Rysáit gan Sarah, o ddosbarth Uwch 1 dydd Mawrth. Diolch yn fawr iddi am rannu’r rysáit, ac am ddod â chreision i ni eu profi yn y dosbarth!
Cynhwysion
Olew coco – 15ml (llwy fwrdd)
Halen seleri – 2.5 ml (hanner llwy de)
Paprica – 5ml (llwy de)
Bresych cyrliog (cêl) wedi’i olchi a sychu – hanner bag (tua 150g)
Powdr menyn cnau mwnci – 15ml (llwy fwrdd)
Dull
- Torrwch y bresych cyrliog yn ddarnau bach heb wythiennau
- Twymwch y dadhydradwr [dehydrator] i 55° C
- Rhowch y olew coco dros bowlen o ddŵr poeth nes ei fod e wedi toddi
- Rhowch fresych cyrliog mewn powlen ac ychwanegwch yr olew coco. Cymysgwch yn dda
- Ychwanegwch y powder menyn cnau mwnci, paprica a’r halen seleri a chymysgwch yn dda eto
- Rhowch y bresych cyrliog yn y dadhydradwr am tua 3 i 4 awr i sychu
- Rhowch mewn blwch wedi’i selio a bwyta o fewn wythnos
Diolch eto Sarah, edrychwn ni ymlaen at dy waith cartre nesaf!