Sesiwn Sgwrsio Nos Fercher
Nos Fercher 1af a 3ydd y mis, 7.30 – 8.30 – cyfarfod sgwrsio ar Zoom
Sesiwn dim Saesneg! Croeso i bawb, dysgwyr o bob lefel a siaradwyr rhugl: dewch bach yn gynnar os dych chi ddim wedi defnyddio Zoom o’r blaen.
https://zoom.us/j/93573179946?pwd=LzNmekZYTWhVT2pIR0d0VnNERHNFZz09
Meeting ID: 935 7317 9946
Passcode: 037381
Am ganllawiau ar sut i ddefynddio Zoom, ar eich cyfrifiadur, tabled, ffôn clyfar neu hyd yn oed eich ffôn land-line, cliciwch yma.
Os cewch chi broblemau ar y noson, ffoniwch ni ar 01239 654561.
1st and 3rd Wednesday of the month, 7.30 – 8.30 – a chat meeting on Zoom
Sesiwn dim Saesneg! Everyone welcome, learners of all levels and fluent Welsh speakers: arrive early if you’ve not used Zoom before.
https://zoom.us/j/93573179946?pwd=LzNmekZYTWhVT2pIR0d0VnNERHNFZz09
Meeting ID: 935 7317 9946
Passcode: 037381
For guidelines on how to use Zoom, on your computer, tablet, smartphone or even your land-line phone, click here.
If you have problems on the night, please call us on 01239 654561.
Bore Coffi i Ddysgwyr – Cymdeithas yr Iaith
Bydd y Gymdeithas yn cynnal ‘Bore Coffi’ i ddysgwyr dros Zoom am 10.00, bob yn ail fore dydd Mawrth.
Cyfle arbennig i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg a chwrdd â dysgwyr mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr! Bydd angen ebostio post@cymdeithas.cymru i gael cadarnhad o’r dyddiadau a linc i fynychu.
A note from Carol, at Cymdeithas yr Iaith:
Cymdeithas will be holding a fortnightly ‘Coffee Morning’ for learners over Zoom at 10.00, every other Tuesday morning.
A great opportunity for learners to practice their Welsh and meet learners in other parts of England and Wales! Email post@cymdeithas.cymru if you want to attend the event so they can send you a link.
Dished am Ddou
Cyfle arall am Baned a Sgwrs am 2.00 prynhawn ‘ma felly dyma’r manylion i alluogi chi “Zoomo” mewn:
Dechrau am 2:00, dydd Llun i ddydd Gwener
ID y cyfarfod (Meeting ID): 205 627 856
Cyfrinair (Password): 014927
Daily chat sessions for fluent Welsh speakers and higher level learners.
Coffi a Chlonc Sir Benfro
Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn cynnal sesiynau anffurfiol ar Zoom ar wahanol lefelau yn ystod yr wythnos, fel y canlyn – cysylltwch â’r tiwtor am fanylion mewngofnodi (bydd y sesiynau’n dechrau am 11.00am):
Learn Welsh Pembrokeshire are holding informal Zoom sessions at different levels during the week, as follows – contact the tutor for login details (sessions start at 11.00am):
- Dydd Llun – Mynediad / Monday – Entry Level
Dawn.Bowen@pembrokeshire.gov.uk - Dydd Llun – Canolradd / Monday – Intermediate
Gaynor.W-Lewis@pembrokeshire.gov.uk - Dydd Mercher – Uwch / Wednesday – Advanced
Dawn.Bowen@pembrokeshire.gov.uk - Dydd Iau – Sylfaen / Thursday – Foundation
TomosD.Hopkins@pembrokeshire.gov.uk
Dyddiadur Ursula – Firws Corona a Ni
Dyddiadur bach yn wahanol gan Ursula ym Mlaenporth yr wythnos hon, am resymau amlwg! Diolch i ti Ursula, a chawch yn sâff!
Fel yr haul fe gododd yn y dwyrain a lledaenu’n gyflymach na thân. Yn wahanol i’r haul mae wedi lladd miloedd lawer o bobl a bydd hyd yn oed mwy yn marw.
Mae’r firws hwn wedi lledaenu’n gyflymach na’r ffliw ac wedi effeithio ar fwy o bobl ledled y byd.
Dyn ni i gyd mewn perygl o’i gael ond mae’r perygl mwyaf i’r henoed a’r sâl.
Mae gwleidyddion yn sylweddoli eu bod yn ddi-rym yn erbyn y firws hwn ac mae angen iddynt weithio gyda’i gilydd. Rhaid i bleidiau gwleidyddol weithio gyda’i gilydd ac mae rhaid i wledydd wneud yr un peth i guro’r anghenfil hwn.
Fel optimist hoffwn edrych ar y pethau cadarnhaol: mae’r amgylchedd yn gwella, dyn ni’n dysgu llawer. Sut i gyd-fyw, rhaid i ni i gyd aros gartref! Sut i ddifyrru ein hunain oherwydd na allwn fynd allan i gwrdd â ffrindiau a theulu. Dyn ni’n treulio llawer mwy o amser ar y ffôn ac ar-lein yn siarad â’r bobl dyn ni’n poeni amdanyn nhw.
Dyn ni’n gwario llai o arian yn siopa oherwydd ni allwn fynd allan (dim ond siopa am fwyd).
Dyn ni’n helpu ein ffrindiau a’n cymdogion ac mae ein cymuned yn dod yn fwy gofalgar.
Rhaid i ni ddysgu rheolau newydd i gadw’n ddiogel ac mae’r rheolau ar gyfer holl bobl y byd. Rhaid i ni aros adref felly mae’r ffyrdd yn dawelach nag erioed. Mae arfarchnadoedd yn brysurach nag erioed ac rhaid i ni giwio yn y maes parcio. Rhaid i ni hefyd gadw pellter diogel i eraill. Mae petrol yn rhatach nag erioed (ond dyn ni ddim gallu mynd i unman).
Dyn ni ddim wedi cael y sefyllfa hon o’r blaen yn ystod ein hoes. Mae hyn yn ein huno ni i gyd. Mae’n drueni na allwn ni gael undod mewn amser heddwch.
Weithiau yr amser gwaetha yw’r amser gorau.
50 Miliwn o Siaradwyr Cymraeg?
(Diolch i Nigel Felin Bedw am rannu’r stori isod gyda ni…)
Weithiau mae hi’n dda byw mewn byd ffuglennol…
Mae hi wedi bod yn wythnos od iawn: ar ôl gwasgu’r bwtwn ar gyfer y dyfodol gorffennais lan yn yr oes Rufeinig. Roedd hi’n lwcus gallwn gofio sut i ddweud ‘gwydraid o win coch os gwelwch yn dda’ yn Lladin. Cymerodd dim ond eiliadau i fi chwilio am yr arian go iawn yn yr hen archifau. Ar ôl sgwrs od iawn gyda dyn tenau a doniol o’r enw Maximus, es i yn ôl i’r Tardis a gwasgais y bwtwn ‘gorffennol’, roeddwn yn gobeithio bod rhywun wedi chwarae jôc fach ac wedi cyfnewid y botymau. Roeddwn eisiau cyrraedd fy nosbarth Cymraeg yn Aberteifi rhywbryd ar ôl 23ain Mawrth 2021. Wrth gwrs roeddwn eisiau osgoi’r pla ‘a ddigwyddodd y flwyddyn flaenorol.
Wel, cyrhaeddais tua hanner awr cyn y dosbarth ac es i i Stiwdio 3 am goffi. Roedd hi’n anhygoel bod pob person ar y stryd ac yn y caffi yn siarad Cymraeg yn rhugl. Gwelais arwyddion yn hysbysebu dosbarthiadau Saesneg yn y Castell lle ro’n i’n arfer mynd i ddysgu Cymraeg. Allwn i ddim deall beth oedd yn digwydd. Penderfynais fynd lawer i’r llyfrgell a darllen yr hen bapurau newyddion. Wel, stori anhygoel oedd hi… Crëwyd brechlyn gan wyddonwyr Cymru a laddodd yr haint ac ar yr un pryd helpodd bob person i siarad Cymraeg fel siaradwr deallus.
Roedd hi fel cerdded rownd pencadlys BBC Cymru. Wrth gwrs iaith y De yw e oherwydd bod y labordy wedi’i leoli ar bwys Ffostrasol.
Ar ôl cyrraedd 50 miliwn siaradwr Cymraeg penderfynodd y prif weinidog greu deddf newydd yn datgan taw Cymraeg yw iaith gyntaf y Deyrnas Unedig.
Dal i fyw mewn gobaith – Nigel
Dyddiadur Ursula – Syrffio yn y Coed!
Dyn ni’n hoffi ceisio pethau newydd i gadw’n heini ond roedd hynny’n wahanol iawn.
Ar ôl Nadolig bwcion ni wyliau bach yn lle anrhegion Nadolig a phen-blwydd.
Rhaid i ni drefnu llawer o bethau i fynd i ffwrdd.
Aeth ein ci i fferm i aros gyda dynes neis iawn a’i chŵn.
Fel arfer dyn ni’n gofalu am ein ffrind yn Aberporth ond nawr penderfynon ni i fynd i fwrdd am dair noson.
Mae hi’n byw ar ei phen ei hun ac mae dementia ‘da hi. Oedd neb i ofalu amdani felly roedd rhaid i ni ffeindio cartref gofal iddi hi.
Daethon ni o hyd cartref hyfryd iawn ger Hwlffordd a cawson nhw ystafell i’n ffrind.
Roedd popeth yn mynd yn dda ac edrychon ni ymlaen at ein gwyliau bach.
Ac yna, rhagolygon y tywydd!! Roedd storm Ciara yn dod ac dyn ni’n mynd i aros mewn tŷ coeden!
Mae’r tŷ coed rhwng chwe choeden dderw a phedwar metr uwchben y ddaear.
“Dim problem!” meddai’r perchennog felly aethon ni!
Teithion ni yn ofalus o Flaenporth i Gemmaes a chyrraedd am dri o’r gloch.
Roedd ein tŷ coed ger afon fach a roedd twb poeth ‘da ni. Roedd y gwres ar gyfer y tŷ ac ar gyfer y twb poeth yn dod o dân coed. Yn gyntaf rhaid i ni rannu’r boncyffion – ymarfer corff da iawn!
Roedd y tywydd yn stormus iawn am bedwar deg wyth awr. Roedd y tŷ coed yn syrffio ymysg y coed derw. Roedd yn gyffrous ac ychydig yn frawychus ac yn swnllyd iawn.
Daeth adar a gwiwerod i gael cinio gyda ni a thynnais i lawer o luniau.
Cawson ni siglen rhaff a hamog! Gall oedolion cael hwyl fel plant!
Naethon ni ddim gormod, dim ond darllen, cysgu, bwyta ac ymlacio. Weithiau eisteddon ni yn yr hamog ac edrych ar y bale coed neu mwynhau y twb poeth.
Mae tridiau a thair noson ddim yn digon hir ond roedd yn wyliau hyfryd ac ymlaciol a dysgon ni gamp newydd – syrffio yn y coed!
[wedi’u canslo] Dwy Gomedi Fer – Cwmni Drama Llandudoch
Yn anffodus, mae perfformiadau Cwmni Drama Llandudoch wedi’u canslo am eleni.
Unfortunately, this year’s performance have been cancelled.
Cawl, cân a sgwrs
Ymunwch â ni yng Nghaffi’r Castell (gyferbyn â mynedfa’r castell) i ddathlu Gŵyl Dewi ar ddydd Iau, y 5ed o Fawrth am 12 o’r gloch.
£5 y pen (cawl llysieuol ar gael).
Rhowch wybod i’ch tiwtor erbyn 13 Chwefror os ‘dych chi am fynd, os gwelwch yn dda.
Croeso cynnes i bawb.
Come and join us in the Castle Cafe opposite the main entrance to the castle to celebrate St David’s Day at 12 o’clock on Thursday, 5th of March.
£5 a head, vegetarian option available.
Please let your tutor know if you would like to take part by 13 February.