Dyddiadur bach yn wahanol gan Ursula ym Mlaenporth yr wythnos hon, am resymau amlwg! Diolch i ti Ursula, a chawch yn sâff!
Fel yr haul fe gododd yn y dwyrain a lledaenu’n gyflymach na thân. Yn wahanol i’r haul mae wedi lladd miloedd lawer o bobl a bydd hyd yn oed mwy yn marw.
Mae’r firws hwn wedi lledaenu’n gyflymach na’r ffliw ac wedi effeithio ar fwy o bobl ledled y byd.
Dyn ni i gyd mewn perygl o’i gael ond mae’r perygl mwyaf i’r henoed a’r sâl.
Mae gwleidyddion yn sylweddoli eu bod yn ddi-rym yn erbyn y firws hwn ac mae angen iddynt weithio gyda’i gilydd. Rhaid i bleidiau gwleidyddol weithio gyda’i gilydd ac mae rhaid i wledydd wneud yr un peth i guro’r anghenfil hwn.
Fel optimist hoffwn edrych ar y pethau cadarnhaol: mae’r amgylchedd yn gwella, dyn ni’n dysgu llawer. Sut i gyd-fyw, rhaid i ni i gyd aros gartref! Sut i ddifyrru ein hunain oherwydd na allwn fynd allan i gwrdd â ffrindiau a theulu. Dyn ni’n treulio llawer mwy o amser ar y ffôn ac ar-lein yn siarad â’r bobl dyn ni’n poeni amdanyn nhw.
Dyn ni’n gwario llai o arian yn siopa oherwydd ni allwn fynd allan (dim ond siopa am fwyd).
Dyn ni’n helpu ein ffrindiau a’n cymdogion ac mae ein cymuned yn dod yn fwy gofalgar.
Rhaid i ni ddysgu rheolau newydd i gadw’n ddiogel ac mae’r rheolau ar gyfer holl bobl y byd. Rhaid i ni aros adref felly mae’r ffyrdd yn dawelach nag erioed. Mae arfarchnadoedd yn brysurach nag erioed ac rhaid i ni giwio yn y maes parcio. Rhaid i ni hefyd gadw pellter diogel i eraill. Mae petrol yn rhatach nag erioed (ond dyn ni ddim gallu mynd i unman).
Dyn ni ddim wedi cael y sefyllfa hon o’r blaen yn ystod ein hoes. Mae hyn yn ein huno ni i gyd. Mae’n drueni na allwn ni gael undod mewn amser heddwch.
Weithiau yr amser gwaetha yw’r amser gorau.