Llyfr Glas Nebo – Aberystwyth – 17/18 Chwefror 2020

LLYFR GLAS NEBO
Ffenomenon ôl-apocalyptaidd Manon Steffan Ros yn cael ei thrawsnewid i’r llwyfan.

Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant Siôn a Dwynwen yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym.

Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi digwyddiad a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

Mae Llyfr Glas Nebo yn stori am fywyd, marwolaeth a gobaith. Mi fyddwch chi’n chwerthin. Mi fyddwch chi’n crio. Ond yn fwy na dim, mi fyddwch chi’n cwestiynu sut rydyn ni’n byw, caru a gofalu am ein byd o’n cwmpas ni heddiw.

SGWRS WEDI’R SIOE
Bydd sgwrs ar ôl perfformiad 17/01 y sioe.

SGWRS CYN SIOE AR GYFER DYSGWYR CYMRAEG
Bydd sgwrs cyn sioe ar gyfer dysgwyr Cymraeg am 6.30pm ar 18fed Chwefror yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth.

UWCHDEITLAU SAESNEG
Mae’r perfformiad 18/01 o Llyfr Glas Nebo yn cynnwys cyfieithiad ar y pryd i’r rheini sydd ddim yn siarad Cymraeg. Bydd yr uwchdeitlau yn ymddangos ar ochr chwith y llwyfan (wrth i chi wynebu’r llwyfan).

Archebwch tocynnau ar wefan y Ganolfan, neu trwy ffonio 01970 62 32 32

TAFLENNI GEIRFA

Os ydych chi am ddarllen, neu ail-ddarllen, y nofel cyn mynd at y sioe, cofiwch bod Richard wedi paratoi geirfa i ddysgwyr ar gyfer y llyfr.


LLYFR GLAS NEBO
Stage adaptation of Manon Steffan Ros’ post-apocalyptic phenomenon.

As the dust settles after a nuclear apocalypse, Rowenna and her children Siôn and Dwynwen are facing a world where signs of life are quickly disappearing.

Their story is recorded in a little blue book as the family tries to survive an incident that has a devastating effect on the inhabitants of the village of Nebo and beyond.

Llyfr Glas Nebo is an unflinching story about life, death and hope. You will laugh. You will cry. But above all, you will question how we live, love and care about the world around us.

POST-SHOW TALK
There is a post-show talk after the performance on 17/02

FOR WELSH LEARNERS
There is a pre-show talk for Welsh learners at 6.30pm on the 18th February at Aberystwyth Arts Centre.

English Surtitles
The 18/02 performance of Llyfr Glas Nebo will have simultaneous translation for non-Welsh speakers. The surtitles will appear on the left hand side of the stage (when facing the stage).

Book tickets on the Arts’ Centre website, or by phone 01970 62 32 32

VOCABULARY SHEETS

If you’re thinking of reading, or re-reading, the novel before going to the show, remember that Richard has prepared vocabulary sheets for Welsh learners.