Archifau Categori: Aberteifi

Ail Symudiad yn 1176

Bydd Ail Symudiad yn perfformio ym Mwyty 1176 nos Iau 1af a 15fed o Chwefror am 7.30yh ar gyfer y dysgwyr fydd ar gwrs Cymraeg preswyl yn y Castell. Bydd croeso i bob dysgwr y Gymraeg, ac i’r cyhoedd, i ddod i fwynhau’r noson, yn rhad ac am ddim!

Ail Symudiad will be performing at the 1176 restaurant on Thursday 1st and 15th February at 7.30pm for the students who will be on a residential Welsh course in the Castle. All Welsh learners, and the public, will be welcome to come and enjoy the evening, free of charge!

Geiriau Clasuron Tecwyn Ifan

Bydd Tecwyn Ifan yn perfformio ym Mar y Selar, Stryd y Cei, Aberteifi, nos Sadwrn 27 Sadwrn 2018. Mae Tecs yn enw sy’n gyfarwydd i bawb sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, wrth gwrs, ond i’r rhai sy wrthi’n dysgu ar hyn o bryd, dydy ei ganeuon ddim yr un mor gyfarwydd. Dyma rhai o’r goreuon, gyda’r geiriau.


Angel

Daeth i mi mewn breuddwyd, daeth y feinwen lân,
Torrodd drysau melys cwsg i adrodd im ei chân,
Galwad ddaeth im gwely clud a’r nos yn wlyb ac oer,
Gwelais hi yn dawnsio’n ffri ar belydrau’r lloer

Gan ddweud:
Tyrd lle mae’r awyr yn burach,
Y tiroedd yn lasach [wyrddach],
Lle cana’r adar mwyn i gyd yn iach,
Yno mae heddwch
A hudol brydferthwch
A chysur clyd i’r corff cyn mynd i’r llwch.

Cwmwl ddaeth yn llen i’r lloer a’i belydrau aur,
Ni welswn mwy y feinwen deg na sibrwd mwyn ei gair,
Trois yn ôl i drwmgwsg hir i wlad y Tylwyth Teg
Ac anghofiais sain y gân am arall sain oedd bêr.
Anghofiais lle’r oedd yr awyr yn burach …

Pan ddaeth newydd wawr dros fyd a’r nos yn cilio draw,
Minnau’n cyfarch haul y dydd tra chiliai cysgod braw,
Gwelais ar y gorwel pell fy mreuddwyd ferch mor rhydd,
Angel Cymru Newydd oedd yn dod i hawlio’i dydd.
A’r dydd hwnnw roedd yr awyr yn burach …


Cerdded Mlaen

Roedd mynyddoedd y Preselau
Fel tadau mwyn i mi,
Rhain ydoedd fy hoffus ffrindiau i,
Bryd hynny ro’n i’n ifanc
A phur ydoedd fy nghân,
Minnau megis newydd gynnau’r tân.

Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen,
Dal i gerdded ’mlaen,
Am fod rhai yn dal i ‘ngharu,
Rwy’n dal i gerdded ’mlaen.

Dechreuais innau gerdded,
Cerdded ar fy nhaith,
Dros y bryniau teg, ’r hyd dolydd llaith,
Profais oriau tywyll,
Brwydrau gwaedlyd fu,
Trosof aeth ’na rai trwy’r angau du.
Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen ….

A nawr ar fy hen lwybrau
Fe dyf y glaswellt hir
Ac ni allaf bellach grwydro’r tir,
Paid a chynnig cymorth
I hen wraig ar ffo,
’Mond dy fywyd cyfan wnaiff y tro.
Ond rwy’n dal i gerdded ’mlaen ….

Mae bywyd yn y canu,
Ond marw yw y gân,
Dyna ofid yr hen wreigen lân,
Ond pan drodd y Cymry ati
Y canfu hi ei hedd
A throdd hithau’n ieuanc hardd ei gwedd.

Ac mae’n dal i gerdded ’mlaen,
Dal i gerdded mlaen,
Am fod rhai yn dal i’w charu,
Mae’n dal i gerdded ’mlaen. x2


Gwaed ar yr eira gwyn

Ym mynwes y ddaear y cysgodd y gwŷr,
Gorwedd eu cyrff ar bridd y tir,
Collwyd y dydd rhwng y bryniau hyn,
Sychodd y gwaed ar yr eira gwyn.

Gwaed y gwŷr ar yr eira gwyn.
Gwaed ar yr eira gwyn.

Oer yw’r cwm, diffoddodd y tân,
Ciliodd yr adar, tewodd eu cân,
Marw breuddwyd oesol fan hyn,
Dyna yw’r gwaed ar yr eira gwyn…

Ni welir un croes am na thorrwyd ’run bedd,
Gadawyd y cyrff i orwedd mewn hedd,
Gadawyd y cyfan i gysgu fel hyn
Tra’r erys y gwaed ar yr eira gwyn…


Stesion Strata


Ffarwél i Stesion Strata, Ffarwel i Ystrad Fflur,
Ffarwél i lynnoedd Teifi a’u dyfroedd pur,
Ffarwél i’r grug a’r fawnog a llwch y gweithe mwyn,
Ffarwél i ferch y bryniau, ei serch a’i swyn.

Mae hiraeth am y dyfroedd ym mref yr hydd,
Mae hiraeth yn y nos am weled toriad dydd,
Mae hiraeth ar hen aelwyd am gael ailgynnau’r tân,
Mwy hiraeth sy’n fy mron am gariad genneth lân,

Cytgan:
Rhudd yw ei gruddiau, Rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith;
Rhudd yw ei gruddiau, Rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith ar y gwawn.

Er gweled ar fy nheithiau ryfeddodau’r byd,
Ac er i diroedd pell dros ennyd ddwyn fy mryd,
Gwn mwy na fyddaf fodlon nes profi eto’r swyn
Yng nghwmni merch y bryniau ar Esgair Mwyn.


Y Dref Wen

Y Dref Wen yn y dyffryn
Heno heb arf nac offeryn
Ar wyneb y gwellt gwêl y gwaed
A drôdd y pridd yn llaid

Ond awn i ail-adfer bro
Awn i ail-godi’r to
Ail oleuwn y tŷ
Pwy a saif gyda ni?

Y Dref Wen chwâl ei meini
Heno’n brudd yn ei hoerni
Ddaeth ’na neb i holi pam
Mai marw yw’r fflam
Ond awn i ail-adfer bro……

Y Dref Wen wrth y coed
Hiraeth am gadw oed
Ciliodd pawb o’r hyfryd fro
’Stafell Gynddylan sydd dan glo.
Ond awn i ail-adfer bro……


Bytholwyrdd


Boed Duw i ti’n amddiffyn,
Boed iddo iti’n ran,
Mynega dy weddїau taer,
Fe’i hetyb yn y man,
Boed iti ddringo grisiau’r sêr –
Gweld rhyfeddodau fyrdd,
A thrwy y cyfan hyn
Boed iti fod yn fytholwyrdd.

Boed iti dyfu’n gyfiawn,
Boed iti dyfu’n driw,
Boed iti wybod beth yw’r gwir
Gan weld y golau gwiw,
Boed iti fod yn gryf a dewr
Wrth gerdded garw ffyrdd,
A thrwy y cyfan hyn
Boed iti fod yn fytholwyrdd.

Boed cain a lunio’th dwylo,
Boed iti ddwydroed chwim,
Boed fyddlon iti’th wreiddiau dwfn
Pan chwytho’r gwyntoedd llym;
Boed i dy lais wrandawiad teg
Pan geni di dy gân,
A thrwy hyn oll boed iti fod
Yn fytholwyrdd a glân.


Ar Doriad Gwawr

Mae ‘na linell wen i’w gweld fan draw
Ar doriad gwawr,
A daw cwthwm o wynt a chawod o law
Ar doriad gwawr,
A thrwy ddagrau’r glaw ar y gwydr brau
Mae’r ‘sgotwr yn edrych mas dros y bae
Gan wybod yn ei ofid a’i wae
Na all pethau fyth barhau
Ar doriad gwawr.

Does fawr o gysgod lawr ar y cei
Ar doriad gwawr,
Dan ddiferion ewyn ton ola’r teid
Ar doriad gwawr.
Mae’r ferch a’r heli’n ei llygaid glas
Yn rhoi ei stondyn lan ar ras
Ffrwythau a llysiau, pob lliw – pob blas
Mae’n eu rhoi nhw mas
Ar doriad gwawr.

Maent yn dechrau clirio lle
I archfarchnad fawr i’r dre,
Dyma’r hoelen olaf yn yr arch;
O, bydd rhaffau, rhwyd a rhwyf
Yn addurn ar y clwyf –
Rhywbeth bach er cof i ddangos parch.

Mae cwch pysgota’n sownd wrth y cei
Ar doriad gwawr,
A ddaw neb i alw ar donnau’r teid
Ar doriad gwawr,
A does neb yn rhoi eu stondyn mas
Pawb yn mynd fan draw at ras
Tra bo’r ’sgotwr yn dal i deimlo’r ias
Wrth gofio’r ferch a’r heli’n ei llygaid glas
Ar doriad gwawr.

A bellach yn ei lle
Mae archfarchnad fawr y dre,
Dyma’r hoelen olaf yn yr arch;
Ac mae rhaffau, rhwyd a rhwyf
Yn addurn ar y clwyf –
Rhywbeth bach er cof i ddangos parch.


Cân Yr Adar Mân

(Mererid Hopwood Awst 2011)


Rhwygo’r tir fu’r hen hen hanes,
rhwygo’r glo i’n cadw’n gynnes,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
yw rhwygo anadl popeth byw.

Ac am nad oes geiriau’n falm
Canaf eiriau cur
Am adar mân fy Nghymru Lân
A’u chwim adenydd dur.

Rhwygo’r dŵr fu’r hen hen stori
boddi’r cymoedd a’r pentrefi,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
Yw rhwygo anadl popeth byw.

Ac am nad oes geiriau hardd
Canaf eiriau hyll
Am adar mân fy Nghymru Lân
Yn crawcian ofnau’r gwyll

Anelu a saethu o bellter byd
Anelu a saethu dyna’i gyd
‘Gelyn’ yw’r plant sy’n chwarae ar y stryd
Y rhain medde ti wrtho i sydd yn werth y byd
Rhain sydd yn werthy byd
Rhain sydd yn werth y byd.

Rhwygo’r byd yw’r chwedl newydd,
rhwygo cyd-ddyn wrth eu gilydd,
rhwygo’r awyr las, myn Duw,
Yw rhwygo anadl popeth byw.
Ac am nad oes geiriau drud
Canaf eiriau tlawd
Am adar mân fy Nghymru Lân
Sy’n ladd fy chwaer a’m brawd.

Parti Pizza

[Scroll down or click here for English]

Parti Pizza yn y Tipi!

Nos Fawrth 4ydd Gorffennaf 2017

am 7.00yh

Dewch i ddathlu diwedd tymor

y dosbarthiadau Cymraeg

 

Dewch i ymuno â ni ar y Cei yn Aberteifi (rownd y cornel o’r Grosvenor) ar gyfer parti pizza yn y tipi mawr. Bydd Fforest yn gwneud pizzas cartref ffres yn eu ffyrnau coed tân arbennig ar y safle (£7.00 – £12.00 yr un). Mae cynhwysion y pizzas yn lleol cymaint â phosibl. Hefyd bydd bar yno yn cynnig detholiad o gwrw o Gymru, seidr, gwirodydd a diodydd ysgafn i’w prynu.

Gwisgwch ddillad cynnes! (Peidiwch poeni os bydd glaw – mae digon o gysgod cysurus).

Does dim rhaid bwcio. Manylion: 01239 654561 philippa.gibson@gmail.com

Croeso cynnes i bawb


 

Pizza Party in the Tipi!

Tuesday 4th July 2017

at 7.00pm

Come and celebrate the end of term of

the Welsh Classes

Please join us on the Quay in Cardigan (just around the corner from the Grosvenor) for a pizza party in the big tipi. Fforest will be making fresh, homemade pizzas in their wood fired pizza ovens on site (£7.00 – £12.00 each). The pizza ingredients are locally sourced where possible. There will also be a bar on site offering a selection of Welsh beers, ciders and spirits as well as soft drinks to buy.

Wear warm clothes! (Don’t worry about rain – there’s plenty of cosy shelter).

There’s no need to book. Details: 01239 654561 philippa.gibson@gmail.com

Arwr

Nos Fercher, yn ystod noson lenyddiaith Gŵyl Fawr Aberteifi, cyhoeddwyd taw Elizabeth Jones o ddosbarth Uwch 2 oedd wedi ennill y gystadleuaeth i ddysgwyr gyda’i darn o ryddiaith am ‘Arwr’.

Dwedodd y beirniad (Karen Owen) ei bod hi’n hoffi’r iaith – tafodiaith naturiol yr ardal – yn y ddeialog. Roedd yn amlwg bod y darn wedi gwneud argraff dda iawn ar Karen. Llongyfarchiadau mawr i Elizabeth!

 


Arwr

‘Mae fy mam yn sâl iawn,’ meddai Ros.

‘Beth sy’n bod arni hi?’

Mae’r tair cyfeilles yn sgwrsio ym muarth chwarae’r ysgol. Maen nhw’n ddeuddeg mlwydd oed ac yn eistedd ar wal isel.

‘Mae’r meddyg yn ei galw hi’n ‘anaemia aflesol’.’

‘Beth yw hynny?’

‘Sa i’n gwybod ond mae hi wedi mynd yn wan fel blewyn…..a dyw hi ddim yn gallu anadlu.’

Dyw Erin a Bethan ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Dydyn nhw ddim yn gallu dychmygu’r fath sefyllfa.

‘A’r peth gwaethaf…..,’ mae hi’n petruso ac yn llyncu yn galed…. ‘y peth gwaethaf yw… rhaid iddi hi fwyta plataid o afu amrwd bob dydd,’ mae’i llais hi bron yn anhyglyw. ‘..mae’n hollol ffiaidd.’

Mae Erin yn cydio yn llaw ei ffrind. Mae dagrau yn llygaid ill tri.

 

Mae Bethan ac Erin yn beicio i fyny y bryn tuag at eu cartrefi.

‘Dere adref gyda mi’, mae Bethan yn dweud.

‘Océ.’

 

Yn ystafell Bethan mae Erin yn gorwedd ar wely Bethan ac mae Bethan wedi ei lledu ei hun ar y llawr yn syllu i fyny ar Erin.

‘Wyt ti’n credu mewn arwyr?’ meddai Bethan.

‘Nadw.’

‘Wyt ti’n gwybod y stori am Orpheus?’

‘Nadw.’

‘Wel, roedd e mewn cariad ag Euridyce. Bu farw Euridyce a thriodd Orpheus ei hachub hi o’r isfyd.’

‘A lwyddodd e?’

‘Naddo.’

‘Wel, dyna ni ’te. Roedd fy nhadcu yn arfer bod yn arwr i fi.’

‘Dim nawr?’

‘Maen nhw wedi’i roi fe mewn gwallgofdy ar ôl iddo fe gael stroc.’

‘Ond dydi hi ddim yn deg.’

‘Nady. Dydi hi ddim yn deg bod mam Ros yn marw chwaith.’

‘Mae record newydd ’da fi. Gwranda.’

 

Mae Bethan yn neidio i fyny er mwyn rhoi record ar ei gramaffôn. Mae tonau cyfoethog llais contralto yn swyno Erin.

‘Beth yw bywyd i mi hebot ti,

Beth sydd ar ôl os wyt ti wedi marw,’ mae’r llais hudol yn ei ganu.

 

Mae Bethan yn syllu ar ei ffrind ac mae hi’n sylweddoli bod dagrau yn diferu i lawr ei bochau. Mae hi’n dechrau ymestyn ei braich er mwyn cyffwrd â hi, ond dyw hi ddim yn beiddio.

Ar ôl i’r gân orffen mae hi’n dweud, ‘Ti’n gwybod bod Ros mewn cariad â ti, on’d wyt ti?’

‘Paid a bod mor wyrion.’

Mae ill dwy yn gwrido. Mae’n iawn i fod mewn cariad â merched llawer hŷn neu ag athrawes wrth gwrs, ond mae hi’n rhy annifyr cyfaddef bod cariad at rywun yr un oed â ti.

‘Pwy yw’r gantores ’ma?’ mae Erin yn gofyn.

‘Paid â throi’r stori .’

‘Cau dy geg. Dw i’n mo’yn gwybod pwy yw hi.’

‘Kathleen Ferrier wrth gwrs.’

‘Mae hi’n wych. Mae hi allan o’r byd hwn. Dw i’n meddwl gallith hi fod yn arwr i fi.’

 

Tri mis ar ôl y stori ’ma bu farw Kathleen Ferrier. Roedd ei pherfformiad olaf o Orpheus fel gwyrth. Roedd ei llais cyn gryfed ag erioed, ond roedd ei chorff yn briwsioni oddi dani. Yn ystod y perfformiad cafodd ei ffemwr ei dryllio ond serch hynny gorffennodd hi’r perfformiad.

Arad Goch – Madog

Madog – Drama yn Theatr Mwldan 26/6/14

1170 – mae’r byd yn fflat – a dyma’r Tywysog Madog a’i griw yn hwylio ymhell i’r Gorllewin – pellach na neb arall – “I’r pen pella a thu hwnt!” – a darganfod yr Amerig  bron tair canrif cyn Columbus (yn ôl y chwedl)!

Mae’r daith yn gyffrous: mae’r criw yn wynebu pob math o drafferthion a rhwystrau – moroedd gwyllt, tân, anifeiliaid anferth, bwystfilod dychrynllyd a llongau ysbrydion. Ond a gânt groeso ar ôl cyrraedd pen y daith?

Manylion ar wefan y Mwldan.

Cynnig arbennig i ddysgwyr – a special offer for learners.

Tocyn am £5, sef pris ysgolion (yn lle £7 neu £6). Bydd rhaid bwcio eich tocyn eich hunan, gan ddweud eich bod yn rhan o grŵp Philippa i gael y pris arbennig.

 

Madog – Drama at Theatr Mwldan 26/6/14

 

One of Wales’ most important legends is brought to life in Cwmni Theatr Arad Goch’s BIGGEST EVER production for children and families in Wales!

Have you ever imagined yourself taking part in a great adventure? That’s what happens to the young boy in this story as he ends up on a huge ship with none other than Prince Madog and his crew! As they leave Wales and set sail for the West they face several challenges-the fierce storms, wild sea animals, a ghost ship…before discovering a beautiful new land

According to the legend, Madog and his crew were the first ones to discover America! Come aboard and celebrate Cwmni Theatre Arad Goch’s 25th birthday!

Details on Theatr Mwldan’s website.

Special offer for learners and supporters!

Tickets for £5, which is the schools price (instead of £7 or £6). You’ll need to book your ticket yourself, saying that you are part of Philippa’s group, to get the special price.

Parti Pizza

Parti Pizza mewn Tipi!

Nos Iau 26ain Mehefin 2014 am 7.00yh

Dewch i ddathlu diwedd tymor y dosbarthiadau Cymraeg!

Bydd ‘Deuair’ (deuawd telyn, ffidl a llais, a oedd yn rhan o’r grŵp ‘CerddCegin’) yno i ganu i ni

Dewch i ymuno â ni ar y Cei yn Aberteifi (rownd y cornel o’r Grosvenor) ar gyfer parti pizza yn y tipi mawr sy’n cael ei ddarparu gan gwmni Fforest. Bydd Fforest yn gwneud pizzas cartref ffres yn eu ffyrnau coed tân arbennig ar y safle. Mae cynhwysion y pizzas yn lleol cymaint â phosibl. Hefyd bydd bar yno yn cynnig detholiad o gwrw o Gymru, seidr, gwirodydd a diodydd ysgafn i’w prynu. Gwisgwch ddillad cynnes! (Peidiwch poeni os bydd glaw – mae digon o gysgod cysurus).

(pizza: £6.50 – £8.00 yr un)

Does dim rhaid bwcio, ond dwedwch wrth eich tiwtor os ydych chi’n bwriadu dod, fel ein bod yn gwybod faint i’w ddisgwyl.

Croeso cynnes i bawb

 

Pizza Party in a Tipi!

Thursday 26th June 2014 at 7.00pm

Come and celebrate the end of term of the Welsh Classes!

‘Deuair’ (harp, violin and voice duet, who were part of the group CerddCegin’) will be there to sing for us.

Please join us on the Quay in Cardigan (just around the corner from the Grosvenor) for a pizza party in the big tipi provided by the Fforest company. Fforest will be making fresh, homemade pizzas in their wood fired pizza ovens on site. The pizza ingredients are locally sourced where possible. There will also be a bar on site offering a selection of Welsh beers, ciders and spirits as well as soft drinks to buy. Wear warm clothes! (Don’t worry about rain – there’s plenty of cosy shelter).

(pizza: £6.50 – £8.00 each)

There’s no need to book, but tell your tutor if you intend to come, so that we know how many to expect.

A warm welcome to all

Noson Lawen Aberteifi

Poster Noson Lawen Mehefin

Mae gan Cadwgan docynnau i’w gwerthu ar gyfer 4 Noson Lawen sy’n cael eu cynnal o Nos Wener 13 Mehefin i Nos Lun 16 Mehefin. Cost tocyn yw £5, ac mae’r poster sydd wedi’i atodi a mwy o fanylion. Byddwn yn ddiolchgar os gallech adael i’ch aelodau a ffrindiau wybod – i brynu tocyn, galwch fewn i swyddfa’r Castell uwchben y 25 Mile yn Aberteifi.

Cadwgan are selling tickets for four evenings of S4C’s popular variety show, “Noson Lawen“, which will be recorded in Theatr Mwldan from Friday 13 June to Monday 16 June. The tickets are £5, with proceeds going to local good causes. Available from the Castle offices above the 25 Mile restaurant (yes, where the Welsh classes are held!)

Lansio CD Fernhill

Nos Wener, 30 Mai, Theatr Byd Bychan, Aberteifi, 7.30 – £10

Dathlwch lansiad albwm newydd, hir-ddisgwyliedig Fernhill, ‘Amser’. Mae’n cynnwys sawl gosodiad cerddorol newydd o farddoniaeth gan gynnwys darn hyfryd Thomas Hardy, ‘The Self Un-seeing’, tra bod geiriau y bardd o Gymru, Vernon Watkins, yn gwau drwy’r trac teitl ‘Amser’, sef gwrthdrawiad o draddodiadau gwerin y gaeaf megis y Fari Lwyd, canu Calennig a Hela’r Dryw Bach. Mae’r albwm, sy’n ddilyniant i ‘Canu Rhydd’ a dderbyniodd cryn ganmoliaeth, yn cynnwys llais Julie Murphy, Ceri Rhys Mathews ar y gitâr, Christine Cooper ar y ffidil a Tomos Williams ar y trwmped. Yn ogystal â theithio i gefnogi eu halbwm yn 2014, bydd Fernhill yn perfformio fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas yn Abertawe, Talacharn, yr Ariannin a Phatagonia.

Friday, 30 May, Small World Theatre, Cardigan, 7.30 – £10

Celebrate the launch of Fernhill’s much anticipated new album ‘Amser’ (Time). It features many new musical settings of poetry including Thomas Hardy’s exquisite ‘The self unseeing’, while the words of Welsh poet Vernon Watkins are woven into the title track ‘Amser’ a collision of the winter folk customs Wassail, Mari Lwyd, Calennig and the wren hunt. The double album, follow up to the critically acclaimed ‘Canu Rhydd’ features Julie Murphy on vocals, Ceri Rhys Matthews on guitar, Christine Cooper on fiddle and Tomos Williams on trumpet. In addition to touring in support of their new album in 2014, Fernhill will be performing as part of the Dylan Thomas centenary celebrations in Swansea, Laugharne, Argentina and Patagonia.

Wythnos Pentigili

Dydd Llun 26/05/14 – Dydd Gwener 30/05/14
Llandudoch ac Aberteifi
Wythnos ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg a’r Cymry

Mae`r wythnos yn addas i fyfyrwyr lefelau Canolradd, Uwch ac Hyfedredd. Cymraeg fydd iaith y penwythnos. Sdim rhaid i chi ddod am y pum niwrnod. Gallwch chi ddod am un diwrnod, dau ddiwrnod, ayb

Wythnos anffurfiol o siarad Cymraeg ac ymweld ag ardaloedd Llandudoch, Aberteifi a llefydd cyfagos yng ngogledd Sir Benfro a de Ceredigion.

Does dim ffi am yr wythnos. Trefnwch chi a thalu am eich gwely a brecwast eich hunain, ynghyd â’ch prydau bwyd, teithio a mynediad i lefydd, ayb. Gallwch chi drefnu eich gwely a brecwast trwy Ganolfan Croeso Aberteifi, Theatr Mwldan, Bath House Rd, Aberteifi SA43 1JY 01239 613230. Y peth gorau yw i chi drefnu gwely a brecwast ar ôl y dyddiad cau, hynny yw, ar ôl i ni gadarnhau fod Wythnos Pentigili’n rhedeg. Os oes anghenion arbennig `da chi mae eisie i chi gysylltu â’r gwesty, tafarn, ayb eich hunain.

Cyrraedd 11:00 bore dydd Llun a gadael ar ôl cinio prynhawn dydd Gwener

Dyddiad cau ar gyfer derbyn y ffurflen gais – 07/05/14

Am fanylion bellach cysylltwch â Dewi:
01437 776785 d.rhys-jones@abertawe.ac.uk

Amserlen Wythnos Pentigili`

Amserlen ddrafft yw hon a gall pethau newid.  Sdim rhaid i chi ddod bob dydd.

Cliciwch yma i agor yr amserlen.

Mae’r gair  pentigili’ yn dod o `pen at ei gilydd’.  Mae e’n golygu ‘yr holl ffordd’, ‘pob cam’.