Archifau Categori: Gwaith Cartre

Wncl Tom a’r Wladfa

(Gwaith cartre oedd hwn, gan Liz Poole, sy yn y dosbarth Sylfaen yn Aberteifi.)

Flynyddoed yn ôl gwelais i raglen wych ar y teledu am bobl Gymraeg ym Mhatagonia.

Aethon nhw ar y llong Mimosa yn 1865 ac o’n i’n meddwl ei fod yn ddiddorol iawn. 

Ges i lythyr oddiwrth fy wncwl Tom un Nadolig pan o’n ni’n byw yn Lloegr i ddweud ei fod e’n dymyno mynd i’r Wladfa.

Dwedodd e y priododd fy hen ewyrth Thomas Ap Rhys o Landyfrïog, ferch hynaf y sylfaenydd Michael D. Jones.  Mae fy wncwl Tom yn dal i fyw ar y fferm yn Llandyfrïog ble caeth Thomas Ap Rhys ei eni.

Dwedodd Tom y stori bod un mab Michael D. Jones, Llwyd Ap Iwan wedi ei ladd gan Butch Cassidy a’r Sundance Kid pan oedd Llwyd yn rheolwr y Siop Co-op yn Nant Y Pysgod ger yr Andes.

Oedd y stori yn ddiddorol, a gyda’r llythyr a fy ngŵr Tony, aethon ni i Chile a’r Ariannin am dri mis.

Hedfannon ni i Santiago o Brydain gyda ychydig bach o fagiau llaw.  Doedd Santiago ddim yn teimlo fel dinas fawr, gyda sgwariau, cerddorion yn chwarae, a marchnadoedd, ac allwn ni archwilio ar droed. 

O yma aethon ni i Valparaiso, lliwgar, bywog a phrysur gyda ychydig o “ddim yn mynd” lleoedd.

Yna i Barilloche, oedd hi’n daeth wych i’r Ariannin drwy’r Andes Uchel, coediog a chreigiog.

Mynyddoedd yr Andes

Roeddon ni yn teimlo fel ein bod ni’n hedfan gyda’r condors i fynu, yno.

Oedd anialwch Patagonia yn filltiroedd a milltiroedd o bysgwydd pigog.  Mae’r ffordd yn mynd 5,000 km o Ushaia i Bolivia.  Aethon ni i Esquel i edrych am y lle ro’n  ni’n gobeithio mae perthanasau Michael D. Jones yn byw.  Anfonodd e ei ddau fab i Batagonia.  Daeth Michael (yr ail) yn llawfeddyg ac oedd Llwyd yn Syrfewr a’r person cyntaf i wneud arolwg o Ddyffryn Chabut, dros 600 km o Drelew i’r dwyrain i Esquel ar droed yr Andes.

Yma yn Esquel aethon ni ar daeth arbennig ar yr hen Batagonian Express, hen dren hyfryd gyda seddau pren, stôf llosgi coed a hen doiled quaint.  O’n ni’n wrth fy modd.

Nawr i chwilio am Cassa Butch Cassidy. 

Mewn car llog aethon ni i edrych am garreg goffa Llwyd Ap Iwan.  Oedd Nant y Pysgod llawer o gilometrau hyd ffordd garegog garw.

Oedd Nant y Pygod yn lle tawel gyda coed poplus, afon hardd a physgota.

Gwelon ni Martin Gough, gor-wyr Llwyd Ap Iwan, a dangosodd iddo fe lythyr Tom.

Rhoddodd e groeso i ni ac aethon ni i weld carreg goffa Llwyd a lle y siop ar bwys yr afon ble lladdwyd Llwyd. 

Aethon ni i ffwrdd i Cholila (cwm hyfryd) y diwrnod nesaf i chwilio am fferm Butch Cassidy.  Yr oedd dwy awr hir ar hyd ffordd 40 k, ffordd garegog garw drwy dyffryn llydan diddorol.

Welon ni gauchos ar gefn ceffylau a gofynnon ni “Casa Butch Cassidy?” i’r gauchos i ffindio’r ffordd i’r fferm.

O’r diwedd cyrhaeddon ni  ac oedd yn braf i ddod o hyd i’r fferm ar bwys Rio Blanco mewn cwm hyfryd.

Welon ni neb yno felly edrychon ni o gwmpas y fferm ar ein pennau ein hunain.

Oedd yn dawel, dim ond sŵn y gwynt yn y coed a sŵn y dŵr.  Yn y galon o’n ni’n meddwl am yr herwyr.

Nol i Esquel i roi y car yn ôl, aethon ni i weld Rhiannon Ap Iwan, mam Martin Gough.  Cawsom ni brynhawn hyfryd gyda hi.  Oedd hi’n meddwl ei fod yn ddoniol taw y tren Patagonian Express oedd yn uchelbwynt i ni, achos fel merch teithiodd hi ar seddau caled yn y tren i’w hysgol hi yn Buenos Aires. Byddai Tom yn falch iawn ein bod ni’n dod o hyd i’r lle hwn a siarad gyda teulu Michael D. Jones.

  


Diolch yn fawr iawn i Liz am adael i ni rannu ei stori fan hyn. Os oes storiau hoffech chi eu rhannu gyda darllenwyr Pethe Cylch Teifi, mae pob croeso i chi eu hanfon nhw mewn.

Chwedl Afon Ganga

Tasg gwaith cartre i ddosbarth Canolradd Dwys Aberteifi oedd “Ysgrifennwch eich fersiwn chi o’ch hoff chwedl”. Dyma ymateb Cathy Green, Cilgwyn, sef stori am ddyfodiad Afon Ganga i’r Ddaear. Mae’n cynnwys ambell i air newydd i ddysgwyr ar y lefel hwn, felly symudwch eich llygoden dros y geiriau sy wedi’u tanlinellu, os cewch chi drafferth.

 

Dyma y chwedl am sut daeth Afon Ganga i fod ar y Ddaear…

Amser maith yn ôl, caeth ceffyl y Brenin Sagara ei ddwyn gan Indra. Anfonodd y Brenin ei chwe deg mil o feibion i chwilio am y ceffyl. Chwilion nhw’r holl fyd, ond ffeindion nhw mo’r ceffyl. Felly, dechreuon nhw balu i’r isfyd. O’r diwedd, ffeindion nhw’r ceffyl, gyda gŵr doeth. Cyhuddoedd y meibion y gŵr doeth, ond Vishnu oedd e, mewn perlesmair. Llosgodd Vishnu y chwedeg mil o feibion tan roedden nwh’n lludw.

Dim ond Afon Ganga yn y nefoedd oedd yn gallu golchi eneidiau y meibion. Ond, sut mae galw yr Afon lawr o’r nefoedd? Ceisiodd pedair cenhedlaeth i’w galw hi i lawr. Ar ôl llawer o anawsterau, cwympodd Afon Ganga i mewn i gudynnau Shiva ac wedyn, i’r ddaear. Roedd yr eneidiau wedi’u golchi’n lân, ac aethon nhw i’r nefoedd.

 

Diolch i Cathy am rannu’r chwedl. Beth yw’ch hoff chwedl chi? Hoffech chi sgwennu fersiwn ohono i rannu ar y blog? Cysylltwch yn yr adran sylwadau isod, neu trwy ebost.

Gŵyl y Banc i Ddewi?

[Darn gwaith cartre gan Caroline Ellerby, o’r dosbarth Uwch yn Aberteifi.]

Ddylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl y banc swyddogol yng Nghymru?

Gofynnodd S4C i 437 o bobl ledled Cymru’r cwestiwn hwn a dwedodd wyth deg y cant ohonyn nhw a oedd yn siarad Cymraeg y dylai’r ŵyl fod yn ŵyl y banc swyddogol, ond ydych chi’n cytuno â nhw?

Yn eu barn nhw mae’n wirioneddol bwysig bod y teulu i gyd yn cael cyfle i ddathlu’r diwrnod gyda’i gilydd. Mae’n amlwg bod y siaradwyr Cymraeg eisiau parchu a chefnogi’r hen draddodiadau’r tu allan i’r ysgol. Ar hyn o bryd yn ysgolion dros Gymru mae’r disgyblion yn canu caneuon gwerin sef, ‘ Cenwch y clychau i Dewi’ ac mae’r merched yn gwisgo pais a betgwn. Mae pawb yn gwisgo cenhinen neu genhinen Pedr, yn chwifio baneri, yn bwyta cawl ac yn ymuno yng nghorymdeithiau yn y strydoedd.

Serch hynny, dyw’r ŵyl ddim mor hen ag mae pobl yn credu. Dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi yn y ffordd’ma dim ond ers y ddeunawfed ganrif. Cyn hynny roedd Dewi Sant yn hynod o enwog wrth gwrs. Cafodd e ei eni tuag at ddiwedd y bumed ganrif yng Ngorllewen Cymru ac wedyn digwyddodd llawer o wyrthiau. O ganlyniad i’w ffydd, ac y sôn am ei fywyd yn hen lyfr hanesyddol Cymraeg Taliesin, roedd Y Werin yn ei dderbyn e fel nawddsant Cymru. A dyna’r broblem! Ddylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn cysylltu â chenedlaetholdeb a Chymreictod ac a dweud y gwir, beth yw Cymreictod beth bynnag? Pryd roedd Cymru?

Beth am gydraddoldeb rhwng cenhedloedd ? Beth yw’r sefyllfa yn Lloegr, yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Undeb Ewropeaidd? Yng Ngogledd Iwerddon gŵyl y banc swyddogol yw Dydd Gŵyl Sant Padrig yn barod ond does dim gwyliau banc o hyd yn y gwledydd eraill, ac mae rhai’n dadlu (dim fi!) bod’na ormod o wyliau banc beth bynnag. Os bydd hi’n bwysig i ddathlu Cymreictod beth am ddewis dyddiadau arbennig yn lle dyddiadau seintiau e.e. Diwrnod Datganoli Llawn (os bydd hwnnw’n dod i Gymru yn y dyfodol). Ddylai pawb yng Nghymru, oedolion, plant, Cymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg, o bob oedran a chefndir, crefyddol neu ethnig, gael eu gorfodi i ddathlu? Tasai’r diwrnod yn ŵyl y banc swyddogol, efallai na fyddai pawb yn cymryd rhan mewn achlysuron ac wedyn byddai’r diwrnod esgus i fynd i siopa yn lle cadw rhywbeth arbennig yn yr ysgolion.

Yn fy marn i byddai’n well ‘da fi aros i weld beth sy’n digwydd gyda datganoli llawn cyn i ni benderfynu ymgyrchu dros Ddydd Gŵyl Dewi!

 

 

(Llun: Gorymdaith Gŵyl Ddewi gan Walt Jabsco, dan drwydded Comins Creadigol 2.0)

Y daith fws hir

[Darn o waith cartre gan Celia Richardson, o’r dosbarth Canolradd yn Aberteifi. Celia sy biau’r lluniau.]

bws

Rhan 1

Celia ydw i. Ces i fy ngeni yn Reigate yn Surrey. Es i i’r ysgol yn Reigate hefyd tan ro’n ni’n 16. Symudais i i goleg Epsom achos fy mod i eisiau dysgu economeg. Ar ôl lefelau ‘A’ es i i weithio yn Croydon mewn cwmni fforiad am oel. Roedd e’n ddidorol ond roedd eisiau teithio arna i.  Ers i fi fod yn ifanc dw i wedi bod yn chwilfrydig am bobl y byd. Roedd fy nhad yn arfer dod â cylchgronau ‘National Geographic’ o’i swydd e.

Yn 1974, es i ar y bws ‘Budget Bus’ i India ond doedd y bws ddim yn cyrraedd India. Es i gyda dwy ffrind ysgol a chariad un ohonyn nhw. Roedd y bws yn torri lawr yn Afghanistan felly roedd rhaid i ni barhau mewn tacsi. Ro’n ni’n teithio trwy Bwlch Kyber, stopiodd y tacsi am betrol. Yn y pentre, roedd bob dyn yn cario reifflau Kalasnikov!

Dalon ni trwyr’r Bwlch wedyn caeth y tacsi dwll…. ein tacsi ni oedd y tacsi olaf.  Edrychon ni  ar y Bwlch a dwedodd un onhonon ni  ‘Dw i cofio’n gweld ‘Carry on Up the Kyber’. Ro’n ni’n mor diniwed….Yn sydyn, cyrhaeddodd jîp tu ôl i ni. Dwedodd y milwyr ‘Dw i wedi dod i’ch diogelu chi’. Roedd yn codi ofn arnon ni!

bwlchRhan 2

Roedd e’n dawel, ro’n ni’n gallu gweld y caerau ar hyd Bwlch Kyber. Ar ôl i’r tacsi dorri lawr do’n ni ddim yn gwybod beth i’w wneud. Dwedodd y gyrrwr ‘Bydd y bws yn dod.’ Roedd hi’n gyfnos.
Erbyn iddo fe gyrraedd, roedd hi’n dywyll. Ar ôl i ni ddweud ‘diolch’ wrth y milwyr aethon ni â bagiau allan o’r tacsi. Cyn i ni allu mynd ar y bws, roedd rhaid talu’r gyrrwr tacsi. Dwedodd pob un ar y bws ‘Rhaid i chi dalu pris llawn’. (Ro’n ni wedi teithio dim ond 10 cilometr o daith 60 cm!) Felly, talon ni bris llawn. Wedyn, dwedodd y gyrrwr bws roedd rhaid i un ohonyn ni fynd gyda bagiau ar ben y bws. Ar ôl i Ian ddringo ar ei ben, aeth y bws.

Teithion ni trwy Bwlch Kyber ac i lawr i blaen o Pakistan. Tan i ni gyrraedd Pashawer do’ ni ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ar ben y bws. Dringodd Ian i lawr, roedd ofn arno fe…

Hir Pob Ymaros

Stori fer gan Caroline, Maes y Dderwen, o’r Grŵp Uwch 1 yn Aberteifi, a wnaethpwyd fel gwaith cartre ganddi wythnos diwetha. Diolch yn fawr iddi am roi caniatâd i’w rhannu yma.


Hir Pob Ymaros

Roedd e’n gorwedd ar garreg y drws gydag amwisg gain dros ei wyneb pan godais i yn y bore bach. Tynnais i fy ngŵn-wisg yn dyner. Roeddwn i’n dechrau crynu (a doeddwn i ddim eisiau bod yn amhriodol).

Beth oedd yn digwydd?

Dylwn i fod wedi bod yn fwy gofalus. Roeddwn i wedi parablu gormod yn y swyddfa – dyna beth oedd y broblem – roeddwn i’n siŵr nawr! Diolch i’r penbwl’na. Ddylwn i ddim bod wedi cael peint bach gyda fe i godi fy nghalon neithiwr.

Dechreuodd dail y gelynnen siffrwd. Roedd fy ngwallt wrth fy nannedd ac roedd eira ffres ar y stryd. Canodd robin goch o foncyff, “Bydd pawb yn clebran yr wythnos nesaf, ti’n gwybod!”

Beth ddylwn i wneud?

Roeddwn i’n dal yn syllu ar y bwndel. Iawn…penderfynais i’w daclo fe – gêm rygbi oedd hyn.

Roedd e’n fy herio i gymryd y cam nesaf. Ie – yn bendant – arwydd oedd hwnnw.

Cafodd yr anrheg ei lapio gyda ruban a defnydd gwyn. Pa mor ramantaidd! Dechreuais i’w dad-lapio hi’n araf iawn. Yn sydyn canodd cloch yr eglwys. Dim ond deunaw awr tan ddiwedd fy mhen-blwydd arbennig.

Atgofion, ie, atgofion melys.

Collais i ddeigryn pan adawodd e cyn y Nadolig. Doedd e ddim yr un fath â fi, wrth gwrs.

Taswn i’n dweud ei fod e’n addwyn ac yn ostyngedig. Haelfrydig yw e hefyd ond pan oedd e’n byw yng Nghymru, roedd e’n anghyfarwydd â chael arian; bob dydd roedd rhaid iddo fe gael dau ben llinyn ynghyd. Ie, dyn eithriadol o arbennig yw e; dyn gydag agwedd positif, ’swn i’n dweud.

Nawr, gyda’r anrheg yn fy nwylo, roedd hen bryd i ddatguddio calon y gwir.

 

 

[Llun gan Andrew Gibson]

Marchogaeth i Bobl ag Anabledd

(“Gwaith cartre” gan Judith o Gwm Gwaun yw’r isod. Cofiwch bod croeso i chi ddefynddio’r blog i ymarfer eich Cymraeg fel, ac i hybu achosion da yr un pryd!)

Pleidleisiwch dros “North Pembrokeshire and Cardigan Riding for the Disabled”!

Mae’r grŵp “North Pembrokeshire and Cardigan RDA” wedi cyrraedd y rhestr fer am Gronfa Gymunedol Lloyds Bank yn Aberteifi. Mae rhaid iddyn nhw gael cymaint o bleidleisiau â phosib er mwyn ennill £3,000. Dych chi’n gallu eu helpu nhw trwy bleidleisio drostyn nhw:

· Ar-lein – clicwch fan hyn!

· Ym Manc Lloyds – gofynwch i arwyddo’r ffurflen wrth y ddesg

· Defnyddio ffôn symudol – tecstiwch “VOTE FCG” i 61119

· Ar Twitter gan ddefnyddio #COMMFUNDFCG

Hefyd wnewch chi basio hwn ymlaen at ffrindiau neu glybiau sydd efallai â ddiddordeb. Bydd y pleidleisio’n gorffen erbyn 10fed o Hydref.

Dw i wedi bod yn wirfoddolwr gyda’r grŵp ers pedair blynedd felly dw i wedi gweld dros fy hunan y gwaith gwych maen nhw’n gwneud gyda plant ac oedolion ag anableddau. ‘Sen ni’n ennill, byddai’n helpu ni i ddarparu gwersi marchogaeth a chyfleoedd i gystadlu trwy y flwythyn nesa i gyd yn ysgol marchogaeth Maesyfelin ym Mridell. Mae hwn yn eu helpu nhw gyda iechyd corfforol a meddyliol gan farchogaeth a chael hwyl gyda cheffylau.

Mae’r llun uchod yn dangos ein “grŵp top” ym Mhencoed ar ôl y Pencampwriaeth Rhanbarthol y llynedd.

Arwr

Nos Fercher, yn ystod noson lenyddiaith Gŵyl Fawr Aberteifi, cyhoeddwyd taw Elizabeth Jones o ddosbarth Uwch 2 oedd wedi ennill y gystadleuaeth i ddysgwyr gyda’i darn o ryddiaith am ‘Arwr’.

Dwedodd y beirniad (Karen Owen) ei bod hi’n hoffi’r iaith – tafodiaith naturiol yr ardal – yn y ddeialog. Roedd yn amlwg bod y darn wedi gwneud argraff dda iawn ar Karen. Llongyfarchiadau mawr i Elizabeth!

 


Arwr

‘Mae fy mam yn sâl iawn,’ meddai Ros.

‘Beth sy’n bod arni hi?’

Mae’r tair cyfeilles yn sgwrsio ym muarth chwarae’r ysgol. Maen nhw’n ddeuddeg mlwydd oed ac yn eistedd ar wal isel.

‘Mae’r meddyg yn ei galw hi’n ‘anaemia aflesol’.’

‘Beth yw hynny?’

‘Sa i’n gwybod ond mae hi wedi mynd yn wan fel blewyn…..a dyw hi ddim yn gallu anadlu.’

Dyw Erin a Bethan ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Dydyn nhw ddim yn gallu dychmygu’r fath sefyllfa.

‘A’r peth gwaethaf…..,’ mae hi’n petruso ac yn llyncu yn galed…. ‘y peth gwaethaf yw… rhaid iddi hi fwyta plataid o afu amrwd bob dydd,’ mae’i llais hi bron yn anhyglyw. ‘..mae’n hollol ffiaidd.’

Mae Erin yn cydio yn llaw ei ffrind. Mae dagrau yn llygaid ill tri.

 

Mae Bethan ac Erin yn beicio i fyny y bryn tuag at eu cartrefi.

‘Dere adref gyda mi’, mae Bethan yn dweud.

‘Océ.’

 

Yn ystafell Bethan mae Erin yn gorwedd ar wely Bethan ac mae Bethan wedi ei lledu ei hun ar y llawr yn syllu i fyny ar Erin.

‘Wyt ti’n credu mewn arwyr?’ meddai Bethan.

‘Nadw.’

‘Wyt ti’n gwybod y stori am Orpheus?’

‘Nadw.’

‘Wel, roedd e mewn cariad ag Euridyce. Bu farw Euridyce a thriodd Orpheus ei hachub hi o’r isfyd.’

‘A lwyddodd e?’

‘Naddo.’

‘Wel, dyna ni ’te. Roedd fy nhadcu yn arfer bod yn arwr i fi.’

‘Dim nawr?’

‘Maen nhw wedi’i roi fe mewn gwallgofdy ar ôl iddo fe gael stroc.’

‘Ond dydi hi ddim yn deg.’

‘Nady. Dydi hi ddim yn deg bod mam Ros yn marw chwaith.’

‘Mae record newydd ’da fi. Gwranda.’

 

Mae Bethan yn neidio i fyny er mwyn rhoi record ar ei gramaffôn. Mae tonau cyfoethog llais contralto yn swyno Erin.

‘Beth yw bywyd i mi hebot ti,

Beth sydd ar ôl os wyt ti wedi marw,’ mae’r llais hudol yn ei ganu.

 

Mae Bethan yn syllu ar ei ffrind ac mae hi’n sylweddoli bod dagrau yn diferu i lawr ei bochau. Mae hi’n dechrau ymestyn ei braich er mwyn cyffwrd â hi, ond dyw hi ddim yn beiddio.

Ar ôl i’r gân orffen mae hi’n dweud, ‘Ti’n gwybod bod Ros mewn cariad â ti, on’d wyt ti?’

‘Paid a bod mor wyrion.’

Mae ill dwy yn gwrido. Mae’n iawn i fod mewn cariad â merched llawer hŷn neu ag athrawes wrth gwrs, ond mae hi’n rhy annifyr cyfaddef bod cariad at rywun yr un oed â ti.

‘Pwy yw’r gantores ’ma?’ mae Erin yn gofyn.

‘Paid â throi’r stori .’

‘Cau dy geg. Dw i’n mo’yn gwybod pwy yw hi.’

‘Kathleen Ferrier wrth gwrs.’

‘Mae hi’n wych. Mae hi allan o’r byd hwn. Dw i’n meddwl gallith hi fod yn arwr i fi.’

 

Tri mis ar ôl y stori ’ma bu farw Kathleen Ferrier. Roedd ei pherfformiad olaf o Orpheus fel gwyrth. Roedd ei llais cyn gryfed ag erioed, ond roedd ei chorff yn briwsioni oddi dani. Yn ystod y perfformiad cafodd ei ffemwr ei dryllio ond serch hynny gorffennodd hi’r perfformiad.

Sgwrs Pat a Mollie

Stori arall gan Pat, o’r dosbarth Canolradd yn Aberteifi. Diolch Pat!

(Roedd y sgwrs hon wedi digwydd yn y bore bach, y bore Sadwrn cyn mynd i Benidorm.  Roedd fy ffrind, Mollie, wedi bwcio’r gwyliau ac hefyd y bws bach i’n gyrru ni i faes awyr Caerdydd.  Mae Abertileri tua awr o Gaerdydd.  Roedd yr ehediad am chwarter wedi chwech a roedd rhaid i ni gyrraedd dwy awr cyn yr ehediad. Roedd y bws yn ein codi ni am dri o’r gloch yn y safle bws lleol tua pum munud o’r tŷ.)

Hanner awr wedi dau

(Ring, ring)

Pat: O, shwmae Mollie.

Mollie: O, helo Pat.  Mollie sy’n siarad. Dw i’n galw i weld os chi’n barod am y daith gyffrous i Benidorm.  Dw i’n mor gyffrous!

(Mae hi’n dechrau canu “Una Paloma Blanca”.)

Pat: Ydw.  Dyn ni ddim wedi gallu cysgu felly dyn ni’n barod i fynd. (Dyn ni’n canu gyda’n gilydd am sbel)

Mollie: Wyt ti wedi prynu dillad newydd i’r wyliau? Does dim byd newydd gyda fi eleni, ond fy hen “gladrags”. Ha, ha, ha.

Pat: O, dw i wedi prynu ambell beth wrth gwrs.

Mollie: O, dweud wrtha fi! Beth prynaist ti? Dw i ddim wedi cloi’r cesys eto.  Dw i’n gallu cymryd mas rhai ddillad John a phacio mwy o fy nillad.

Pat: O naddo, Mollie. Dim ond cwpl o bethau yw e – blowsys a crysau-t, esgidiau a siorts – o ac hefyd, dillad isaf ac ambell ddillad traeth.

Mollie: (Mae hi’n dweud wrth ei phartner, John) O, John ti’n gallu cymryd mas cwpl o dy grysau-t. Mae mwy o ddillad i fynd gyda fi.  (Dw i’n gallu clywed John yn grwgnach yn y cefndir).  Beth bynnag, bydda i’n galw amdanat ti tua deg munud neu pum munud i dri pan bydd y bws bach yn dod.

Pat: Iawn Mollie. Siarad cyn bo hir. La la la la la  la la la la.

Chwarter i dri

(Ring, ring)

Pat: O, shwmae Mollie

Mollie: O, helo Pat.  Mollie sy’n siarad. (Dwi’n gwybod hynny Mollie!!).  Faint o grysau-t wyt ti wedi pacio? Ond dw i ddim wedi penderfynu odylwn i gymryd mas pâr o drowsus John.

Pat: Dim ond wedi pacio saith crys-t.  Un am bob dydd plws cwpl o newidiadau wrth gwrs. Felly, ydy’r bws bach yna nawr?

Mollie: Nac ydy.  Dyw’r bws bach dim yma eto.  Ro’n i ond yn siecio.  John, cymryd mas dy drowsus gwyrdd! (Dw i’n gallu clywed John yn grwgnach yn y cefndir). 

Pat: Ffonia i fi pan bydd y bws yn cyrraedd, Mollie.

Mollie: Iawn, bydda.

Pum munud wedi dri

(Ring, ring)

Pat: O, shwmae Mollie

Mollie: O, helo Pat.  Mollie sy’n siarad. (!!??) 

Pat: O, gwych.  Mae bws wedi cyrraedd ‘te?

Mollie: Nac ydy Pat.  Dyw’r bws ddim wedi cyrraedd eto a dyw gyrrwr y bws ddim yn ateb ei ffôn.  Dyw e ddim yn edrych yn dda!  Dw i’n yn gofidio yn fawr nawr.

Pat: Nefoedd!! Jiw Jiw! Wel gadewch i ni aros am bum neu ddegmunud i weld os bydd e’n troi i fyny.

Mollie: Iawn.  Syniad da.  Ffonia ti cyn bo hir.

Ugain munud wedi tri

(Ring, ring)

Pat: O, shwmae Mollie.

Mollie: O, helo Pat.  Mollie sy’n siarad. (!!??)  Pethau’n edrych yn ddrwg nawr.  Does dim ateb ar ffôn y gyrrwr a rhaid i ni fod am y maes awyr am hanner awr wedi pedwar am y diweddaraf.  Bydd rhaid i ni yrru ni ein hunain!

Pat: Na fydd Mollie. Mae’n car ni wedi cloi yn garej Rhys ac mae e’n cysgu nawr.  Dw i ddim yn siwr ble mae e’n cadw ei alweddi garej.  Hefyd, mae angen petrol yn y car beth bynnag.

Mollie: (Mae hi mewn panig nawr) Dw i a John yn gallu mynd gyda Graham a Norma ac efallai chi’n gallu mynd gyda John a Gwyneth.

Pat: Ond Mollie, dyn ni ddim wedi cadw lle yn y maes parcio am y maes awyr a dw i ddim yn meddwl bydd digon o amser i fynd a bwcio a pharcio nawr.

Mollie: O Jiw Jiw.  Beth gallwn ni wneud?  John, rho’r tegell ymlaen! (Dw i’n gallu clywed John yn grwgnach yn y cefndir). 

Pat: Efallai bydd yn syniad da i aros am hanner awr wedi tri i weld os bydd e’n troi i fyny.

Mollie: O, iawn ‘te. Ffonia ti cyn bo hir.

Pum ar hugain munud wedi dri

(Ring, ring)

Pat: O, shwmae Mollie

Mollie: O, helo Pat.  Mollie sy’n siarad(?) Mae bws bach wedi dod.  O, canmol yr arglwydd! Mae John yn wneud te a tost i’r gyrrwr.  Roedd e wedi dod i nôl parti o ferched o Gaerdydd a roedden nhw yn hwyr.

Pat: (Ochenaid enfawr o ryddhad).  Pa mor hir byddwch chi?

Mollie: O, dim ond deg munud. (Deg munud???)  Pa mor hir y bydd yn cymryd i chi gerdded  i’r safle bws?

Pat: Dim ond tua pum munud.

Mollie: O, da iawn ‘te.  Mae amser i gael jam ar ein tost, John.  Wela i chi cyn bo hir.

Pat: Da iawn, bydda i’n siarad â chi cyn bo hir, Mollie.

 


Diolch eto i Pat am rannu eu storiau gyda ni. Os oes rhywbeth gyda chi hoffech chi roi ar y blog, anfonwch at nicdafis@gmail.com os gwelwch yn dda.