Cerddwyr Cylch Teifi: Dydd Sadwrn 8fed Chwefror 2020
Abergwaun
Arweinydd: Siân Bowen
Byddwn yn gadael maes parcio’r dref (’Y Wesh’ – SM 954371; SA65 9NG; tâl) am 10:30yb
Y Daith: Taith o amgylch Abergwaun (2½ milltir, hyd at 2½ awr) ar hyd rhan o lwybr Arfordir Cymru a llwybrau cyhoeddus eraill. Mae’r llwybrau yn gadarn (tarmac ar y cyfan) ond mae ambell fan yn serth.
Dim sticlau; esgyniad tua 360 troedfedd.
Pwyntiau o ddiddordeb: Hanes Glaniad y Ffrancod 1797; hanes porthladd Wdig a rheilffordd Abergwaun; ymweld â cherrig Gorsedd Eisteddfod Abergwaun 1936; cofeb D.J. Williams; carreg fedd Jemima Nicholas (arwres ‘Glaniad y Ffrancod’); golygfeydd godidog o harbwr Wdig a Chwm Abergwaun.
Cymdeithasu dros luniaeth wedyn: Tafarn y Royal Oak.
Cerddwyr Cylch Teifi Walkers: Saturday 8th February 2020
Fishguard
Leader: Siân Bowen
We’ll leave the town car park (West Street – SM 954371; SA65 9NG; charge) at 10:30am
The Walk: A walk around Fishguard (2½ miles, up to 2½ hours) along part of the Wales Coast Path and other public footpaths. The paths are firm (mostly tarmac) but there are some steep spots. No stiles; ascent about 360 feet.
Points of interest: The story of the French Landing 1797; the history of Goodwick port and Fishguard railway; visiting the Gorsedd stones of the 1936 Fishguard Eisteddfod; memorial to D.J. Williams; the tombstone of Jemima Nicholas (heroine of the ‘French Landing’); spectacular views of Goodwick harbor and the Fishguard Valley.
Afterwards socialize for refreshments: The Royal Oak.