Eisteddfod Llandudoch

[Lawrlwytho’r rhaglen yma]

Mai 18fed, 2019 – Neuadd Llandudoch

Cystadlaethau ar gyfer dysgwyr. (Noddir gan Dysgu Cymraeg Sir Benfro)

Rhif 67 : Cystadleuaeth lwyfan i ddysgwyr o Lefel Mynediad hyd at Lefel Uwch –  darllen darn y bydd mis o amser i’w baratoi.

Dyma’r darn i’w ddarllen:

Clychau Cantre’r Gwaelod
(J.J.Williams)

O dan y môr a’i donnau,
Mae llawer dinas dlos
Fu’n gwrando ar y clychau
Yn canu gyda’r nos;
Trwy ofer esgeulustod
Y gwyliwr ar y tŵr
Aeth clychau Cantre’r Gwaelod
O’r golwg dan y dŵr.

Pan fyddo’r môr yn berwi
A’r corwynt ar y don,
A’r wylan wen yn methu
Cael disgyn ar ei bron;
Pan dyr y don ar dywod
A tharan yn ei stŵr,
Mae clychau Cantre’r Gwaelod
Yn ddistaw dan y dŵr.

Ond pan fo’r môr heb awel
A’r don heb ewyn gwyn,
A’r dydd yn marw’n dawel
Ar ysgwydd bell y bryn,
Mae nodau pêr yn dyfod,
A gwn yn eithaf siŵr.
Fod Clychau Cantre’r Gwaelod
I’w clywed dan y dŵr.

(Lawrlwytho’r geiriau fel Word doc.)