Nos Fercher, Hydref 16eg 2024 Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh Y Prifardd Dr Aneirin Karadog Testun: “Bachgen Bach o Bonty” Llywydd: Mr Philip Ainsworth
Nos Fercher, Tachwedd 20fed 2024 Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh Mr Gerwyn Morgan Testun: “Boneddigion Godre Dyffryn Teifi” Llywydd: Mrs Anne Thorne
Nos Fercher, Ionawr 15fed 2025 Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh Yr Athro David Thorne Testun: “Eglwys Waunifor” Llywydd: Canon Aled Williams
Nos Fercher, Chwefror 19eg 2025 Neuadd yr Eglwys, Llandysul 7.30yh Noson yng nghwmni yr arlunwyr Meirion a Joanna Jones Llywydd: Mr David Lewis
Mawrth 9fed 2025 – Sul Cenedlaethol Eglwys Sant Tysul, Llandysul, 10yb Gwasanaeth o dan ofal Canon Gareth Reid
Nos Sadwrn, 7 Medi 2024 am 7:00 Trafod Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yng nghwmni’r prif enillwyr Cadeirydd: Y Prifardd Tudur Dylan
Nos Wener, 4 Hydref 2024 am 7:30 Jo Heyde – Cân y Croesi (Bardd y Mis Radio Cymru, Gorffennaf 2024)
Nos Wener, 1 Tachwedd am 7:30 Carwyn Graves – Tir: ein tirwedd diwylliannol
Nos Wener, 7 Rhagfyr am 7:00 Cinio Nadolig Gydag adloniant
2025
Nos Sul, 12 Ionawr 2025 am 7.00 Gwasanaeth y Plygain, Capel Blaenannerch
Nos Wener, 7 Chwefror am 7:30 Emyr Llywelyn, Carol Davies ac Owenna Davies: Noson i ddathlu hiwmor Emyr Pen-rhiw a’r diweddar Dai Rees Davies
Nos Wener, 7 Mawrth am 7:00 Cawl ac Eisteddfod Gŵyl Dewi Beirniad: y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan
Nos Wener, 4 Ebrill am 7:30 Alis Hawkins – Pechodau’r Gorffennol: ffuglen drosedd hanesyddol
Nos Wener, 2 Mai am 7:00 Cyfarfod Blynyddol a Swper y Gymdeithas
Mis Mehefin Taith y Gymdeithas (y manylion i ddilyn)
Cyfarfodydd i’w cynnal yn Nhafarn Ffostrasol am 7:30 yh ar nos Lun, oni nodir yn wahanol
16 Medi 2024 Cennydd Jones “Meillion a’u gwerth i ffermwyr Cymru.”
21 Hydref 2024 Huw Williams “Cofio (ac anghofio) cawr o Gymro: Richard Price, apostol rhyddid.”
18 Tachwedd 2024 Euros Lewis “Straeon celwydd golau.”
16 Rhagfyr 2024 Sam Robinson Y bardd a’r bugail o Fachylleth – a’r gwneuthurwr seidr.
20 lonawr 2025 Cerys Lloyd, Prifysgol Aberystwyth “Tywydd Eithafol.”
Nos Sadwrn, 25 lonawr 2025 yn Neuadd Coed y Bryn Cyngerdd gan ‘Pedair’ – Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James Dathlu Santes Dwynwen (dyddiad ychwanegol).
17 Chwefror 2025 Marian Delyth “Hanner can mlynedd o dynnu lluniau.”
17 Mawrth 2025 Emyr Llywelyn, Carol Davies, Owenna Davies ‘Y Maes a’r Môr’ Dathlu Gwyl Ddewi mewn can a cherdd.
28 Ebrill 2025 (dyddiad newydd) Beti George Dathlu deugain mlynedd o gyfiwyno Beti a i Phobl.
Wedi cael neges gan Nia Llywelyn sy’n rhestri rhai o’r digwyddiadau Cymraeg yn Nyffryn Aeron a Llanbedr Pont Steffan:
4 Tachwedd, 7:30 pm. Bingo Bananas gyda’r comediwr Noel James yn Castle Green, Llanbed, raffl ar y noson. Croeso i bawb
12 Tachwedd 3:30 pm. Sgwrs ar y Sul gyda Geraint Morgan. Bywyd fferyllydd! Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron.
24 Tachwedd 7:30 pm. Noson o Farddoniaeth a bach o ffidil gyda Iestyn Tyne. Yn cefnogi mae’r prifardd Hywel Griffiths. Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron. Croeso i bawb
25 Tachwedd 7:30 pm. Noson gyda Owen Shiers, Cynefin. Neuadd Fictoria, Llanbed. Pris mynediad £5, £3 i blant
10 Rhagfyr 3 pm. Sgwrs ar y Sul gyda teulu Gwarffynnon. Dewch i glywed sut wnaeth Gwarffynnon ddechrau bar llaeth. Tafarn y Vale, Dyffryn Aeron.
12 Ionawr 7:30 pm. Noson Y Fari Lwyd gyda Gwilym Bowen Rhys, Neuadd Fictoria, Llanbed £5 oedolion, £3 plant. Croeso i bawb.
Chwefror 14 David Grace, Aberteifi. Testun: “Cadw Gwenyn”.
Dathlu Gwyl Ddewi 2024: Mawrth 1 Cinio’r Tair Cymdeithas yn y Clwb Golff, Gwbert tan ofal Cymrodorion Aberteifi a’r Cylch. 7.00 am 7.30 y.h. Y Gwestai: Rhian Morgan (actores), Llandeilo.
Mawrth 3 Oedfa’r Cymdeithasau yng ngofal Cylch Cinio Teifi yng Nghapel Mair, Aberteifi am 6.00 y.h. Pregethwraig Wadd: y Chwaer Gwendolyn Evans, Nanternis.
Mawrth 13 Huw Lewis, Tremain. Testun: “Patrymau tywydd dros yr hanner canrif ddiwetha'”
Ebrill 10 Richard Lewis (Prif Gwnstabl) a Dafydd Llywelyn (Comisiynydd) Heddlu Dyfed Powys Testun: “Plismona yng Nghymru a Datganoli”
Naethon ni benderfynu y llynedd i gael gwyliau ar Ynys Enlli ond cafodd hynny ei ganslo oherwydd Covid. Ron ni’n ffodus iawn i fynd eleni felly ar Enlli am wythnos ym mis Mehefin – am ddiwrnod hiraf y flwyddyn!
Dyma fy nyddiadur Enlli:
Dydd Sadwrn: Cyrhaeddon ni mewn cwch o Benrhyn Llyn, dim ond 20 munud. Daethpwyd â’n bagiau i’r bwthyn bach, o’r enw LLOFFT PLAS. Bwthyn bach hyfryd yw hwn i ddau o bobl gyda golygfa goleudy! Mae’r ffermwyr yn coginio ac yn dod â’r prydau i’r bwthyn – fel DELIVEROO ond yn well! Dechreuon ni’r diwrnod hwn yn gynnar iawn felly aethon ni i’r gwely yn gynnar hefyd! Yn barod ar gyfer dydd Sul — ein diwrnod llawn cyntaf ar Enlli!
Dydd Sul: Cawsom frecwast yn yr ardd fach o flaen ein bwthyn, yn edrych ar y goleudy coch a gwyn a 10m o daldra, nefoedd! Roedd hi mor heddychlon, dim ceir, dim teledu na radio na ffonau symudol …. Dim ond synau adar a synau defaid a gwartheg. Ar ôl brecwast aethon ni i weld y goleudy a’r morloi. Roedd yna lawer o forloi yn yr harbwr, yn chwarae gyda’i gilydd yn y môr ac yn torheulo ar y creigiau. Roedd y tywydd yn hyfryd, eisteddon ni am hanner dydd am bicnic, gan fwynhau’r lle arbennig hwn. Mae popeth yn arafu pan wyt ti ar ynys! Gwelson ni bâl, hugan, mulfran, llawer o biod y môr swnllyd iawn ac yn y nos canodd y aderyn drycin manaw: “NETANYAHU” – dw i ddim yn gwybod sut maen nhw’n gwybod ei enw ……
Dydd Llun: Dringon ni fynydd Enlli, dim ond 167m o uchder, ond gyda golygfa hardd dros y don i Benrhyn Llŷn. Dreulion ni ychydig o oriau yn eistedd, edrych a gwrando. Gyda’r nos ron ni’n chwarae SCRABBLE ENLLI – dim ond geiriau am Enlli. Naethon ni benderfynu dod yma bob blwyddyn ar gyfer ein gwyliau – mae’n agos at adref (dim ond 3 awr!!) mewn car ond mae fel lle gwahanol iawn, arbennig iawn.
Dydd Mawrth: Mae Enlli yn 2.5 milltir o hyd a 1.5 milltir o led felly aethon ni am dro diddorol a hir iawn. Gwelson ni’r capel a’r fynwent a darllen am hanes Enlli. Naethon ni gwrdd â wardeiniaid Enlli ac oedd ar y teledu ar “Garddio a Mwy” S4C fis yn ôl. Ron ni am weld eu gardd a siarad am arddio yno. Ac yna naethon ni feddwl am wirfoddoli yn Enlli a gweithio fel garddwyr ym mis Hydref.
Hwrê!!!! Dyn ni’n dod yn ôl!!!
Dydd Mercher a dydd Iau: (roedd y tywydd hyfryd, heulog a dim llawer o wynt- yn bwysig iawn pan wyt ti’n ar gwch bach ar y môr!!)
Mae’r ffermwr hefyd yn bysgotwr ac yn mynd i bysgota am grancod a chimychiaid bron bob dydd. Am ddau ddiwrnod aethon ni gydag ef a dysgu llawer am bysgota a’r môr!
Mae’n gweithio’n galed iawn ond mae hefyd yn gynaliadwy iawn, mae’n mesur y cimychiaid yn ofalus iawn!
Naethon ni fwyta dau bryd gyda chrancod ffres iawn!
Dydd Gwener:
Roedd y tywydd yn wyntog ac yn bwrw glaw trwy’r dydd ond aethon ni am dro beth bynnag oherwydd roedd hi’n ddiwrnod olaf i ni ar Enlli ac ron ni am brofi’r holl dywydd gwahanol – cawson ni ein dillad gwrth-ddŵr a mwynhau’r diwrnod! Roedd rhaid i ni gael ein te prynhawn olaf a ffarwelio â’r ffermwyr a’r wardeiniaid. Ron ni’n drist iawn gadael Enlli ond yn hapus i ddod yn ôl ym mis Hydref!