Cerddwyr

Dof mewn niwl, dof mewn heulwen,
A dof drwy’r glaw yn llawen –
Awn i gyd, pob un â gwên.

Terwyn Tomos

(Llun o’r Cerddwyr yn Llandudoch, Hydref 2021, gan Nick Smart)

Cerddwyr Cylch Teifi

Rhaglen 2023 – 2024

Cyfle i Gymry Cymraeg a dysgwyr fwynhau cwmni’i gilydd wrth gerdded.

Teithiau cerdded ar yr ail ddydd Sadwrn o bob mis rhwng Hydref a Mehefin. Teithiau o ryw ddwy awr fel arfer, gan adael y man cychwyn am 10.30yb bob tro – dewch erbyn 10.20.

Trefnyddion:

Terwyn a Marged Tomos, 01239 612928 terwynamarged@btinternet.com

Philippa Gibson, 01239 654561 philippa.gibson@gmail.com

Howard Williams

  • Awn i gerdded bob tro, glaw neu beidio, ond ffoniwch os hoffech fwy o fanylion. 
  • Rhannwch geir i gyrraedd, os gallwch. 

DIOGELWCH

Cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hunain ac felly:

  • darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol;
  • dewch â dillad addas o ystyried adeg y flwyddyn a rhagolygon y tywydd, yn enwedig esgidiau cymwys i dir gwlyb ac anwastad;
  • cadwch gysylltiad â gweddill y criw trwy aros o flaen y trefnydd a fydd wrth gefn y rhes o gerddwyr;
  • hysbyswch drefnydd os gadewch chi’r daith yn gynnar;
  • cadwch gŵn ar dennyn;
  • cymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded:
    • ar hyd ffyrdd heb balmant;
    • ar lethrau serth;
    • ar lwybrau lle mae disgyniad ar un ochr fel yn aml ar lwybrau’r arfordir

DYSGWYR

Cofiwch fod dysgwyr yn dod i gerdded gyda’r grŵp er mwyn cael cyfle i sgwrsio â Chymry lleol. Da chi, agorwch sgwrs â nhw pan allwch.


RHAGLEN 2023 -24

Am ragor o fanylion am y rhaglen gyfredol, cliciwch yma i weld Cylchlythyr y Cerddwyr.

  • Hydref 14 – Terwyn Tomos – Ardal Aberteifi
  • Tachwedd 11 – Ali Evans – Ardal Cilgerran
  • Rhagfyr 9 – Lesley Parker – Ardal Pont-Tyweli 
  • Ionawr 13 – Howard Williams – Ardal Pen-parc 
  • Chwef 10- Hedd Ladd Lewis – Ardal Boncath
  • Mawrth 9 – Gareth Wyn Jones – Ardal Llangrannog / Pontgarreg / Blaencelyn
  • Ebrill 13 – Geraint Volk – Ardal Trewyddel
  • Mai 11 – Dor Rawles – Ardal Cenarth 
  • Mehefin 8 – Judith Wainwright – Ardal Dinas:

CERDDWYR ERAILL – Croeso cynnes i bawb:

Cymdeithas Edward Llwyd: teithiau hirach (pob ardal). www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk neu’r Ysgrifennydd Aelodaeth 02920 752382. 

Y Clonc Mawr: Teithiau misol, Sir Benfro. Facebook ‘Y Clonc Mawr’, Sarah Eastlake sarah.eastlake456@btinternet.com


Cerddwyr Cylch Teifi Walkers

2023 – 2024 Programme

An opportunity for Welsh speakers and learners to enjoy each other’s company while walking.

Walks on the second Saturday of every month, between October and June. Walks of about two hours usually, leaving the starting place at 10.30 every time – arrive by 10.20.

Organizers:

Terwyn & Marged Tomos, 01239 612928 terwynamarged@btinternet.com

Philippa Gibson, 01239 654561 philippa.gibson@gmail.com

Howard Williams

  • We will go on the walk every time, rain or shine, but phone if you would like more details.
  • Share cars to reach the starting point, if you can.

SAFETY

Remember that you are responsible for your own safety, and so: 

  • read the details of the walk to ensure that you are able to complete it without too much delay;
  • bring suitable clothing taking into consideration the time of year and weather forecast, especially suitable boots for wet and uneven ground;
  • keep contact with the rest of the group by keeping in front of the organizer who is at the back of the line of walkers;
  • let an organizer know if you leave the walk early;
  • keep dogs on a lead;
  • take special care when crossing roads and when walking:
    • along roads without a pavement;
    • on steep slopes;
    • on paths where there is a drop on one side as often occurs on coastal paths.

LEARNING WELSH?

Welsh will be the language of the walk, so if you are beginning to learn you may not be able to follow much of what is said but it is an ideal opportunity to use all the Welsh you have learned and you can ask others to give you the gist – but please try to avoid using ‘English-only’ in any conversation.

Programme 2023

For more details on the current program, click here to view the group’s newsletter.

  • October 14 – Terwyn Tomos – Aberteifi Area
  • November 11 – Ali Evans – Cilgerran Area
  • December 9 – Lesley Parker – Pont-Tyweli Area
  • January 13 – Howard Williams – Pen-parc  Area
  • February 10- Hedd Ladd Lewis – Boncath Area
  • March 9 – Gareth Wyn Jones – Llangrannog / Pontgarreg / Blaencelyn Area
  • April 13 – Geraint Volk – Moylegrove Area
  • May 11 – Dor Rawles – Cenarth  Area
  • June 8 – Judith Wainwright – Dinas Cross Area

OTHER WELSH WALKING GROUPS – Welcome to all

Cymdeithas Edward Llwyd: longer walks (all areas). www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk or the Membership Secretary 02920 752382. 

Y Clonc Mawr: Monthly walks, Pembs.
Facebook ‘Y Clonc Mawr’susan.carey@btinternet.com