday 16th Feburary, 7pm
At Tŷ Nest, Emlyn Hotel, Newcastle Emlyn
Ticket: adults £6, child £4
Organised by Newcastle Emlyn Food Festival
Contact the Hotel for a ticket 01239 710317

Agor y Drws

Cyfres newydd o sesiynau ar gyfer dysgwyr profiadol fydd yn cael eu cynnal yn Sir Benfro ac Aberteifi rhwng mis Mawrth a Gorffennaf.

(A series of sessions for experienced Welsh learners, to be held between March and July.)

Trefn y diwrnod

Bydd fformat y diwrnod yn debyg mewn 5 sesiwn, a bydd un arall yn dra gwahanol – mae Sesiwn 4 ar ddydd Llun, Gŵyl y Banc, felly rhaid i bethau fod yn wahanol!

Fel arfer, yn y bore bydd dau grŵp yn gwneud gwaith trafod / gwrando / gwylio / darllen gyda’r tiwtor, gan ddilyn thema’r diwrnod. Bydd y tiwtoriaid yn amrywio o sesiwn i sesiwn – gweler y manylion isod. Bydd un grŵp yn gwneud gwaith mwy heriol (pobl Siawns am Sgwrs fydd llawer ohonynt) a bydd y grŵp arall yn cael ychydig mwy o help gydag idiomau a phatrymau iaith. Ond rhannu’r diwylliant yw’r nod i bawb a gobeithio bydd y gweithgareddau yn plesio!

Yn y prynhawn bydd siaradwr gwadd yn dod i wneud cyflwyniad. Bydd Cymry Cymraeg yn cael eu gwahodd i ddod i’r sesiwn hon hefyd a gobeithio bydd pawb yn cymdeithasu.

Bws am Ddim

Mae teithio i fannau newydd yn gallu bod yn her hefyd felly bydd bws ar gael o Hwlffordd bob tro, am ddim. Does dim rhaid i chi ddod ar y bws, wrth gwrs – nodwch ar y ffurflen gofrestru os byddwch chi am ddefnyddio’r bws. Bydd manylion casglu ac amseroedd yn dod atoch yn nes ymlaen. Mae Ebrill 28ain yn ddiwrnod Sadwrn Barlys yn Aberteifi felly efallai y bydd parcio’n broblem a bydd bws yn haws i chi.

4 Sesiwn o leiaf

Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod llawer o bobl yn manteisio ar y cwrs newydd felly does neb eisiau gweld ystafell yn hanner gwag! Felly gofynnwn i chi nodi eich bod yn dod i 4 sesiwn o leiaf. Mae un gŵr a gwraig wedi gofyn am gael rannu un lle – bydd y wraig yn dod i 3 sesiwn a’r gŵr yn dod i 3 arall. Dim problem. Os dych chi eisiau gwneud trefniant tebyg gyda ffrind, cysylltwch â Mairwen i drefnu (mairwenjones@sky.com).

Dychwelyd eich ffurflen

Anfonwch y ffurflen yn ôl mor fuan â phosib os gwelwch yn dda, ond yn bendant erbyn Chwefror 12fed. Byddwn yn cysylltu â chi wedyn i drefnu’r taliad o £20.

Sesiwn Un, Mawrth 10fed
Lleoliad: Clwb Criced, Hook
Amser: 10.00 – 3.15yp
Thema: Chwaraeon / Byd y Campau
Tiwtoriaid: Rhian Owens, Mairwen Jones
Siaradwr Gwadd: Alun Wyn Bevan 2.00
Dewch â chinio gyda chi.

Sesiwn Dau, Ebrill 28
Lleoliad: Castell Aberteifi
Amser: 10.30 – 4.00yp
Thema: Barddoniaeth, Celf, Traddodiadau
Tiwtoriaid: Ceri Wyn Jones, Mairwen Jones
Siaradwr Gwadd: Idris Reynolds 2.30
Bydd modd prynu cinio yn y dref.

Sesiwn Tri, Mai 7 (Dydd Llun, Gŵyl y Banc)
Lleoliad: Maenclochog
Amser: 2.00 – 8.00yh
Thema: Eisteddfodau
Tiwtoriaid: Natalie Morgan, Mairwen Jones
Siaradwr Gwadd: Geraint Harries
Dewch â bwyd (amser te) gyda chi.

Sesiwn Pedwar, Mai 26
Lleoliad: Castell Henllys
Amser: 10.30 – 3.30yp
Thema: Bwyd a Diod, Traddodiadau
Tiwtoriaid: Rhian Owens, Buddug Harries
Siaradwr Gwadd: Hazel Thomas 2.00
Gofynnwn i chi brynu cinio yn y caffi yno – bwydlen i ddilyn

Sesiwn Pump, Mehefin 23
Lleoliad: Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Penfro a Chastell Caeriw
Amser: 10.00 – 3.15yp
Thema: Cerddoriaeth
Tiwtoriaid: Ceri Wyn Jones, Mairwen Jones
Tiwtor/perfformwr gwadd: Seimon Morris
Perfformwyr Gwadd yng Nghastell Caeriw: DnA  2.00
Dewch â chinio gyda chi.

Sesiwn Chwech, Gorff 7fed
Lleoliad: Oriel y Parc, Tyddewi
Amser: 10.15 – 3.15yp
Thema: Arlunwyr
Tiwtoriaid: Janice Morgan, Sarah Eastlake
Siaradwr Gwadd: Alun Ifans 2.00
Dewch â chinio gyda chi neu fe allwch brynu cinio yn y caffi yno.

Gweler y daflen am ragor o fanylion.

Merched y Wawr Cylch Teifi – Noson ar gyfer Dysgwyr

Merched y Wawr Cylch Teifi – Noson ar gyfer Dysgwyr

Nos Fercher 7fed o fis Chwefror 2018 am 8y.h.

Festri Capel Mair (drws wrth ochr y Capel ar Feidr Fair, ger Sgwâr Ffinch)

Gweithgareddau ac wedyn te

Dewch i joio – Dewch i sgwrsio

Croeso cynnes i bawb

Er mwyn i ni gael syniad am faint fydd yn dod, rhowch enwau i’ch tiwtor neu i Philippa Gibson 01239 654561


Merched y Wawr Cylch Teifi – Welsh learners’ evening

Wednesday  7th February  2018 at 8pm

Capel Mair Vestry (door beside the Chapel on Feidr Fair, near Finch Square)

Activities and then tea

Come for fun – Come and talk

A warm welcome to all

So that we can have an idea of how many will come, please give names to your tutor or to Philippa Gibson 01239 654561

Dwy Gomedi Fer

Cwmni Drama Llandudoch

Chwefror 2 : Neuadd Penrhiwllan 7.30 pm

Mawrth 9 : Neuadd Sarnau 7.30 pm

Mawrth 23ain: Neuadd Talgarreg 7.30

?? Mawrth 20fed (Nos Iau) : Theatr Mwldan 7.30 ??
(dyddiad anghywir – 29 Mawrth yn ôl Theatr Mwldan)

Cwmni Drama Llandudoch yn cyflwyno DWY GOMEDI FER. ‘Y Noson Wobrwyo’ gan Elgan Jones a ‘Rhwng Dwy’ gan Charles Arch. Dwy ddrama fydd yn goglais y chwerthin o’r gynulleidfa, gan gwmni sydd wedi perfformio bob blwyddyn ers 30 mlynedd.

(Addas i ddysgwyr Cymraeg).

CWMNI DRAMA LLANDUDOCH: DWY GOMEDI FER

Cwmni Drama Llandudoch present DWY GOMEDI FER. ‘Y Noson Wobrwyo’ by Elgan Jones and ‘Rhwng Dwy’ by Charles Arch. Two short comedies to tickle the funny bones from this local company that has performed every year for the past 30 years!

(Suitable for Welsh learners).

Ail Symudiad yn 1176

Bydd Ail Symudiad yn perfformio ym Mwyty 1176 nos Iau 1af a 15fed o Chwefror am 7.30yh ar gyfer y dysgwyr fydd ar gwrs Cymraeg preswyl yn y Castell. Bydd croeso i bob dysgwr y Gymraeg, ac i’r cyhoedd, i ddod i fwynhau’r noson, yn rhad ac am ddim!

Ail Symudiad will be performing at the 1176 restaurant on Thursday 1st and 15th February at 7.30pm for the students who will be on a residential Welsh course in the Castle. All Welsh learners, and the public, will be welcome to come and enjoy the evening, free of charge!

Geiriau Clasuron Tecwyn Ifan

Bydd Tecwyn Ifan yn perfformio ym Mar y Selar, Stryd y Cei, Aberteifi, nos Sadwrn 27 Sadwrn 2018. Mae Tecs yn enw sy’n gyfarwydd i bawb sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, wrth gwrs, ond i’r rhai sy wrthi’n dysgu ar hyn o bryd, dydy ei ganeuon ddim yr un mor gyfarwydd. Dyma rhai o’r goreuon, gyda’r geiriau.


Angel

Daeth i mi mewn breuddwyd, daeth y feinwen lân,
Torrodd drysau melys cwsg i adrodd im ei chân,
Galwad ddaeth im gwely clud a’r nos yn wlyb ac oer,
Gwelais hi yn dawnsio’n ffri ar belydrau’r lloer

Gan ddweud:
Tyrd lle mae’r awyr yn burach,
Y tiroedd yn lasach [wyrddach],
Lle cana’r adar mwyn i gyd yn iach,
Yno mae heddwch
A hudol brydferthwch
A chysur clyd i’r corff cyn mynd i’r llwch.

Cwmwl ddaeth yn llen i’r lloer a’i belydrau aur,
Ni welswn mwy y feinwen deg na sibrwd mwyn ei gair,
Trois yn ôl i drwmgwsg hir i wlad y Tylwyth Teg
Ac anghofiais sain y gân am arall sain oedd bêr.
Anghofiais lle’r oedd yr awyr yn burach …

Pan ddaeth newydd wawr dros fyd a’r nos yn cilio draw,
Minnau’n cyfarch haul y dydd tra chiliai cysgod braw,
Gwelais ar y gorwel pell fy mreuddwyd ferch mor rhydd,
Angel Cymru Newydd oedd yn dod i hawlio’i dydd.
A’r dydd hwnnw roedd yr awyr yn burach …


Cerdded Mlaen

Roedd mynyddoedd y Preselau
Fel tadau mwyn i mi,
Rhain ydoedd fy hoffus ffrindiau i,
Bryd hynny ro’n i’n ifanc
A phur ydoedd fy nghân,
Minnau megis newydd gynnau’r tân.

Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen,
Dal i gerdded ’mlaen,
Am fod rhai yn dal i ‘ngharu,
Rwy’n dal i gerdded ’mlaen.

Dechreuais innau gerdded,
Cerdded ar fy nhaith,
Dros y bryniau teg, ’r hyd dolydd llaith,
Profais oriau tywyll,
Brwydrau gwaedlyd fu,
Trosof aeth ’na rai trwy’r angau du.
Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen ….

A nawr ar fy hen lwybrau
Fe dyf y glaswellt hir
Ac ni allaf bellach grwydro’r tir,
Paid a chynnig cymorth
I hen wraig ar ffo,
’Mond dy fywyd cyfan wnaiff y tro.
Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen ….

Mae bywyd yn y canu,
Ond marw yw y gân,
Dyna ofid yr hen wreigen lân,
Ond pan drodd y Cymry ati
Y canfu hi ei hedd
A throdd hithau’n ieuanc hardd ei gwedd.

Ac mae’n dal i gerdded ’mlaen,
Dal i gerdded mlaen,
Am fod rhai yn dal i’w charu,
Mae’n dal i gerdded ’mlaen. x2


Gwaed ar yr eira gwyn

Ym mynwes y ddaear y cysgodd y gwŷr,
Gorwedd eu cyrff ar bridd y tir,
Collwyd y dydd rhwng y bryniau hyn,
Sychodd y gwaed ar yr eira gwyn.

Gwaed y gwŷr ar yr eira gwyn.
Gwaed ar yr eira gwyn.

Oer yw’r cwm, diffoddodd y tân,
Ciliodd yr adar, tewodd eu cân,
Marw breuddwyd oesol fan hyn,
Dyna yw’r gwaed ar yr eira gwyn…

Ni welir un croes am na thorrwyd ’run bedd,
Gadawyd y cyrff i orwedd mewn hedd,
Gadawyd y cyfan i gysgu fel hyn
Tra’r erys y gwaed ar yr eira gwyn…


Stesion Strata


Ffarwél i Stesion Strata, Ffarwel i Ystrad Fflur,
Ffarwél i lynnoedd Teifi a’u dyfroedd pur,
Ffarwél i’r grug a’r fawnog a llwch y gweithe mwyn,
Ffarwél i ferch y bryniau, ei serch a’i swyn.

Mae hiraeth am y dyfroedd ym mref yr hydd,
Mae hiraeth yn y nos am weled toriad dydd,
Mae hiraeth ar hen aelwyd am gael ailgynnau’r tân,
Mwy hiraeth sy’n fy mron am gariad genneth lân,

Cytgan:
Rhudd yw ei gruddiau, Rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith;
Rhudd yw ei gruddiau, Rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith ar y gwawn.

Er gweled ar fy nheithiau ryfeddodau’r byd,
Ac er i diroedd pell dros ennyd ddwyn fy mryd,
Gwn mwy na fyddaf fodlon nes profi eto’r swyn
Yng nghwmni merch y bryniau ar Esgair Mwyn.


Y Dref Wen

Y Dref Wen yn y dyffryn
Heno heb arf nac offeryn
Ar wyneb y gwellt gwêl y gwaed
A drôdd y pridd yn llaid

Ond awn i ail-adfer bro
Awn i ail-godi’r to
Ail oleuwn y tŷ
Pwy a saif gyda ni?

Y Dref Wen chwâl ei meini
Heno’n brudd yn ei hoerni
Ddaeth ’na neb i holi pam
Mai marw yw’r fflam
Ond awn i ail-adfer bro……

Y Dref Wen wrth y coed
Hiraeth am gadw oed
Ciliodd pawb o’r hyfryd fro
’Stafell Gynddylan sydd dan glo.
Ond awn i ail-adfer bro……


Bytholwyrdd


Boed Duw i ti’n amddiffyn,
Boed iddo iti’n ran,
Mynega dy weddїau taer,
Fe’i hetyb yn y man,
Boed iti ddringo grisiau’r sêr –
Gweld rhyfeddodau fyrdd,
A thrwy y cyfan hyn
Boed iti fod yn fytholwyrdd.

Boed iti dyfu’n gyfiawn,
Boed iti dyfu’n driw,
Boed iti wybod beth yw’r gwir
Gan weld y golau gwiw,
Boed iti fod yn gryf a dewr
Wrth gerdded garw ffyrdd,
A thrwy y cyfan hyn
Boed iti fod yn fytholwyrdd.

Boed cain a lunio’th dwylo,
Boed iti ddwydroed chwim,
Boed fyddlon iti’th wreiddiau dwfn
Pan chwytho’r gwyntoedd llym;
Boed i dy lais wrandawiad teg
Pan geni di dy gân,
A thrwy hyn oll boed iti fod
Yn fytholwyrdd a glân.


Ar Doriad Gwawr

Mae ‘na linell wen i’w gweld fan draw
Ar doriad gwawr,
A daw cwthwm o wynt a chawod o law
Ar doriad gwawr,
A thrwy ddagrau’r glaw ar y gwydr brau
Mae’r ‘sgotwr yn edrych mas dros y bae
Gan wybod yn ei ofid a’i wae
Na all pethau fyth barhau
Ar doriad gwawr.

Does fawr o gysgod lawr ar y cei
Ar doriad gwawr,
Dan ddiferion ewyn ton ola’r teid
Ar doriad gwawr.
Mae’r ferch a’r heli’n ei llygaid glas
Yn rhoi ei stondyn lan ar ras
Ffrwythau a llysiau, pob lliw – pob blas
Mae’n eu rhoi nhw mas
Ar doriad gwawr.

Maent yn dechrau clirio lle
I archfarchnad fawr i’r dre,
Dyma’r hoelen olaf yn yr arch;
O, bydd rhaffau, rhwyd a rhwyf
Yn addurn ar y clwyf –
Rhywbeth bach er cof i ddangos parch.

Mae cwch pysgota’n sownd wrth y cei
Ar doriad gwawr,
A ddaw neb i alw ar donnau’r teid
Ar doriad gwawr,
A does neb yn rhoi eu stondyn mas
Pawb yn mynd fan draw at ras
Tra bo’r ’sgotwr yn dal i deimlo’r ias
Wrth gofio’r ferch a’r heli’n ei llygaid glas
Ar doriad gwawr.

A bellach yn ei lle
Mae archfarchnad fawr y dre,
Dyma’r hoelen olaf yn yr arch;
Ac mae rhaffau, rhwyd a rhwyf
Yn addurn ar y clwyf –
Rhywbeth bach er cof i ddangos parch.


Cân Yr Adar Mân

(Mererid Hopwood Awst 2011)


Rhwygo’r tir fu’r hen hen hanes,
rhwygo’r glo i’n cadw’n gynnes,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
yw rhwygo anadl popeth byw.

Ac am nad oes geiriau’n falm
Canaf eiriau cur
Am adar mân fy Nghymru Lân
A’u chwim adenydd dur.

Rhwygo’r dŵr fu’r hen hen stori
boddi’r cymoedd a’r pentrefi,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
Yw rhwygo anadl popeth byw.

Ac am nad oes geiriau hardd
Canaf eiriau hyll
Am adar mân fy Nghymru Lân
Yn crawcian ofnau’r gwyll

Anelu a saethu o bellter byd
Anelu a saethu dyna’i gyd
‘Gelyn’ yw’r plant sy’n chwarae ar y stryd
Y rhain medde ti wrtho i sydd yn werth y byd
Rhain sydd yn werthy byd
Rhain sydd yn werth y byd.

Rhwygo’r byd yw’r chwedl newydd,
rhwygo cyd-ddyn wrth eu gilydd,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
Yw rhwygo anadl popeth byw.
Ac am nad oes geiriau drud
Canaf eiriau tlawd
Am adar mân fy Nghymru Lân
Sy’n ladd fy chwaer a’m brawd.

Maes a Môr: ‘Y Mabinogi a Dyffryn Teifi’

Nos Lun, Ionawr 15 – Cymdeithas Hanes Maes a Môr, Darlith gan Dr John Davies:

‘Y Mabinogi a Dyffryn Teifi’, Neuadd Ffostrasol, 7.30yh
Neges gan Eiris Llywelyn:

Dr John Davies, yr hanesydd a’r daearegwr o Landysul yw’r siaradwr gwadd a thestun ei ddarlith fydd ‘Y Mabinogi a Dyffryn Teifi’. Yn ôl y rhai sydd eisoes wedi’i chlywed mae’r ddarlith yn cynnwys cyfoeth o hanes a sleidiau diddorol iawn.

Croeso cynnes i chi ymuno â ni nos Lun a diolch i chi am bob cefnogaeth.